skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (i ddilyn).

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd trafodaeth ar gyfres o egwyddorion y dylai’r Cyngor eu mabwysiadu o ran unrhyw drafodaeth i’r dyfodol fel y gellir llunio ymateb i’r papur ymgynghorol sy’n gyson gyda safbwynt y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Nad yw’n bosib’ i gynghorau cymuned dderbyn rhagor o gyfrifoldebau heb gynyddu eu praeseptau, a byddai hynny, yn ei dro, yn gosod baich ariannol ychwanegol ar deuluoedd sy’n ei chael yn anodd ymdopi yn barod.

·         Bod rhai cynghorau cymuned yn debygol o fod yn fwy parod i helpu nag eraill a sut oedd datrys hynny?

·         Ei bod yn adeg anodd i wireddu’r cynigion hyn gan fod yna fwy o doriadau a heriau ar y gorwel.  Hefyd, ‘roedd y broses o uno cynghorau yn gostus ac nid oedd yn glir o ble ‘roedd yr arian am ddod ar gyfer hynny.

·         Na welwyd tystiolaeth y byddai uno’n well na’r drefn bresennol.

·         Ei bod yn drueni nad yw Comisiwn Williams wedi edrych ar y sector gyhoeddus yn ei chyfanrwydd.

·         Bod yna farn bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn rhy fawr ac mai dyna pam mae’n wynebu gymaint o broblemau.  Os uno, dylid gwneud hynny mewn ffordd ystyrlon a pherthnasol i’n trigolion.

·         Bod uno cynghorau a chanoli popeth yn amddifadu pobl ar draws Cymru o’r pŵer i wneud penderfyniadau’n lleol ac mai cydweithio rhwng awdurdodau yw’r ffordd ymlaen.

·         Bod y ddogfen yn amwys iawn.  Gellid dehongli’r cynnwys mewn nifer o ffyrdd gwahanol ac mae angen mwy o gyfeiriad ac i’r amcanion fod yn gliriach. 

·         Bod y ddogfen yn canolbwyntio ar uno, yn hytrach na chydweithio.

·         Bod angen newid radical yn y ffordd mae cynghorau cymuned a thref yn gweithio yng Nghymru gan ystyried pa fath o bwerau sydd eu hangen arnynt ar gyfer gweithredu dros eu cymunedau.

·         Pryder ynglŷn ag effaith y toriadau ar y 3ydd sector a'r angen i yrru neges glir at y Comisiwn Ffiniau a’r Llywodraeth i ddweud bod yr amser wedi dod i roi’r gorau i ad-drefnu ac i gydweithio a chanolbwyntio ar bobl o fewn ein cymunedau.

·         Bod Cyngor Gwynedd yn barod iawn i wrando i wrando ar lais pobl ifanc. 

·         Y cefnogir yr egwyddor o uno’n wirfoddol gyda Chyngor Ynys Môn yn hytrach na chael ein gorfodi i uno gyda mwy o gynghorau.  Byddai hyn yn arbed arian ac yn osgoi dyblygu gwaith a rhaid cofio hefyd bod gan lawer o’r cynghorau presennol boblogaeth fwy na Gwynedd a Môn gyda’i gilydd.

·         Bod yna ddadleuon dros uno cynghorau ac o bosib’ y byddai yna arbedion yn deillio o hynny, ond byddai angen gweld tystiolaeth o hynny yn gyntaf.

·         Bod yna ormod o orchmynion yn dod o’r canol a dylai’r cynghorau eu hunain gael penderfynu beth yw’r drefn orau, boed yn uno neu gydweithio ag eraill, gan hefyd bennu lefel unrhyw gydweithio.

·         Os yw’r llywodraeth yn mynd yn bellach oddi wrth y bobl o ganlyniad i uno cynghorau sir, rhaid sicrhau bod yna haen agosach o lywodraeth, sef y cynghorau cymuned, ond ni chredir y gallent ddygymod â darparu gwasanaethau fel mae pethau ar hyn o bryd.  Gan hynny, o bosib’ bod cwestiwn o uno yno hefyd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r egwyddorion.

 

 

Dogfennau ategol: