Cyflwyno adroddiad
gan y Rheolwr Cynllunio (Polisi)
COFNODION:
Cafwyd
cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn cynnwys:
Pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol
Y broses hyd yma
Camau nesaf ac amserlen
ATODIAD
1 - CYNNAL A CHREU CYMUNEDAU NODEDIG A CHYNALIADWY
Nodwyd
bod y broses o baratoi’r Canllaw yma o bersbectif Cyngor Gwynedd yn destun
Ymchwiliad Craffu sy’n cael ei arwain gan Weithgor Craffu. Cyflwynodd y
Gweithgor Craffu ei argymhellion i Bwyllgor Craffu Cymunedau. ‘Roedd ei
adroddiad yn cynnwys yr argymhellion, ymateb Panel Cynllun Datblygu Lleol
(cyfarfod 26 Mawrth 2018), ei ymateb i sylwadau’r Panel, a chwestiynau a
sylwadau pellach – gweler tabl 3 yn Atodiad 4 i’r adroddiad i’r Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd. Nodwyd bod Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi cymeradwyo
argymhellion y Gweithgor. Gwahoddwyd Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau i
gyflwyno’r argymhellion hynny a’r rhesymau amdanynt i’r Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd.
Materion
a godwyd:
Nodwyd
byddai derbyn argymhellion 1 ac 1A yn creu polisi newydd ac na fyddai’r drefn
yn cyd-fynd â rheoliadau sy’n gosod trothwyon statudol ar gyfer ymgynghori
cyhoeddus cyn cyflwyno cais cynllunio. Eglurwyd byddai diwygio’r Canllaw yn
unol ag argymhellion 1 a 1A yn golygu risg sylweddol byddai gweithredu yn unol
â’r Canllaw yn destun her mewn llys, a risg na fyddai Polisi PS 1 yn derbyn
pwysau priodol mewn achos apêl yn erbyn penderfyniad i wrthod cais cynllunio yn
seiliedig arno a’r Canllaw. Pe fyddai defnydd o’r Canllaw yn destun her mewn
llys byddai’r Cynghorau yn colli’r hawl i’w ddefnyddio, gyda risg sylweddol o
gael penderfyniad i ddiddymu’r Canllaw oherwydd ei fod yn mynd tu hwnt i’w
gylch gwaith.
Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â diwygio Polisi PS 1, eglurwyd bod Rheoliadau
Cynllun Datblygu Lleol yn eu lle sy’n gosod trefn statudol i wneud hynny. Mae
hynny yn golygu dilyn y drefn monitro flynyddol, gwerthuso’r dystiolaeth ddaw
o’r gwaith monitro, wedyn penderfynu os oes sail i ddechrau’r broses diwygio’r
strategaeth a/ neu bolisïau yn y Cynllun. Pan benderfynir bod sail i wneud
diwygiadau, byddai angen mynd trwy drefn statudol - creu fersiwn drafft,
ymgynghoriad cyhoeddus, archwiliad cyhoeddus ac yna mabwysiadu’r cynllun
diwygiedig.
Cynigwyd
bod llythyr yn cael ei yrru i Lywodraeth Cymru i holi ynglŷn â’r drefn
diwygio polisïau mewn cynllun a’r gallu neu beidio i newid y trothwy ar gyfer
gofyn am ymgynghoriad cyhoeddus statudol cyn cyflwyno cais cynllunio.
Nodwyd
yr angen i sicrhau bod cynnwys y Canllaw ddigon cadarn i’w gyhoeddi ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Awgrymwyd gallai’r Pwyllgor ddirprwyo’r hawl i
swyddogion gomisiynu gwerthusiad beirniadol o’r Canllaw gan ymgynghorydd cymwys
amlddisgyblaeth. Awgrymwyd sgôp i’r gwaith, sef:
Crynhoi a gwerthuso’r cyngor a’r
arweiniad a roddir yn Adran 2 ynglŷn â chymhwyso Polisi PS 1 y Cynllun yn
ystod y camau cyn ac ar ôl cyflwyno cais cynllunio.
Dadansoddi’r Canllaw mewn dull cytbwys a nodi ei gryfderau a gwendidau. Nid
pwrpas gwerthusiad beirniadol fydd amlygu agweddau negyddol yn unig.
Edrych ar y Canllaw a
gwerthuso ei lwyddiant, yng ngoleuni ei ddiben.
Awgrymu mathau o
gwestiynau ddylai’r ymgynghorydd ofyn i’w hun wrth ymgymryd â’r gwaith, e.e.
beth ydi amcan y Canllaw? Ydi’r amcan wedi cael ei gyflawni? Mae’r Canllaw yn
cyfeirio’r ymgeisydd a’r person cymwys a fydd yn ei gynghori i ffynonellau
gwybodaeth – a oes yna ffynonellau eraill? Beth ydi strwythur Adran 2 o’r
Canllaw? A yw'n effeithiol? Ydi’r fethodoleg sydd yn Atodiad 7 ac yn Atodiad 8
yn effeithiol?
Argymell newidiadau pan fydd angen hynny.
Cytunwyd byddai comisiynu’r gwaith yn ffordd synhwyrol i
symud ymlaen.
Penderfyniad:
i. Awdurdodi Uwch Swyddogion perthnasol ar ran Gwasanaethau
Cynllunio’r ddau Awdurdod i ysgrifennu i Lywodraeth Cymru i holi am hawliau i
newid polisi mewn cynllun datblygu lleol a hawliau i newid y trothwy i osod
gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer 5
tŷ mewn pentrefi a chefn gwlad yn lle 10 tŷ;
ii. Awdurdodi Uwch Swyddogion perthnasol ar
ran Gwasanaethau Cynllunio’r ddau Awdurdod i gomisiynu arbenigwyr allanol
cymwys i ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o’r Canllaw Cynllunio Atodol: cynnal
a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy, ac yn benodol Adran 2 o’r Canllaw
hwnnw.
ATODIAD 2 – CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYMYSGEDD TAI
Cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn egluro’r newidiadau i’r
canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar
y 22 Mawrth 2018.
Penderfyniad:
Cymeradwyo cyhoeddi’r
Canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus
ATODIAD 3 - CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYFLEUSTERAU A LLETY I
DWRISTIAID
Cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn egluro’r newidiadau i’r
canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar
y 22 Mawrth 2018.
Penderfyniad:
Cymeradwyo
cyhoeddi’r Canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus
Dogfennau ategol: