Agenda item

Aelod Cabinet:          Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ar yr uchod gan nodi ei fod yn strategaeth gyffrous tu hwnt.  Roedd gwaith hanesyddol o waith ataliol llwyddiannus ond rhaid addysgu o weithio’n integredig a phwysigrwydd i’r unigolyn gyda esiampl perffaith o hyn yn weithrediad Cynllun Ysbyty Alltwen.  Nodwyd bod Adolygiad Seneddol i Iechyd a Gofal yng Nghymru yn cyfeirio i ddatblygu gwasanaethau gofal sydd yn ddi-dor ac yn gyfleus ac agos i adref. Y bwriad ydoedd gwneud y gwasanaethau yn llawer mwy integredig o fewn y Cyngor, partneriaethau eraill a gobeithio canolbwyntio pawb ar ymyrraeth gynnar, gan dargedu teuluoedd yn y ffordd gywir a chynnig gwasanethau fydd yn lleihau’r angen nes ymlaen am ymyrraeth llawer mwy dwys.  Cydnabuwyd bod dyletswydd ar bawb i ddiogelu plant a phobl ifanc ond rhaid rhoi ffocws ar ymdrin â’r materion yn gynnar a hyderir y byddir yn brysur ddatblygu’r meddylfryd o fewn y Cyngor a phartneriaethau allanol.  Cam positif a wnaed ydoedd trosglwyddo swyddog o’r Adran Economi i Adran Plant a Theuluoedd sydd yn rhoi capasiti ychwanegol o fewn yr Adran. 

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac amlygwyd y canlynol:

 

(a)              Cyfeiriwyd at raglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r gydnabyddiaeth bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiannus gyda mewnbwn y trydydd sector yn allweddol e.e. Cyngor ar Bopeth.  Os oedd y rhaglenni yn llwyddiannus, gofynnwyd pam sydd raid newid y model?

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth, mai penderfyniad gan y Llywodraeth ydoedd dileu y grantiau i’r trydydd sector a gyfer datblygu llythrennedd ariannol.  Yn ystod y flwyddyn drosiannol, Gwynedd oedd yr unig awdurdod ddaru ariannu y llynedd ond tra’n derbyn eu bod wedi bod yn llwyddiannus, nid oedd yn bosib i  ymestyn y ddarpariaeth oherwydd diffyg adnoddau ariannol a’r canllawiau cenedlaethol. Ychwanegwyd, nad oedd hyn yn golygu na ellir cyfeirio teuluoedd i Cyngor ar Bopeth ondroedd yr arian yn arfer sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth.

 

O ran y model arfaethedig, dysgwyd llawer o’r manteision a’r budd dros y 5 mlynedd diwethaf, nad oedd anghenion yn cael eu cyfarch, yn benodol teuluoedd lle roedd plant yn eu harddegau, iechyd meddwl ar lefel isel, oediad iaith a llefaredd a materion digartrefedd.  Y bwriad ydoedd i gael gwasanaethau yn eu lle, gan dargedu teuluoedd fel y gellir adnabod plant sydd yn dod i ofal a rhoi tîm o’u hamgylch h.y asesiadau o anghenion a sylweddoli bod angen ail-gomisynu a thargedu gwahanol garfan o deuluoedd.

 

(b)   A oedd mewnbwn gan yr Adran Addysg yn sgil problemau gyda diffyg sgiliau plant?

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod Addysg yn un o’r partneriaid hanfodol ac eisoes wedi cael cefnogaeth gan yr Adran.  Yn ffodus hefyd, nodwyd bod y gwasanaeth iechyd yn bartner cryf iawn yng Ngwynedd ac sydd yn hwb enfawr i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth bod iaith a llefaredd yn un o’r prif flaenoriaeth.  Cafodd ei adnabod ar draws yr ystod oedran gan gynnwys plant yn eu harddegau sydd yn effeithio ar eu hyder, ymddygiad a’u gallu i gyrraedd potensial.  Y bwriad ydoedd ymestyn y ddarpariaeth ar draws y Sir gan gydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd, y trydydd sector, yn ogystal â’r Adran Addysg er mwyn adnabod teuluoedd yn well.

 

(c)              Croesawir y strategaeth a gofynnwyd a oedd bwriad i gydweithio gyda Chymdeithasau Tai? 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth bod angen rhoi mwy o sylw i’r uchod yn ei gyfanrwydd a chyfeirwyd at engraifft peilot o weithio gyda Wardeiniaid Tai ym  Maesgeirchen, Bangor, sydd gyda chyfoeth o wybodaeth allweddol.  

 

(ch)        Tra’n croesawu’r adroddiad, bod angen mwy o wybodaeth ac atgoffwyd o’r angen i gyfarch anghenion plant gydag anableddau.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth mai’r weledigaeth oedd gerbron a’i bod yn hynod o ddiolchgar i’r Tim Arweinyddiaeth am y gefnogaeth i symud ymlaen.  Tasg y swyddog newydd fyddai mireinio’r cynllun a chydweithio gyda phartneriaeth ac fe ellir cyflwyno diweddariad o’r datblygiadau ymhen blwyddyn.

 

(d)              Nodwyd bwysigrwydd y cydweithio traws-asiantaethol a faint mor llwyddiannus ydoedd y model hwnnw.  Hyderir y bydd y gweithwyr ieuenctid newydd yn gallu rhoi cyfraniad i’r strategaeth uchod.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod y Gwasanaeth Ieuenctid ddim ond yn cyrraedd 25% o ieuenctid, gan nodi bod pobl ifanc colledig allan yn y Sir.  Hyderir y bydd y model newydd yng ngwaith yr ieuenctid yn ymestyn allan i gyrraedd fwy o bobl ifanc ond o safbwynt y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd croesawir unrhyw bartneriaeth ychwanegol. 

 

 

Penderfynwyd:           Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

Dogfennau ategol: