Aelod Cabinet: Cynghorydd Dilwyn Morgan
I dderbyn adroddiad ar yr uchod.
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ar yr uchod a chymerodd y cyfle
i ddiolch i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am eu diddordeb a’u cefnogaeth i’r
Gwasanaeth.
Roedd yr adroddiad
yn amlinellu cefndir, niferoedd o blant mewn gofal, cymhariaeth gyda Siroedd
eraill, achosion Llys a gwybodaeth ynglyn â’r Tîm Trothwy. Nododd bod niferoedd plant mewn gofal ar
gynnydd ond prysurwyd i ddweud ei fod yn batrwm cenedlaethol. Ar hyn o bryd nodwyd bod Elusen Nuffield yn
gwneud adolygiad gwerthfawr yn edrych i fewn i orchmynion gofal a hyderir y
ceir adborth o’r adolygiad hwnnw yn fuan.
Gwnaed cyfeiriad at y graffiau cymhariaethol o fewn yr adroddiad ac er y
gwelir cynnydd yn y cyfanswm o blant mewn gofal eleni nodwyd bod negeseuon
positif hefyd yng nghynnwys yr adroddiad
Rhoddwyd cyfle i
Aelodau graffu cynnwys yr adroddiad ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ynghyd
â’r ymatebion gan y swyddogion perthnasol:
(a)
O edrych ar y graff ar dudalen 17 o’r adroddiad,
pryderwyd bod ffigwr o blant mewn gofal ar gyfer Gwynedd yn ymddangos yn uchel
i gymharu â Siroedd eraill a gofynnwyd beth ellir ei wneud i’w ostwng? A oes patrwm daearyddol i’r ffigyrau o fewn
Gwynedd?
Mewn ymateb,
nodwyd yn raddol dros amser bod y ffigwr wedi cynyddu i 227 ym mis Mawrth ac yn
230 ar gyfer mis Ionawr. ‘Roedd yn anodd
i’r Gwasanaeth ragweld faint o gyfeiriadau a ddaw i fewn a bod rhaid gwneud
penderfyniadau yn unol â’r trothwyon.
Sefydlwyd y Tim Trothwy er mwyn ceisio cadw’r niferoedd i lawr a
llwyddwyd i newid patrwm drwy ddychwelyd plant adref lle bo hynny’n ddiogel.
Pwysleiswyd hefyd na dderbyniwyd gwybodaeth cyflawn gan siroedd eraill ond
ymddengys bod cynnydd ymhob un awdurdod yn y flwyddyn ddiwethaf a rhaid
ystyried hefyd natur poblogaeth y siroedd.
Rhaid rhoi
ystyriaeth i’r ffaith bod y Gwasanaeth yn gweithredu i ddiogelu plant ac yn y
modd mwyaf priodol. Tra’n cydnabod bod
niferoedd yn ymddangos yn uchel, bod proffil y plant sydd mewn gofal yn ffactor
i’w ystyried ac a oedd y Gwasanaeth yn gweithredu i ddiogelu plant yn y modd
mwyaf priodol. Cydnabuwyd bod cynnydd yn
y cyfeiriadau a dderbynnir ond rhaid cofio am ddwysder, cymhlethdodau achosion
a sicrhawyd y Pwyllgor bod y Gwasanaeth yn ymateb yn brydlon, yn amserol ac yn
cymryd camau i ddiogelu ymhob achos.
Ychwanegwyd bod y Gwasanaeth yn adnabod risgiau ac yn ymateb iddynt drwy
roi cynlluniau priodol yn eu lle i ddiogelu plant.
O safbwynt patrwm
daearyddol, nodwyd bod niferoedd yn amrywio ar draws y Sir.
(b)
Pa mor
lwyddiannus ydoedd plant mewn gofal yn addysgiadaol, ac a yw’r ffaith eu bod yn
symud o leoliad i leoliad yn ffactor sy’n cyfrannu at hyn?
Nodwyd, yn
gyffrediniol bod canlyniadau addysgiadol ar lefel TGAU a Lefel A ymysg y gorau
yng Nghymru oherwydd y gefnogaeth a dderbynnir.
Tra’n derbyn bod adegau lle mae plant yn gorfod symud o un lle i’r llall, sicrhawyd nad oedd hyn yn
bryder i’r Gwasanaeth ac mai’r mesurydd ydoedd 3 lleoliad neu fwy mewn cynnig
sefydlogrwydd. Ceisir cadw plant o fewn
dalgylch ysgol ond weithiau nodwyd nad oedd hyn yn bosibl oherwydd rhesymau
diogelwch a rhaid ystyried lles y plentyn.
Cadarnhawyd y gwneir pob ymdrech i’w cadw yn eu hysgolion ond ar adegau
bod hyn yn anodd i’w osgoi oherwydd methiant i gael lleoliad ymarferol. Yn ogystal, wrth ystyried diogelwch plentyn,
fe gymerir i ystyriaeth teulu estyngedig / ffrindiau sydd yn edrych ar eu hôl
ac weithiau golygai hyn gryn bellter o’u hysgol ond bod y plentyn yn cadw o
fewn y teulu.
(c)
Am pa hyd y
ceir cefnogaeth y Tim Trothwy?
Nodwyd nad oedd
amserlen penodol wedi ei bennu a rhoddwyd engraifft o’r Tim yn gweithio hefo
teulu am 18 mis.
(ch) Faint o blant sydd wedi eu lleoli tu
allan i Gymru?
Nodwyd bod plant
wedi eu lleoli mewn siroedd cyfagos megis Ynys Môn, Conwy ac yn aml bod y
lleoliadau hyn yn agosoch i gartref y plentyn.
‘Roedd mwyafrif o’r plant sydd wedi eu lleoli tu allan i Gymru mewn
unedau preswyl arbenigol oherwydd natur a dwysder eu anghenion a’r angen am
therapi arbenigol.
(d)
O safbwynt
gwaith y Tim Trothwy, teimlwyd o gynnwys yr adroddiad ei fod yn anodd i’r
Pwyllgor graffu a mesur llwyddiant y Gwasanaeth.
Tra’n derbyn y
sylw, nododd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod y Gwasanaeth wedi atodi
astudiaeth achos i’r adroddiad fel engraifft o’r gwaith a wneir gan y Tim
Trothwy ond i’r dyfodol awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor Craffu
dderbyn cyflwyniadau arbenigol ar waith y Tim Trothwy.
Ymhelaethwyd o ran
ystadegau, hyd at Ebrill diwethaf bod y Tim Trothwy wedi gweithio gyda oddeutu
166 o blant gyda 66% yn dangos cynnydd, ac o’r rheiny ‘roedd 63% o’r plant yn
parhau i fyw adref. ‘Roedd gwahanol agweddau
o lwyddiant ac yn sicr gellir cyflwyno mwy o wybodaeth i’r dyfodol.
Yn ogystal, nodwyd
bod y Gwasanaeth yn casglu barn teuluoedd a phlant am y gefnogaeth a bod hyn yn
cyfrannu at fesur llwydddiant unrhyw Dîm.
(dd) O ystyried y ffigyrau yn nhabl 6 o’r
adroddiad, ymddengys mai Gwynedd sydd â’r cynnydd mwyaf gyda Sir Ddinbych wedi
gostwng. Tybed felly a ydoedd
trefniadau gwahanol yng Ngwynedd o’i gymharu ag awdurdodau eraill?
Nodwyd bod y sylw
uchod yn anodd i’w ateb, ond o safbwynt Gwynedd, gwelir cymhlethdodau yn dwysau ond ‘roedd y Pennaeth Gwasanaeth yn hollol hyderus ei bod yn ymateb yn
amserol. Daeth cyfarwyddyd a grantiau
o’r Llywodraeth i ddatblygu Timau Trothwy a gwelwyd manteision o gael Tim
Trothwy ers 3 blynedd bellach, e.e. adnabod problemau ynghynt. ‘Roedd yn anodd gwneud cymhariaeth â siroedd
eraill onibai y gwneir arolwg o’u trefniadau, ond nodwyd bod pob awdurdod yn
cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol
ar gyfer diogelu plant, ynghyd a’r prosesau Llys. Sicrhaodd y Pennaeth Gwasanaeth nad oedd yn
or-bryderus am y ffigyrau oherwydd gwyddai bod pob plentyn yn derbyn y
gwasanaeth angenrheidiol.
(e) A oedd yn bosibl
bod y cynnydd yn dangos llwyddiant a / neu ddiffyg? A oedd ymarferion da yn cael eu rhannu o fewn
awdurdodau?
Nododd y Pennaeth
Gwasanaeth nad oedd yn ystyried y
ffigyrau yn fethiant oherwydd sicrhaodd bod y Gwasanaeth yn ymateb i anghenion
plant ac ddim yn diystyru beth ydoedd risgiau.
O safbwynt rhannu ymarfer da, sicrhaodd bod hyn yn digwydd yn rheolaidd
mewn cyfarfodydd Penaethiaid Plant ar draws y Gogedd. Yn ogystal, roedd gwaith cenedlaethol yn mynd
rhagddo drwy’r “Ministerial Advisory Group” gyda’r Pennaeth Gwasanaeth yn
cynrychioli Penaethiad y Gogledd ar y grwp hwn. ‘Roedd yn edrych ar 4 ffrwd
gwaith ac un o’r rheiny ydoedd rhesymau pam bod cynydd yn y niferoedd. Hefyd, nodwyd ar hyn o bryd, bod chwe
awdurdod wedi eu dewis fel rhan o broses archwiliad gan y “Care Inspectorate
Wales”. Golygai hyn adroddiad ar gyfer
pob sir ac un cyfansawdd cenedlaethol a fydd yn gwneud argymhellion er symud
ymlaen. Sicrhawyd felly bod gwaith
datblygu yn mynd rhagddo yn rhanbarthol, is-rhanbarthol a chenedlaethol.
(f)
O safbwynt
faint mor hir oedd plant yn destun Gorchymyn Gofal, esboniwyd bod hyn yn
amrywio ond fe fyddir yn craffu lleoliadau pob deufis. Fe fyddir yn gwneud darn o waith gyda’r Tim
Trothwy ac fel Gwasanaeth yn craffu o fewn prosesau gwaith y timau.
(ff) Faint o gefnogaeth gaiff plentyn mewn
achosion Llys a beth ydoedd trefniadau o ran
cyfrinachedd?
Eglurwyd bod pob
plentyn yn agored i Weithiwr Cymdeithasol a gwaith trylwyr yn cael ei wneud
gyda’r plentyn. Yn ogystal, nodwyd bod
plentyn yn cael gwarcheidwad sef person annibynnol yn gweithio i’r Llys ar ran
y plentyn. Fe fydd y gwarcheidwad yn aros hefo’r plentyn tan fydd penderfyniad
y gorchymyn yn ei wneud. O safbwynt
plant dros 8 oed, maent yn cael cynnig eiriolaeth gan eirolwyr annibynnl sydd
yn gweithio i fudiad cenedlaethol.
O ran
cyfrinachedd, sicrhawyd bod trefniadau yn hynod o gadarn. Fel Pennaeth Gwasanaeth sicrhaodd ei bod
yn adnabod pob un o’r plant sydd mewn
gofal. Yn ogystal ceir trefniadau o Uwch
Reolwyr yn gorchuwylio, cynhelir paneli craffu lleoliadau, ac edrychir ar
wahanol cohort o’r plant ymhob cyfarfod.
Roedd y Pennaeth yn gyfrifol ar ran yr awdurdod fel penderfynydd yr
Asiantaeth er mwyn gwneud penderfyniadau terfynol mewn materion mabwysiadau,
triniaeth feddygol, gwyliau, maethu, a.y.b.
(g)
Ar lawr gwlad, faint o wasanaeth da mae’r plentyn
yn gael? A yw’r ffigyrau yn cynnwys plant
gydag anabledd? Beth ydoedd oedran y
plant?
Cadarnhawyd nad
oedd ‘run plentyn anabl mewn lleoliad preswyl, ‘roedd 5 mewn lleoliad maethu
oherwydd ffactorau diogelu. Ychwanegwyd
bod proffil o ran pobl ifanc wedi newid oherwydd cefnogaeth y ddarpariaeth sydd
yn cefnogi teuluoedd adref a chyfle i deuluoedd allu derbyn egwyl fer yn Hafan
y Ser.
O safbwynt oedran
y plant, nodwyd bod y ffigyrau yn cynnwys plant hyd at 18 oed, yna ceir
trefniadau ar gyfer unigolion o 18 - 25 oed.
O’r 220, nodwyd bod patrwm gyda mwyafrif y plant yn yr oedran ifanc dan
5 oed a’r gweddill yn eithaf gwasgaredig ar draws yr oedran ond addawyd i anfon
y proffil ffigyrau i’r Cynghorydd Elin Walker Jones yn unol â’i dymuniad.
(h)
Pa gamau a wneir i sicrhau diogelwch i’r plant sydd
dan risg, a pham bod cost trefniant preswyl tu allan i Wynedd yn uchel?
Esboniwyd, mewn
rhai amgylchiadau, mai’r plant mewn gofal gyda rhieni sydd yn achosion gyda mwy
o risg ond sicrhawyd bod yr achosion yn cael eu craffu yn rheolaidd. Ychwanegwyd bod y cyfrifoldebau yn union ‘run
fath gyda mynediad i Weithiwr Cymdeithasol ond hefyd yn derbyn adolygiadau
statudol.
Eglurwyd bod y
lleoliadau preswyl arbenigol ar gyfer pobl ifanc sydd a phroblemau dwys yn
ddrud ac nad oedd darpariaeth o’r fath ar gael yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag,
nodwyd bod gwaith rhanbarthol yn mynd rhagddo i weld os ydoedd yn bosib i gael
darpariaeth o’r fath. Nodwyd bod y
costau yn uchel oherwydd staffio a’r lleoliadau yn gallu codi pris gan bo
cymaint o alw am ddarpariaeth penodol.
(i)
Pa drefniadau sydd ar gael i faethwyr /
mabwysiadwyr er mwyn eu cefnogi yn enwedig gyda phobl ifanc gyda phroblemau
emosiynol?
Eglurwyd bod y
drefn mabwysiadu yn wasanaeth rhanbarthol a gwaith trylwyr yn cael ei wneud o
ran asesiadau, adnabod cynllun ar gyfer y plentyn.
Esboniwyd y gwneir
y canlynol:
·
Darparu hyfforddiant
·
Prynu rhaglenni arbenigol gan fudiadau eraill
·
Hyfforddi gweithwyr
·
Cryfhau sgiliau
(j)
Faint o niferoedd o geisiadau sydd gan Weithwyr
Cymdeithasol yn agored ar un adeg? Sut
ydoedd moral staff?
Nodwyd nad oedd
gan Weithwyr Cymdeithasol ddim mwy na 22 achos ar unrhyw adeg sydd yn gymharol
isel o’i gymharu â rhai siroedd cyfagos.
Eglurodd yr Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod moral y staff yn uchel o ystyried eu bod dan
bwysau ac yn gorfod ymdrin a darparu adroddiadau cymhleth. I brofi hyn nodwyd
bod trosiant staff yn nemor ddim gyda phawb yn aros i weithio i Wynedd. O’i brofiad yn mynd o amgylch y timau gyda’r
Pennaeth Gwasanaeth, gwelwyd dimau hynod ymroddgar.
(k)
Pa gefnogaeth a roddir i deuluoedd pan yn adnabod
diffyg?
Esboniwyd y ceisir
cydweithio gyda rhieni sydd yn disgwyl am wasanaeth ond o bryd i’w gilydd ei
bod yn anodd cael cyfeiriadau sydd angen sylw brys oherwydd pwysau yn y gwasanaeth
CAHMS.
(l)
Er gwybodaeth, nodwyd bod rhaid dilyn mesurydd sef
28 diwrnod o ran asesiad ar gyfer iechyd
meddwl.
(m) Atgoffwyd yr
Aelodau o’u cyfrifoldeb fel rhiant corfforaethol ac anogwyd hwy i fynychu’r
hyfforddiant.
Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad
a’r ymatebion cadarnhaol uchod.
Dogfennau ategol: