skip to main content

Agenda item

Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

         Tynnwyd sylw at y bwriad ynghyd â’r ystyriaethau a’r ymatebion i’r ymgynhgoriad cyhoeddus o fewn yr adroddiad, ac ni dderbyniwyd gwybodaeth hwyr yn yr achos hwn.

 

         O ran asesu’r cais y prif ystyriaeth ydoedd polisi TWR5 o’r Cynllun Datblygu Lleol sy’n gofyn bod safleoedd gwersylla o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, wedi eu lleoli mewn lleoliad anymwthiol ac wedi eu cuddio yn dda gan nodweddion presennol y dirwedd.  Tynnwyd sylw bod y pebyll o faint sylweddol ac yn fwy gyda’r llwyfan pren.  O’r ymweliad safle, gwelwyd bod y safle yn agored yng nghefn gwlad ac o fewn tirlun sensitif yr AHNE.  Er bod y cais wedi cynnig tirlunio ystyrir nad oedd wedi ei guddio yn dda ar hyn o bryd.  Ni chytunir hefo’r adroddiad asesiad effaith weledol a gyflwynwyd gyda’r cais sy’n honni bod effaith y bwriad yn gyfyngedig.  Nodwyd bod y safle i’w weld yn glir o’r ffordd gyfochrog, o’r llwybr cyhoeddus cyfagos ac y byddai golygfeydd o’r pebyll ar draws yr AHNE.  Er nad ydoedd yn groes i holl ofynion polisi TWR5 nid oedd yn cwrdd â phrif amcan y polisi sy’n gofyn bod safleoedd yn anymwthiol yn y tirlun.  Hefyd, nodwyd bod y bwriad yn groes i bolisi AMG1 ac fod Swyddog yr AHNE yn bryderus am ymyrraeth y datblygiad ar leoliad gwledig.  Er bod perthynas gyda’r adeilad rhestredig Gradd II, ni ystyrir y gellir gwrthod ar sail hyn.

 

         Er bod materion trafnidiaeth a bioamrywiaeth yn dderbyniol, roedd y swyddogion cynllunio yn argymell ei wrthod oherwydd ei fod yn groes i bolisiau TWR5, PS19 ac AMG1 gan y byddai yn creu nodwedd ymwthiol yn y dirwedd ac yn cael effaith annerbyniol ar yr AHNE.      

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ac fe amlygodd y prif bwyntiau canlynol:

·         Mai pebyll saffari ydoedd testun y cais a fyddai’n cael eu tynnu lawr ar ddiwedd y tymor gwyliau 

·         Tynnwyd sylw bod un i fyny ar y safle gyda lliw y cynfas yn gweddu i’r cefndir

·         Bod y cais yn fenter newydd gwahanol

·         Pe edrychir o’r lôn gellir gweld rhesi o garafanau yn yr AHNE ac y byddai’r pebyll yn gweddu i’r tirlun

·         O safbwynt bioamrywiaeth, bod yr ymgeisydd wedi mynd i lawer o gostau i dirlunio yn broffesiynol gyda thyfiant coed a fyddai’n addas i’r ardal

·         Byddai’r tirlunio yn cael ei wneud yn yr Hydref flwyddyn yma a’r bwriad fyddai rhoi y pebyll saffari i fyny flwyddyn nesaf

·         Yn sgil yr uchod derbyniodd yr ymgeisydd ddatganiad o ymarfer da

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Ni ellir gweld unrhyw reswm i’w wrthod gan bod y pebyll yn lai o faint na charafanau

·         Pryderu bod Swyddog yr AHNE a’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu

·         Pryderu bod yr economi yn ddibynnol ar dwristiaeth i’r AHNE ac o’r ymweliad safle gwelwyd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael ardrawiad ar harddwch yr ardal 

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod y pabelli yn sylweddol eu mhaint, mewn lliw brown / gwyrdd tywyll

·         Bod yr argymhelliad yn gadarn o safbwynt ardal yr AHNE gan ei fod mewn lleoliad eithriadol o sensitif

·         Tra’n derbyn bod achosion lle cefnogwyd menter o’r fath yn y gorffennol roedd  lleoliadau rheiny yn dderbyniol

 

         PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rheswm:

Byddai'r safle arfaethedig, oherwydd ei leoliad, gosodiad a gwedd yn y dirwedd, yn sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad agored gan gael effaith niweidiol ar y dirwedd a mwynderau gweledol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ymhellach ni fyddai’r bwriad wedi ei leoli mewn lleoliad anymwthiol ac sydd wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd.  Mae'r bwriad felly yn groes i bolisi PS 19, AMG 1 a TWR 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor Gwynedd.

 

 

Dogfennau ategol: