Cofnod:
Cyflwynwyd
fersiwn ddrafft o’r Strategaeth Iaith, ‘Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd
2018-2023’, gan y Rheolwr Gwasanaethau'r Iaith Gymraeg. Nodwyd bod y cyfnod
ymgynghori cyhoeddus ar y strategaeth wedi cychwyn ac y byddai’n dod i ben ar y
5ed o Fehefin 2018. Dywedwyd y bydd
croeso i unrhyw unigolyn neu sefydliadau gynnig unrhyw sylwadau, gwelliannau
neu awgrymiadau er mwyn eu hystyried. Bydd y strategaeth derfynol yn mynd ger
bron y Cabinet a’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2018, ynghyd â chynllun
gweithredu a fydd yn cael ei lunio yn yr haf.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol ymatebwyd i nifer o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol
mewn perthynas â:
§
Gwallau iaith a cham
dreiglo yn y strategaeth.
§
Camau gweithredol yn
esbonio beth sy’n mynd i ddigwydd, pwy sy’n gyfrifol, a sut mae mesur cynnydd
ddim wedi eu cynnwys yn y
strategaeth.
§
Penderfyniadau’r Cyngor
sy’n gwrthweithio yn erbyn nifer o’r amcanion sydd wedi eu cynnwys yn
strategaeth e.e. cau'r clybiau ieuenctid sy’n hybu’r defnydd o Gymraeg ymhlith
phobl ifanc.
Tywyswyd yr
aelodau drwy gynnwys y cwestiynau ymgynghoriad ar gyfer y Strategaeth Iaith. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan
aelodau unigol mewn perthynas â:
Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a’r heriau
§
Y ‘Seisnigrwydd slei’
sy’n deillio o'r dechnoleg/teclynnau electronig sy’n cael eu defnyddio mewn
ysgolion - oes modd mynd i’r afael a hyn?
§
Cyngor Gwynedd yw un o'r
unig sefydliadau yng Nghymru sy’n flaengar i gyfieithu ‘apps’, darparu
technoleg yn y Gymraeg, a darparu cyfarfodydd sy’n ddwyieithog – pam nad yw’r
llywodraeth yn cyfrannu arian er mwyn cefnogi’r gwaith arbennig yma?
§
A yw’n deg annog pobl
ifanc ‘i fod yn arweinwyr cymunedol ac i drefnu gweithgareddau yn eu cymunedau’
pan mae’r Cyngor yn tynnu’r cyfleusterau a'r arian i wneud hyn oddi wrthynt?
Blaenoriaeth 1: Iaith y Cartref
§
Trosglwyddiad ieithyddol
yn wan ymhlith teuluoedd rhieni sengl - ydi’n bosib cael strategaeth benodol i
fynd i’r afael a’r mater yma?
§
Trosglwyddiad ieithyddol
yn wan mewn teuluoedd ble mae’r tad yn unig sy’n siarad Cymraeg. Mae angen
cryfhau’r neges bod tadau gyda rôl bwysig i sicrhau bod eu plant yn tyfu fyny
yn ddwyieithog.
§
Awgrym
i sefydlu canolfannau trochi newydd mewn ardaloedd gyda chanran uchel o blant
sy’n hwyr yn dysgu’r Gymraeg.
§
Oes
modd clymu gweledigaeth yr iaith gartref gyda nod y Siarter Iaith?
Blaenoriaeth 2: Iaith Dysgu
§
Angen
darparu neges glir i ddisgyblion ysgolion uwchradd bod y Gymraeg yn gymhwyster
yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat ac yn arwain at lawer mwy o gyfleoedd
gwaith yn y dyfodol.
Blaenoriaeth 3: Iaith Gwaith a Gwasanaeth
§
Mae’r gweithle yn le
pwerus i hybu’r defnydd o Gymraeg – mae’n bwysig ehangu’r gweithleoedd sy’n defnyddio’r
Gymraeg yn llwyr.
§
Oes
modd dylanwadu ar fanciau ac archfarchnadoedd a chwmnïau ynni mawrion i wneud
mwy o ddewis iaith.
§
Mae’n
bwysig sicrhau bod y peiriannau hyn yn defnyddio Cymraeg hawdd sy’n cael ei
ddefnyddio pob dydd. Yn aml, mae’r cyfieithiad yn rhy drwsgl a chymhleth sydd
yn anodd deall, ac mae hyn yn troi pobl
yn erbyn yr iaith.
Blaenoriaeth 4: Iaith y Gymuned
§
Pwy sy’n gyfrifol am
drefnu gweithgareddau cymdeithasol? Nodwyd ei bod yn mynd yn anodd cynnal
momentwm pwyllgorau gwirfoddol.
§
Wrth
i’r Cymry Cymreig a siaradwyr di-gymraeg ddod at ei gilydd mewn gweithgareddau
cymdeithasol mae peryg i iaith y gweithgaredd droi i’r Saesneg. Oes modd rhoi
cymorth/cyfarwyddiadau syml i bobl yn y sefyllfaoedd hynny i sicrhau bod y
Gymraeg yn cael ei ddefnyddio heb gau allan y bobl ddi-gymraeg? Dylid hefyd
ystyried canllawiau ar gyfer siarad gyda dysgwyr er mwyn eu cefnogi.
§
Angen
edrych ar opsiynau ar gyfer gallu cynorthwyo busnesau gyda chostau arwyddion
dwyieithog, yn debyg i’r grantiau arferai fod ar gael gan Fwrdd yr Iaith.
§
Angen cynnal mwy o
sesiynau hyfforddiant ‘sut i hybu’r Gymraeg yn y gymuned’ ar gyfer cynghorwyr.
Blaenoriaeth 5: Ymchwil a
Thechnoleg – Gosod y Seiliau Cywir
§
Pwysigrwydd
rhoi mynediad i dechnoleg Cymraeg i blant mewn ysgolion cynradd – os ydynt yn
arfer i ddefnyddio technoleg Cymraeg o oedran cynnar maent yn fwy tebygol o
ddefnyddio technoleg Cymraeg yn ei bywydau pob dydd wedi iddynt adael ysgol.
PENDERFYNWYD: Nodi cynnwys y strategaeth a'r cwestiynau ymgynghoriad.
Dogfennau ategol: