Ystyried
adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
(ynghlwm).
*10.55yb
– 11.40yb
Cofnod:
Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn rhoi amlinelliad o’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a
Chynhwysiad newydd a ddaeth i rym ym Medi 2017, gan fanylu ar brif
lwyddiannau’r gwasanaeth a’r meysydd sydd angen eu datblygu ymhellach i sicrhau
gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i bartneriaeth Awdurdodau Addysg Cynghorau
Gwynedd a Môn.
Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif
bwyntiau a ganlyn:-
·
Canmolwyd
y rhaglen Rhwyd Arall sy’n cefnogi rhieni lle bo ansicrwydd neu ddiffyg
dealltwriaeth o oblygiadau addysgu gartref a nodwyd bod unigolion sydd wedi bod
allan o’r gyfundrefn addysg am flynyddoedd wedi symud yn ôl i addysg prif lif
gyda mewnbwn y rhaglen yma a Comic Relief. Datganodd y
Cynghorydd Cemlyn Williams fuddiant personol gan ei fod yn gyfarwyddwr ar Gwmni
Sylfaen oedd wedi bod â chysylltiad â’r rhaglen hon yn y gorffennol. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n
rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod.
·
Bod
yr ysgolion yn gwbl greiddiol i lwyddiant y gyfundrefn newydd a’i bod yn bwysig
bod yr athrawon / cymorthyddion yn derbyn yr
hyfforddiant sydd ei angen arnynt i symud hyn ymlaen.
·
Bod
cefnogaeth y Bwrdd Iechyd yn greiddiol i lwyddiant y gwasanaeth hefyd.
·
Mynegwyd
pryder bod gan y Gwasanaeth Cwnsela restr aros o bron i 100 ar hyn o bryd, ond
croesawyd y cydweithio hefo CAMHS.
Nodwyd bod y gwaith hwn yn croesi maes sawl pwyllgor craffu a bod
athroniaeth ataliol yn amlygu ei hun fwyfwy yn yr ysgolion hefyd. Nodwyd yr angen i edrych ar y rhesymau dros y
cynnydd mewn gorbryder ymhlith pobl ifanc.
·
Nad
oes cyfeiriad yn yr adroddiad at blant abl a thalentog, sydd hefyd yn blant ag
anghenion dysgu ychwanegol.
·
Bod
y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn y prif lif.
·
Bod
y cynlluniau datblygu unigol yn ddogfennau maith sy’n creu baich gwaith
ychwanegol i ysgolion.
Gofynnwyd i’r Swyddog Addysg Ardal roi ei
argraffiadau o sut ‘roedd pethau wedi mynd hyd yma ac unrhyw broblemau a
ragwelai ar y gorwel. Nododd:-
·
Bod
y newidiadau wedi bod yn sylweddol ac yn arwyddocaol, nid yn unig i gynnwys yr
hyn a gynigir i ysgolion a’r ffordd o weithio gydag
ysgolion, ond hefyd o ran y gweithio ar draws dwy sir.
·
Mai
elfen bwysig o lwyddiant Gwedd 1 o’r adolygiad strategol oedd bod y broses
drwyddi draw wedi bod yn adweithiol i unrhyw newid wrth i’r broses honno fynd
rhagddi. Gan hynny, ‘roedd yna bethau
wedi newid yn barod i ymateb i sylwadau ysgolion ac i wneud y gwasanaeth hyd yn
oed yn fwy llyfn.
·
Gan
fod y maes yn eang iawn a chwestiynau’n mynd i godi’n aml, y sefydlwyd y
grŵp defnyddwyr fel bod y broses o wella’n mynd rhagddi’n
barhaus.
·
Y
byddai Gwedd 2 o’r adolygiad yn golygu mwy o newidiadau eto a byddai’r hyn a
ddysgwyd o Wedd 1 yn cael ei ymgorffori yng Ngwedd 2 fel bod modd edrych ar
hynny fel rhan o briff y camau nesaf.
·
Bod
y cynllun o resymoli’r tîm, ayb, wedi cyfarch hanner yr arbedion ariannol
disgwyliedig a’r hanner arall wedi dod o leihau’r gyllideb integreiddio a bod
hynny wedi’i fodelu i’r ysgolion yn barod yn y cyllidebau y maent wedi’u
derbyn.
Nododd yr Aelod Cabinet y bwriedid adrodd yn
ôl i’r pwyllgor yn flynyddol, neu’n amlach, ar
gynnydd y cynllun, gan awgrymu mai’r amser gorau i wneud hynny fyddai diwedd
Hydref / Tachwedd gan y byddai hynny’n caniatáu dal i fyny yn sgil absenoldeb y
disgyblion dros wyliau’r haf cyn i’r asesu ddigwydd. Hefyd, byddai’r newidiadau i’r gwasanaeth yn
gliriach erbyn hynny.
Derbyniodd y pwyllgor bod y cynllun hyd yn
hyn yn llwyddiannus gan edrych ymlaen at weld yr hyn fydd yn digwydd yn y camau
nesaf.
Dogfennau ategol: