skip to main content

Agenda item

Newid defnydd o tafarn i preswyl.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Newid defnydd o tafarn i preswyl.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018 er mwyn rhoi cyfle i grŵp cymunedol lleol gyflwyno tystiolaeth o’u bwriad i brynu’r adeilad er mwyn cadw ei ddefnydd fel tŷ tafarn.

 

         Tynnwyd sylw’r Pwyllgor Cynllunio na fyddai’r bwriad yn golygu unrhyw newid strwythurol allanol a chyfeirwyd at weddill manylion y datblygiad o fewn yr adroddiad ynghyd â’r sylwadau hwyr ar y ffurflen a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.  O safbwynt egwyddor y datblygiad, tynnwyd sylw at baragraffau 5.1 a 5.2 a oedd yn asesu meini prawf y polisi ISA2 ac wedi pwyso a mesur y dystiolaeth a gyflwynwyd yn erbyn y polisi a’r ffaith ei bod yn bur anhebygol ar sail y wybodaeth ddaeth i law bod y defnydd fel tafarn am ailsefydlu yn yr adeilad oherwydd costau a natur cymdeithasol, ystyrir bod cyfiawnhad wedi ei ddangos dros newid y defnydd. 

 

          Derbyniwyd sylw gan y Gwasanaeth Datblygu Economaidd yn cadarnhau bod sawl her yn wynebu busnesau tafarn gwledig fel yma a bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi ei asesu ac yn cadarnhau nad oedd y dafarn yn hyfyw yn ei ffurf bresennol.

 

         Nodwyd bod y gofynion perthnasol o fewn y polisiau wedi eu dilyn megis marchnata’r adeilad fel tafarn ers 2010 a bod cyfiawnhad dros y newid fel amlinellir yn yr asesiad o’r adroddiad. Yn ychwanegol, nodwyd bod y Grwp Gymunedol yn Garndolbenmaen wedi cyflwyno gwybodaeth ac fe gyfeirwyd at y wybodaeth yn mhwynt 5.14 o’r adroddiad parthed eu bwriad i ddatblygu’r dafarn.  Nodwyd nad oedd amheuaeth bod bwriad y Grwp yn ddiffuant ond rhaid i’r swyddogion cynllunio benderfynu ar gais yn unol â pholisiau cyfredol ar yr amser y cyflwynir y cais ac o fewn amser penodedig. Ni ellir gwrthod cais yn seiliedig ar ddyhead 3ydd parti yn hytrach na chynllun gwirioneddol y gellir ei gyflawni, h.y. ni ellir cadw penderfyniad yn agored hyd nes fo dymuniad o’r fath yn cael ei wireddu.

 

         Esboniwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn cyfeirio at wybodaeth gyffredinol am y sefyllfa bresennol, hanes y safle a dyhead y Grwp i’r dyfodol.  Er bod y dyhead yn ganmoladwy nodwyd nad oedd tystiolaeth ddi-amheuol fod hyn yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol agos. 

 

         Yn dilyn ystyriaeth o’r holl wybodaeth perthnasol a gyflwynwyd, argymhellwyd i ganiatau’r cais hefo amodau a restrir yn yr adroddiad.

 

(b)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Nad oedd neb wedi ei nodi i lawr ar y ffurflen ar gyfer siarad a bod llefarydd y Grwp  Gymunedol yn bresennol ac oni fyddai’n briodol i dderbyn diweddariad?

·         Bod y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Grwp Cymunedol yn ddigon o dystiolaeth eu bod yn datgan diddordeb yn yr adeilad a’r addewid o £10,000 sydd yn swm sylweddol i bentref fel Garndolbenmaen

·         Bod yr ymgyrch gan y Grwp Cymunedol i’w weld yn eithaf da a’i fod yn biti i’r dafarn gau, a gofynnwyd pa bryd y byddai’r gwaith o’i newid i yn dechrau?

·         Pryderwyd na fydd adnoddau ar ôl yng nghefn gwlad o weld tafarndai, ysgolion yn cau, ac y dylid brwydro i helpu’r Grwp Cymunedol

·         Bod gan y Pwyllgor ddyletswydd i’r Grwp Cymunedol ac awgrymwyd gohirio cymryd penderfyniad ar y cais am 6 wythnos er mwyn galluogi’r Grwp wneud datganiad i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio o gofio hefyd nad oes ganddynt Aelod Lleol i’w cefnogi  oherwydd ei fod yn datgan diddordeb, ac yn sgil hyn gofynnwyd a oedd modd enwebu aelod o ward cyfagos i’w cynorthwyo?

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:

·         Mai mater rhwng y perchennog a’r Grwp Cymunedol fyddai trafod amseriad trosi’r dafarn i dŷ pe byddir yn caniatau’r cais

·         Bod yr eiddo wedi bod ar werth fel tafarn ers 2011

·         O safbwynt tystiolaeth gan y Grwp Cymunedol, ymgais a gyflwynwyd i gychwyn trafodaethau ac nad oedd cynnig cadarn gerbron

·         Yn seiliedig ar y dystiolaeth oedd gerbron anodd fyddai i’r Pwyllgor Cynllunio gyfiawnhau gwrthod argymhelliad y swyddogion i’w ganiatau a rhaid cadw mewn cof y posibilrwydd i’r ymgeisydd gyflwyno apêl ar ddiffyg cymryd penderfyniad a fyddai yn y pendraw yn benderfyniad i’r Arolygiaeth

·         Bod y Grwp Cymunedol eisoes wedi derbyn cyfnod i gyflwyno gwybodaeth

 

(ch)         O safbwynt siarad mewn Pwyllgor Cynllunio, esboniodd yr Uwch Gyfreithiwr bod trefn wedi ei sefydlu a phe byddir yn caniatau cais o’r fath byddai’n rhaid newid y trefniadau ac yn berygl o osod cynsail i’r dyfodol.  Fodd bynnag, eglurwyd bod opsiwn i’r Pwyllgor newid y trefniadau i’r dyfodol pe dymunent ond yn unol â’r sefyllfa bresennol nid oedd y trefniadau yn caniatau. 

 

               Yng nghyd-destun enwebu Aelod Lleol, awgrymwyd y byddai’r Uwch Gyfreithiwr yn ymdrin â’r mater hwn.

 

               Awgrymwyd ymhellach, pe byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu gohirio’r cais, pwysleiswyd yr angen iddynt dderbyn canfyddiadau gan y Grwp Cymunedol sef:

 

·         Eu bod yn cyflwyno gwybodaeth am becyn ariannol realistig i ddangos fod modd ariannu’r fenter

 

(d)     Cynigwyd ac eilwyd gwelliant i ohirio cymryd penderfyniad ar y cais am 9 wythnos er mwyn           rhoi amser i’r Grwp Gymunedol gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth pellach fel awgrymir           yn (ch) uchod, i’r Pwyllgor Cynllunio ym mis Mehefin.   Pleidleiswyd ar y gwelliant a’r            cynnig gwreiddiol ac fe syrthiodd y cynnig gwreiddiol i’w ganiatau gyda’r gwelliant i        ohirio   am 9 wythnos yn cario.

 

PENDERFYNWYD  gohirio cymryd penderfyniad ar y cais am 9 wythnos er mwyn rhoi amser i’r Grwp Cymunedol gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth bellach ynglyn â’u bwriadau i ariannu’r fenter.  

 

 

Dogfennau ategol: