skip to main content

Agenda item

Gosod 8 cabanau pren a chreu 'boardwalk' a gosod system trin carthffosiaeth a phlannu coed cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd R Glyn Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Gosod 8 cabanau pren a chreu 'boardwalk' a gosod system trin carthffosiaeth a phlannu coed cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)      Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn gais llawn oedd yn bwriadu darparu 8 caban pren ar gyfer defnydd gwyliau a chreu rhodfa bren a phlannu coed cysylltiol. Ategwyd bod bwriad hefyd i ddarparu man parcio ar y cyrion. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn cwm ar gyrion ffordd ddi-ddosbarth sy’n rhedeg heibio’r goedlan tua fferm ymhellach draw. Ategwyd bod y bwriad hefyd o osod y cabanau ar bolion pren, fel na fydd yr unedau yn cael eu hadeiladu ar lawr y goedlan, gyda modd eu cyrraedd ar droed drwy ddefnyddio’r rhodfa bren, sydd hefyd wedi ei godi ar bolion pren.  Mae bwriad cysylltu’r cabannau gyda phibellau dŵr, trydan a system garthffos.

 

O ran egwyddor nodwyd bod y cais yn bwriadu sefydlu safle gwersylla amgen ar gyfer gosod 8 caban pren hunangynhaliol ar gyfer defnydd gwyliau.  Oherwydd natur adeiladu a ffurf yr unedau, yn ogystal â’u maint, eglurwyd bod datblygiad o’r fath yn cael ei ystyried fel llety gwersylla amgen parhaol ac felly fe’i hystyriwyd o dan ofynion perthnasol polisi TWR 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol.  Adroddwyd bod polisi TWR3 yn gwrthod cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog, safleoedd siale gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen parhaol yn AHNE ac mewn Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Yn yr achos yma, nid yw’r datblygiad arfaethedig o fewn AHNE, ac nid yw’n agos i ddynodiad ardal Tirwedd Arbennig.

 

Ystyriwyd bod yr unedau, fydd wedi eu gosod yn y coed o ddyluniad naturiol ac nad felly yn  ymwthiol i’r dirwedd. Eglurwyd y bydd angen gwneud gwaith clirio lleiafrifol ond bydd y safle yn parhau  i dirweddu yn naturiol. Cyfeiriwyd at faterion bioamrywiaeth a’r sylwadau hwyr a dderbyniwyd. O ran egwyddor gellid ystyried bod  effaith y bwriad yn dderbyniol, ond nad oedd mesuriadau lliniaru wedi eu cytuno. Er na fyddai colled o goedlan, amlygwyd y byddai’r ymgeisydd yn barod i liniaru’r effaith ac wedi adnabod darn o dir lle gallent liniaru effaith y datblygiad. Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi ymateb drwy nodi nad oeddynt wedi  asesu'r safle a awgrymwyd yn addas ac nad oeddynt yn gwybod beth oedd gwerth ecolegol y tir. O ganlyniad, amlygwyd addasiad i’r  argymhelliad o ddirprwyo’r hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i gytuno ar y mesuriadau lliniaru.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Angen sicrhau bod coed cynhenid yn cael eu plannu

·         Awgrym i wneud y gwaith lliniaru cyn dechrau ar y datblygiad

·         Bod angen ymgynghori gyda’r Gwasanaeth Tân

 

Mewn ymateb, i’r sylw ynglyn a’r gwaith lliniaru, amlygodd yr Uwch Reolwr y byddai cynllun digolledu, fyddai yn gwneud i fyny am y gwaith clirio, yn cael ei gyfarch yn y cynllun rheolaeth. Mewn ymateb i sylw yn ymwneud a’r Gwasanaeth Tân amlygwyd y bydd y trafodaethau hyn yn cymryd lle wrth i’r ymgeisydd wneud cais am drwydded.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl i ganiatáu y cais yn ddarostyngedig i gytuno ar  fesuriadau lliniaru.

 

            Amodau:

 

1. Amser

2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

3. Tirlunio

4. Bioamrywiaeth

5. Cyfyngu nifer yr unedau ar y safle i 8 ar unrhyw adeg

6. Defnydd gwyliau yn unig.

9. Cadw cofrestr

10. Dŵr Cymru

11. Tir Llygredig

 

Dogfennau ategol: