Agenda item

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg  (ynghlwm).

 

*11.40yb – 12.25yp

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn ceisio barn y pwyllgor craffu ar yr egwyddorion addysg arfaethedig fydd yn sail ar gyfer gwireddu gweledigaeth yr Adran Addysg a datblygu’r gyfundrefn er sicrhau addysg o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc Gwynedd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

 

Ar sail canlyniadau’r ymgynghoriad gyda’r Llywodraethwyr a’r ysgolion, a gweledigaeth yr Adran Addysg, gofynnwyd yn benodol am farn aelodau’r pwyllgor craffu ar yr egwyddorion canlynol, a ystyrir yn sail i gyfundrefn addysg Gwynedd i’r dyfodol:-

 

·         Cyfundrefn o ysgolion uwchradd hyfyw;

·         Dau ystod oedran o fewn yr un dosbarth yn y cynradd;

·         Oddeutu 80% o amser digyswllt i’r Pennaeth i ganolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth yn y cynradd.

 

Yn seiliedig ar yr wybodaeth oedd i law, amlygwyd y sylwadau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Rhaid bod yn glir ynglŷn â beth fydd effaith mabwysiadu’r egwyddorion hyn.

·         Mae’n debygol y bydd yna dorri athro neu oriau athro mewn rhai ysgolion a bydd hynny’n anodd iawn i bennaeth, yn enwedig os yw’n rheoli dwy neu dair ysgol.

·         Dechrau’r daith yw hyn ac mae tipyn mwy o waith a chraffu i’w wneud.

·         Mae’r diffyg ymgeiswyr ar gyfer swyddi drwy drwch yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn destun pryder. 

·         Mae’r gyfundrefn yn rhy dameidiog i fod yn denu’r genhedlaeth nesaf o arweinyddion.  Er enghraifft, nid oes cyfle i benaethiaid adrannau yn yr ysgolion uwchradd lleiaf eu maint feithrin sgiliau i fod yn arweinwyr oherwydd, fel adrannau un person, nid oes ganddynt yr amser i arwain yr adran na neb yn yr adran i’w rheoli.  Hefyd, gan fod ysgolion cynradd yn aml yn rhy fach i gael dirprwy bennaeth, nid oes cyfle yno chwaith i bobl ddatblygu sgiliau arwain.

·         Mae’r gofynion sylweddol uwch sy’n cael eu gosod ar bobl o ran addysgu ac arwain yn golygu bod swyddi mewn ysgolion wedi mynd yn llawer llai atyniadol.

·         Gallai’r cwestiynu yn yr holiadur fod wedi bod yn fwy treiddgar, e.e. yn hytrach na gofyn yn unig am farn ar y datganiad “Mae’n bwysig rhoi digon o amser i Benaethiaid reoli ac arwain ...”, dylid hefyd bod wedi gofyn ydi’r ymatebwyr yn cytuno â’r datganiad er gwaethaf goblygiadau hynny.

·         O ran yr awgrym y dylai penaethiaid ysgolion uwchradd fod yng ngofal tua 900 o ddisgyblion, y dymunir gweld tystiolaeth gadarn i gefnogi hynny ar ffurf gwaith ymchwil yn y wlad yma ac ar draws Ewrop i’r maint o ysgol sy’n gweithio orau ac yn rhoi’r canlyniadau gorau i blant.

·         Er y croesawir y bwriad i uno rhai ysgolion bychain i’w gwneud yn fwy hyfyw, nad yw hynny’n ymarferol bosib’ yn y Wynedd sydd ohoni ac y byddai’r pennaeth yn treulio cyfran helaeth o’i amser yn teithio rhwng y naill safle a’r llall.

·         Bod polisi recriwtio’r colegau, sy’n mynnu bod rhaid i’r sawl sy’n dymuno dilyn cwrs ymarfer dysgu feddu ar radd 2:1, yn golygu bod pobl ifanc yn mynd dros y ffin i Loegr i hyfforddi fel athrawon a bod hynny, yn ei dro, yn arwain at brinder athrawon yn lleol.

·         Bod recriwtio athrawon ym Meirionnydd a Dwyfor yn arbennig o broblemus gan nad yw athrawon arbenigol mewn gwahanol bynciau yn awyddus i ddysgu mewn ysgolion sy’n methu cynnig profiad 6ed dosbarth iddynt.

·         Bod Ysgol Uwchradd Tywyn, sydd â 280 o blant yn unig, wedi cael adroddiad penigamp gan Estyn yn ddiweddar, felly pam ystyrir bod angen 900 o ddisgyblion i ysgol fod yn hyfyw?

·         Mai’r ffordd ymlaen o ran sicrhau dyfodol ysgolion gyda niferoedd llai o ddisgyblion / athrawon yw drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg, megis Skype, lle gall plant mewn un ysgol ymuno â gwersi mewn ysgol arall lle mae athro yn arbenigo yn y pwnc.

·         Na ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau heb ymgynghori’n gyntaf gyda’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio a dylid rhagdybio bob amser yn erbyn cau ysgolion.

·         Gan y bydd nifer o benaethiaid yn cyrraedd oed ymddeol yn y blynyddoedd nesaf, dylid paratoi’n ddigonol ar gyfer hynny, e.e. drwy ddarparu portffolio yn amlygu manteision dysgu yng Ngwynedd a’i gylchredeg yn eang.

·         Mae swyddi dysgu yng Ngwynedd yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor yn unig a phrin bod pobl sy’n dysgu mewn rhannau eraill o’r wlad yn edrych ar hynny.  Dylid hysbysebu swyddi’n ehangach a thrwy hynny ddenu athrawon yn ôl i’r sir.

·         Pryderir y byddai cael trefniadau cydweithredol rhwng ysgolion uwchradd yn effeithio ar yr ysgolion dysgu gydol oes a sefydlwyd yn y Bala a Dolgellau.

·         O safbwynt dysgu ystod oedran, mae partneriaethu yn debygol o olygu symud plant o un ysgol i’r llall a’r unig ffordd o wneud hynny, yn y pen draw, yw drwy gau ambell ysgol.

·         Y cefnogir yr egwyddorion yn gyffredinol, ond cydnabyddir bod heriau enfawr i allu darparu hyn.

 

 

 

Dogfennau ategol: