skip to main content

Agenda item

Codi preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd â gosod tanc septig, a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd. 

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Selwyn Griffiths

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Codi tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd â gosod tanc septig, a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2017 er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o wybodaeth ynglyn a rhai agweddau penodol o’r cais.

 

          Eglurwyd y gofynnwd i’r ymgeisydd am wybodaeth yn gysylltiedg â menter gwledig yn unol â gofynion Nodyn Cyngor Technegol ar dri achlysur sef mis Mawrth, Mai a Hydref 2017 ond ni gyflwynwyd unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gyfer ei asesu.

 

         Ers cyflwyno’r cais, nodwyd bod newid amlwg wedi digwydd yn nhermau polisi o ganlyniad i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd wedi disodli’r cynllun datblygu blaenorol. 

 

         Cyfeirwyd at y ffurflen sylwadau hwyr a oedd yn nodi cais gan yr ymgeisydd i ohirio trafod a phenderfynu’r cais oherwydd prinder amser er mwyn cael cyngor arbenigol a chael cyfle i gyflwyno tystiolaeth newydd.

 

          Nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd yr Adran yn gefnogol i’r cais o ohirio oherwydd ystyrir bod blwyddyn yn amser derbyniol i gyflwyno gwybodaeth.

 

         Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan i’r ffin datblygu ddiffiniedig ar gyfer ardal Porthmadog ac oherwydd hynny fe’i ystyrir fel safle yng nghefn gwlad.  Nodwyd bod paragraff 4.3.1 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6 ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’ yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd ble gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fod angen llety i alluogi gweithwyr amaethyddol neu fenter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd y byddai p’un a yw hyn yn hanfodol ai peidio mewn unrhyw achos penodol yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r unigolion cysylltiedig. Noda NCT 6 y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol asesu ceisiadau am ganiatad cynllunio ar gyfer anheddau amaethyddol neu fentrau gwledig newydd yn ofalus i sicrhau y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi arferol o gyfyngu ar ddatblygiad yng nghefn gwlad agored drwy gyfeirio at dystiolaeth ategol gadarn.

 

         Amlygwyd bod cyfeiriad yn y cais, yn benodol o fewn y Datganiad Dylunio a Mynediad yn ogystal â llythyrau o gefnogaeth, at ddefnydd amaethyddol presennol y tir yn ogystal â chynllun busnes arfaethedig i newid defnydd y tir ar gyfer busnes cynaliadwy newydd a defnydd o ran o’r tir gan wasanaeth achub mynydd lleol. Nodwyd ni chyflwynwyd gwybodaeth yn cadarnhau yn union sut fath o fusnes a fwriedir i’r Gwasanaeth Cynllunio.

         Tynnwyd sylw at bryder ynglyn â maint yr annedd (225m2) sy’n sylweddol fwy na tai menter wledig arferol sydd yn eithaf tebyg fel arfer i dai fforddiadwy.

 

         Cyfeiriwyd at yr asesiad cyflawn a oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad, ac ategwyd mai’r prif fater ydoedd na dderbyniwyd unrhyw wybodaeth pellach i gefnogi ty menter wledig er gwaethaf gwneud cais amdano ers blwyddyn ac fod hyn yn hanfodol er mwyn ystyried cais am dy yng nghefn gwlad.  Yn dilyn ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol roedd y swyddogion cynllunio o’r farn nad oedd y bwriad yn dderbyniol am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, amlygwyd y prif bwyntiau canlynol gan yr ymeisydd:

 

·         Gwnaed cais i ohirio oherwydd nad oedd wedi derbyn rhybudd digonol bod y cais gerbron y Pwyllgor heddiw sef 4 diwrnod gwaith yn ôl a hynny drwy ddamwain ac nad oedd wedi derbyn gohebiaeth uniongyrchol

·         Tra’n derbyn bod cyfathrebu wedi digwydd rhyngddo â’r Adran Gynllunio ers trafod y cais yn flaenorol ond ar bob achlysur gofynnwyd am gyfarfod gyda’r swyddogion a gwnaed cais am rifau ffôn uniongyrchol i fedru trafod ymhellach

·         Yn dilyn cwrdd â’r swyddogion ei ganfyddiad ydoedd y byddai’n ofynnol iddo gryfhau ac efallai addasu’r cynlluniau / dyluniad y tŷ er cyflwyno cais gwell yn unol â pholisiau eraill

·         Bwriad ydoedd trafod syniadau gyda’r swyddogion ar gyfer addasu’r cais a fyddai’n dderbyniol i’r Adran Gynllunio a hyd yn oed i’w dynnu’n ôl yn hytrach na chario ymlaen a chael y cais wedi ei wrthod

·         Pan drafodwyd y cais yn y cyfarfod blaenorol gwnaed ddatganiadau ynglyn â pholisi yn benodol TAN6 sydd yn annog pobl iau i reoli busnesau fferm ac arall gyfeirio

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio yn unol â chais yr ymgeisydd.

 

(ch)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Deallir bod nifer o unigolion yn methu cysylltu yn uniongyrchol â’r swyddogion cynllunio ond tybir bod canllawiau clir ar gael i ymgeiswyr ar gyfer trafod ceisiadau gyda swyddogion.  Fodd bynnag, er bod blwyddyn wedi mynd heibio, deallwyd nad oedd bai ar y swyddogion cynllunio am hyn.  Ond teimlwyd y byddai o fudd i ganfod barn yr Aelod Lleol

·         Pe byddir yn gwrthod y cais, gall yr ymgeisydd gyflwyno cais o’r newydd

·         Y dylid gwrthod y cais oherwydd ei fod tu allan i’r ffin datblygu

·         Bod y safle yn ymylu ar stâd ddiwydiannol

·         y dylid gohirio cymryd penderfyniad oherwydd bod yr ymgeisydd wedi nodi nad oedd wedi derbyn chwarae teg oherwydd diffyg cyfathrebu a phe byddir yn ei ohirio o leiaf byddir yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd yn unol â’i ddymuniad

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:

·         bod y swyddogion cynllunio wedi ceisio eu gorau i fod yn rhesymol o ran yr amser a’r Pwyllgor Cynllunio ofynnwyd am y wybodaeth ychwanegol ac ni dderbyniwyd ymateb yn hyn o beth

·         bod y cais yn gwbl groes i’r polisiau cynllunio ac yn dŷ marchnad agored pedair llofft

·         pe byddir yn gwrthod y cais bod modd i’r ymgeisydd gyflwyno cais newydd

 

(a)      Nododd y Cadeirydd bod yr Aelod Lleol wedi ymddiheuro am ei absenoldeb o’r Pwyllgor ond yn gefnogol i’r cais, fel a nodir ar y ffurflen sylwadau hwyr.

 

(dd)  Pleidleiswyd ar y cynnig i ohirio’r cais ond fe syrthiodd y cynnig hwn. Pleidleiswyd ar            gynnig i wrthod y cais am y rhesymau a nodir yn adroddiad y swyddogion cynllunio.  Fe     gariwyd y cynnig hwn.  

 

         PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rhesymau:

 

1.     Nid oes unrhyw gyfiawnhad ar gyfer y bwriad yma i godi adeilad annedd newydd yng nghefn gwlad agored ac felly mae’r cais yn annerbyniol ar sail egwyddor ac yn groes i ofynion Polisiau PCYFF 1 a PCYFF 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a'r canllawiau a geir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Adeiladu Tai Newydd yng Nghefn Gwlad, Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar Gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ynghyd â Pholisi Cynllunio Cymru, Pennod 9 ar Dai.

 

2.     Nid yw’r ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth digonol a phriodol i brofi fod angen am dy amaethyddol/menter wledig ar y safle hwn tu allan i ffiniau datblygu Porthmadog. Ystyrir felly fod y bwriad yn groes i’r hyn a nodir ym mharagraff 4.3.1 o Nodyn Cyngor Technegol 6 a pharagraff 9.3.6 o Bolisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9, 2016).

 

Dogfennau ategol: