skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 22 Mai 2018. Nododd bod sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18 yn cadarnhau y bu rheolaeth ariannol effeithiol gan yr Aelodau Cabinet perthnasol, penaethiaid adrannau a rheolwyr cyllidebau.

 

Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:

 

“1.1  Ystyried a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18.

 

1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

0

Economi a Chymuned

(35)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd (Rheoleiddio gynt)

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(82)

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(66)

Cyllid

(66)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(67)

 

            1.3    Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol  

                     (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –

·         Trosglwyddo £457k, cyfwerth â grant cefnogi gwasanaethau cymdeithasol dros y gaeaf i gronfa benodol er mwyn cefnogi hyblygrwydd a hwyluso trawsffurfio yn y maes Oedolion i'r dyfodol.

·         Cynaeafu (£37k) o'r tanwariant sef y swm uwchlaw (£100k) Oedolion, Iechyd a Llesiant, i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd yn gorwario eleni.

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £676k i leddfu rhan helaeth o orwariant 2017/18, gan ganiatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2018/19.

·         Trosglwyddo £207k ei ddileu gorwariant yr Adran Addysg, tra bod polisïau a threfniadau cludiant yn cael eu hadolygu.

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £203k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario mlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2018/19.

·         Trosglwyddo £378k o danwariant 2017/18 yr Adran Amgylchedd i gronfa benodol, yn ymwneud â bysus a chost llwybrau, i'w ddefnyddio yn 2018/19.

·         Cynaeafu (£89k) o danwariant yr Adran Amgylchedd sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd yn gorwario eleni.

·         Cynaeafu (£894k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol (ar Ostyngiad Treth Cyngor, bidiau a chyllidebau a ddychwelwyd gan adrannau ac ar benawdau eraill), a’i drosglwyddo i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2017/18.

·         Trosglwyddo £66k o'r Gronfa Cynorthwyo'r Strategaeth Ariannol, sef y balans sydd angen, i gynorthwyo’r adrannau sydd yn gorwario.

 

1.4             Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a   

       amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, sef:

·         Cynaeafu (£2.915m).

·         Neilltuo £2.749m ar gyfer Cynllun y Cyngor.

·         Neilltuo £166k ar gyfer materion gwastraff.”

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y sefyllfa ariannol yn gyffredinol yn un derbyniol iawn. Eglurodd bod yr Aelodau Cabinet perthnasol wedi egluro’r rhesymau am y gorwariant yn yr Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yng nghyfarfod y Cabinet ar 22 Mai 2018. Cadarnhaodd y derbyniwyd sicrwydd yn y cyfarfod bod y gorwariant yn derbyn sylw.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod y tanwariant yn yr Adran Addysg, Adran Amgylchedd ac Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, oherwydd bod y Cyngor wedi derbyn arian grant gan Lywodraeth Cymru yn niwedd y flwyddyn ariannol. Cadarnhaodd bod yr arian grant wedi ei briodoli i ymrwymiadau ym mlwyddyn ariannol 2018/19.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid tra’n croesawu derbyn arian grant nid oedd yn ddelfrydol i’r Cyngor ei dderbyn yn y cyfnod cyn cau’r cyfrifon. Eglurodd y cymerir y cyfle i drafod efo Llywodraeth Cymru o ran blaen raglennu taliadau arian grant er mwyn i’r Cyngor allu blaen gynllunio. 

 

Nododd aelod ei ddiolch am y gwaith gan ategu sylw’r Aelod Cabinet bod angen cysylltu efo Llywodraeth Cymru o ran yr angen i flaen raglennu taliadau grant oherwydd bod derbyn arian grant ar ddiwedd blwyddyn ariannol yn gwneud gwaith y swyddogion yn anodd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·         Rhoddwyd diweddariad yn rheolaidd i’r Pwyllgor o ran y sefyllfa gorwariant ar dacsis i gludo disgyblion i ysgolion. Roedd yr Adran Addysg wedi derbyn £207k i ddileu’r gorwariant, tra bod polisïau a threfniadau cludiant yn cael eu hadolygu. Adroddir ar y sefyllfa yn yr adroddiad adolygiad cyllideb nesaf;

·         O ran y rheswm am y gorwariant o dan y pennawd ‘Gwasanaeth Darparu’ yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, nid oedd incwm pres cinio yn achos am y gorwariant. Roedd incwm cinio yn effeithio ar ysgolion uwchradd penodol a’r Adran Addysg yn y sector gynradd;

·         O ran y golled incwm ar ffioedd parcio, cynyddwyd targed incwm ffioedd parcio 2017/18 yn fwy na’r hyn a gasglwyd yn 2017/18, er mwyn cyfrannu at arbedion yr Adran Amgylchedd. O ystyried yr incwm a gasglwyd o ran meysydd parcio o £1.795m roedd diffyg incwm o £50,000 yn ganran bach iawn;

·         Yng nghyswllt gorwariant o ran Treth Cyngor o ganlyniad i Swyddfa’r Prisiwr Dosbarth ganiatáu i 282 eiddo drosglwyddo o’r rhestr Treth Cyngor i Drethi Annomestig, bod yr Ymchwiliad Craffu Tai Gwyliau a Threthi, swyddogion a’r Aelod Cabinet wedi rhybuddio bod risg byddai colledion o ran y premiwm treth ar ail gartrefi oherwydd nad oedd y ddeddfwriaeth yn hollol gadarn. Pan amcangyfrifwyd yr incwm posib nodwyd na fyddai’r Cyngor yn derbyn £5m oherwydd y premiwm ond yn realistig mai tua £2m byddai’r Cyngor yn ei dderbyn. Nid oedd y sefyllfa yn annisgwyl, ac nid oedd rheswm ar hyn o bryd i addasu’r amcangyfrif o’r lefel incwm y disgwylir ei dderbyn ym mlwyddyn ariannol 2018/19. Gwelwyd bod nifer y trosglwyddiadau i’r rhestr trethi annomestig yn 2017/18 dros 50% yn uwch na mewn blynyddoedd blaenorol, gydag effaith ôl-ddyddio rhai o’r ceisiadau i 2010/11. Roedd yr Aelod Cabinet Cyllid wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r mater yn y mis diwethaf;

·         Bod y sefyllfa o ran y premiwm treth ar ail gartrefi yn cael ei fonitro gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn rheolaidd, ac roedd ef o’r  farn  bod angen deddfwriaeth i fynnu hawl cynllunio er mwyn newid tŷ i fusnes ac fe nodwyd hyn yn y llythyr a anfonwyd at Lywodraeth Cymru. Derbyniwyd cadarnhad gan y Prisiwr Dosbarth nad oedd ganddynt yr adnoddau staffio i arolygu’r drefn. Cyflwynir adroddiad i gyfarfod y Cabinet yn yr Hydref ar y sefyllfa o ran premiwm treth ar ail gartrefi.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.

Dogfennau ategol: