Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
-
Gymeradwyo’r Strategaeth Adfywio Rhanbarthol
ddrafft er mwyn ei chyflwyno I Lywodraeth Cymru
-
Gofyn fod ymrwymiad o fewn y Strategaeth ddrafft
bod gwaith adnabod ac ymateb I faterion sy’n ymwneud ag amddifadedd gweledig yn
derbyn sylw yn ystod 2018/19
-
Fod gwaith pellach yn cael ei wneud er mwyn
ystyried cyfleoedd posib or Rhaglen TRI gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad
pellach I’r Cabinet yn amlinellu cynigion arfaethedig.
-
Ofyn i swyddogion adolygu’r strwythur llywodraethu er sicrhau bod ei fod yn fwy clir ac eglur
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd i:
-
Gymeradwyo’r
Strategaeth Adfywio Rhanbarthol ddrafft er mwyn ei chyflwyno I Lywodraeth Cymru
-
Gofyn
fod ymrwymiad o fewn y Strategaeth ddrafft bod gwaith adnabod ac ymateb I
faterion sy’n ymwneud ag amddifadedd gweledig yn derbyn sylw yn ystod 2018/19
-
Fod
gwaith pellach yn cael ei wneud er mwyn ystyried cyfleoedd posib or Rhaglen TRI
gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach I’r Cabinet yn amlinellu cynigion
arfaethedig.
-
Ofyn i swyddogion adolygu’r strwythur llywodraethu er sicrhau bod ei fod yn fwy clir ac eglur
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi gan fod yr eitem yn un rhanbarthol ac y bydd angen ei drafod
ym mhob un o’r Cynghorau ar hyd Gogledd Cymru. Ychwanegwyd fod Llywodraeth
Cymru wedi nodi’r angen am Gynllun Adfywio Rhanbarthol, ac y bydd angen
cyflwyno a chymeradwyo’r Cynllun cyn y byddai’r Llywodraeth yn derbyn ceisiadau
am fuddsoddiad. Nodwyd mai nod y rhaglen yw i gefnogi prosiectau sydd yn
hyrwyddo adfywiad economaidd, ac y bydd y rhaglen yn gallu ystyried cyfraniad
buddsoddiad cyfalaf o hyd ar 70%.
Ymhelaethwyd ar flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod ar
gyfer y Strategaeth Adfywio gan nodi er mwyn adnabod ardaloedd o angen fod y
Strategaeth ddrafft yn cyfeirio’n bennaf ar ddata Mynegrif Amddifadedd Lluosog
ar gyfer Cymru. Pwysleisiwyd fod y strategaeth yn argymell y blaenoriaethau
prosiectau adfywio canol tref y 4 anheddle sef Rhyl, Wrecsam, Bangor a Bae
Colwyn.
Ychwanegwyd fel rhan o’r gwaith paratoi ym Mangor fod
Partneriaeth Dinas Bangor wedi ei sefydlu, ac mae gwaith pellach wedi ei wneud
i baratoi strategaeth adfywio ar gyfer y ddinas sy’n seiliedig ar dair prif
thema. Nodwyd fod angen gwaith rhagbaratoi
pellach ar gyfer datblygu cynigion amlinellol yn prosiectau manwl, ac
ychwanegwyd fod y rhaglen waith yn cael ei adolygu gan y Bartneriaeth.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Holwyd
gyda dyraniad ariannol sydd wedi yn rannu yn dri rhan, a fydd modd i arian gael
ei rannu ar draws y sir ar gyfer ail neu’r trydydd rhan, nodwyd y bydd modd
datblygu prosiectau tu hwnt i’r lleoliadau sydd wedi ei nodi fel
blaenoriaethau.
-
Trafodwyd
y Cronfa Datblygu Prosiect ar gyfer pob rhanbarth, a fydd yn darparu cyfraniad
50% ar gyfer costau prosiectau’n gynnar, holwyd os mai y Cyngor fydd angen dod
o hyd i’r 50% arall. Ymatebwyd gan nodi nad yw’r arian yn gorfod dod gan y
Cyngor, yn dibynnol ar y prosiect bydd modd gofyn i sefydliad arall sydd yn
rhan o’r bartneriaeth i gyfrannu’r 50%.
-
Tanlinellwyd
y ffaith y byddai angen darganfod 30% o gost unrhyw gynllun ac felly pe byddai
hynny yn disgyn ar y Cyngor byddai’n rhaid iddo gystadlu yn erbyn cynlluniau
eraill yn y Cynllun Asedau.
-
Nodwyd
fod y strwythur yn y strategaeth i’r gweld yn un cymhleth, mynegwyd fod gwaith
pellach i’w wneud ac y bydd elfen o atebolrwydd i’w gweld ar bob cyngor. Nodwyd
fod angen i’r Strwythur fod yn fwy clir.
-
Nodwyd
y bwriad i gyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet, fydd yn nodi cynigion
penodol a’r pecyn ariannol, er mwyn medru ystyried a yw’r Cyngor am roi unrhyw
arian cyfatebol i’r cynlluniau hynny.
Awdur:Llyr B Jones
Dogfennau ategol: