Agenda item

Adeiladu 10 tŷ annedd ar wahan (gyda 20% yn fforddiadwy), gosod allan ffordd fynediad a chreu mynedfa, a man parcio a chodi ar gyfer Ysgol Gynradd Y Ffôr.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Read

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Adeiladu 10 tŷ annedd ar wahan (gyda 20% yn fforddiadwy), gosod allan ffordd fynediad a chreu mynedfa, a man parcio a chodi ar gyfer Ysgol Gynradd Y Ffôr.

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr edrychiad

          a’r tirweddu wedi eu cadw’n ôl er bod cynllun dangosol o edrychiad y tai wedi ei gynnwys. Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol am 40 tŷ yn 2014 a bryd hynny yn seiliedig ar Gynllun  Datblygu Unedol Gwynedd ac fe ddaeth i’r amlwg bod diffyg capasiti gan Dŵr Cymru i           ddelio gyda charthffosiaeth o’r bwriad.  Diwrnod cyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol      presennol derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd y byddai’n bosibl trwy gyfraniad   ariannol ganddo i Dŵr Cymru i gael cysylltiad i’r garthffos cyhoeddus.  Bellach y Cynllun           Lleol ydoedd yr ystyriaeth sy’n dangos y safle tu allan i ffin datblygu.  Yn sgil hyn,    diwygiwyd y cais gan yr ymgeisydd i fod ar gyfer 10 o dai yn hytrach na 40 a bod      20% o’r            tai yn rhai fforddiadwy. 

 

          Cyfeirwyd at y polisiau perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o   fewn yr adroddiad a’r sylwadau ar y ffurflen hwyr.

 

          O ran asesiad y cais, nodwyd bod y safle yn gorwedd tu allan i ffin ddatblygu’r pentref sydd           gyfystyr â chodi tŷ newydd yng nghefn gwlad. Cyfeiriwyd at bolisi TAI16 sydd yn ymwneud            â chynigion am dai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig ac nad oedd y bwriad yn           cydymffurfio â’r polisi sydd yn gofyn am 100% ar gyfer tai fforddiadwy.  Gofynna’r polisi    hefyd i’r angen lleol gael ei brofi am dai fforddiadwy.  Erbyn hyn, nodwyd bod 3 safle wedi          eu nodi o fewn y ffin ar gyfer datblygu a bod ffigyrau Polisi Tai 13 yn amcangyfrif y           byddai’n          bosibl cael 37 o           dai ar y safleoedd dan sylw.  Yn ogystal, nodwyd nad oedd angen tai ar    hap ym            mhentref Y Ffôr.  Yn elfennol, roedd y bwriad yn groes i Bolisi TAI 16.

 

          Petae’r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu caniatau’r cais, byddai gofyn sicrhau, fel rhan o’r             cais materion a gadwyd yn ôl, bod maint y tai yn rhai fforddiadwy a hefyd angen cael   diweddariad am gapasiti Ysgol y Ffôr i ddelio hefo cynnydd posibl mewn disgyblion.  Yn       ogystal, nodwyd bod diffyg darpariaeth llecynnau agored yn y Ffôr a olygai byddai angen    cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth ychwanegol o’r fath.       

 

         O ran materion ffyrdd, byddai’r fynedfa yn addas ond gofynnir am droedffordd i gysylltu’r datblygiad gyda’r pentref ynghyd â llecyn bws newydd.

 

         Awgrymodd yr Uned Bioamrywiaeth amodau perthnasol.

 

         Er bod elfennau o’r bwriad yn dderbyniol, argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais oherwydd ei fod yn groes i bolisiau cynllunio perthnasol a’r rhesymau a nodir yn yr adroddiad. 

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ac fe amlygodd y prif bwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais o 40 tai ym mhentref y Ffôr o dan y cyn Gynllun Unedol o ystyried bod niferoedd disgyblion wedi gostwng yn yr ysgol leol ond fe newidiwyd y ffin a profwyd problemau gyda’r garthffosiaeth

·         gwrthodwyd i roi tanciau preifat ar eu cyfer

·         Cauwyd Ysgol Hafon Lon ac fe gytunwyd i 9 / 10 o dai

·         Bod y lôn yn berygl a’r cais hwn yn rhoddi cyfle ar gyfer mynediad diogel

·         Tra’n derbyn yr angen am 100% o dai fforddiadwy, ‘roedd angen tai ychydig mwy ar adegau er mwyn i unigolion fedru symud i fyny yn y farchnad dai a rhyddau tai fforddiadwy i eraill 

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y groesffordd yn hynod beryglus, dim gwelededd, a cherbydau yn parcio ar ochr lôn

·         Byddai’n or-ddatblygiad gyda llawer o dai wedi mynd i fyny yn y Ffôr yn ddiweddar a chwestiynwyd a oedd angen 10 o dai ychwanegol

·         Bod tri safle arall wedi cael eu dynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol

·         Dylai’r tai fod yn 100% fforddiadwy 

·         Cytuno hefo’r argymhelliad ond byddir yn gefnogol pe byddai’r cais yn 100% o dai fforddiadwy 

·         Rhaid bod yn hynod ofalus a deall y gwahaniaeth rhwng y cyn Gynllun Datblygu a’r un presennol.  Derbyniwyd bod rhai unigolion yn ennill a rhai eraill yn colli ond roedd y Pwyllgor wedi gwneud gwaith ymchwil trwyadl ac wedi adnabod 37 o dai ar gyfer Y Ffôr ac ar gael i ddiwallu anghenion yr ysgol. Rhaid cymryd i ystyriaeth y ffigwr ar gyfer adeiladu tai yn y cynllun datblygu newydd a’r cyn gynllun a bod yn wyliadwrus rhag peryg i gael mwy o dai na’r angen    

·         Ei bod yn anffodus bod y ffin wedi newid 

 

         PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rhesymau:

 

1.     Byddai’r bwriad yn golygu adeiladu tai newydd yng nghefn gwlad ble nad oes ei angen ar gyfer menter wledig.  Mae’r bwriad felly yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 (31 Gorffennaf 2017) ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9 Tachwedd 2016) a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.

 

2.     Nid yw’r bwriad ar gyfer 100% tai fforddiadwy, nid yw’r angen lleol am dai fforddiadwy wedi ei brofi ac nid oes manylion wedi ei gyflwyno i ddangos na fyddai’n bosibl darparu’r ddarpariaeth tu mewn i ffin ddatblygu. Ystyrir y bwriad yn groes i ofynion Polisi TAI 16 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 (31 Gorffennaf 2017).

 

Dogfennau ategol: