(a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflenni monitro adroddiadau Hunan
Arfarniadau ysgolion ar gyfer:
·
Cyfnod Hydref 2017 i Gwanwyn
2018
·
Cyfnod Gwanwyn 2018 i Haf 2018
(Copiau’n amgaeedig)
(b) I dderbyn cyflwyniad gan Suzanne Roberts, Adran Addysg Grefyddol Ysgol Y Moelwyn.
(Copi hunan-arfarniad yn amgaeedig)
(c) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol:
(i)
Ysgol
y Moelwyn
(ii)
Ysgol
Friars
(iii)
Ysgol
Baladeulyn
(iv)
Ysgol
Cwm y Glo
(v)
Ysgol
Sarn Bach
(vi)
Ysgol
Nebo
(vii)
Ysgol
y Gelli
(viii) Ysgol O M Edwards
(ix)
Ysgol
Abererch
(Copïau’n
amgaeedig)
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd hunan arfarniadau ysgolion dros
ddau dymor sef Hydref 2017 i Gwanwyn 2018 sef:
Ysgol y Moelwyn
Ysgol Friars
Ysgol Baladeulyn
Ysgol Cwm Y Glo
Ysgol Sarn Bach
Ysgol Nebo
Ysgol y Gelli
Ysgol O M Edwards
Ysgol Abererch
Tynnwyd sylw penodol at hunan arfarniad Ysgol
Abererch a oedd yn arbennig o dda.
(b) Croesawyd Suzanne Roberts o Ysgol y Moelwyn
i’r cyfarfod a bu iddi dywys yr Aelodau drwy hunan arfarniad yr Ysgol gan nodi
bod y cynllun datblygu adrannl yn plethu i fewn i’r hunan arfarniad ynghyd â
blaenoriaethau’r Ysgol. Tynnwyd sylw at
y 5 cwestiwn a’r dystiolaeth a gasglwyd fel ymateb megis fforwm disgyblion, craffu
ar waith ysgrifenedig ac ymarferol ac arsylwi gwersi. Nodwyd bod yr hunan arfarniad yn seiliedig
ar adnabyddiaeth y pennaeth pwnc ar staff a disgyblion yr Adran.
Mewn ymateb i gwestiynau amlygwyd y canlynol:
·
O ran cyswllt hefo corff llywodraethwyr, bod llywodraethwyr yn cael
trafodaeth gyda’r Adran ar yr hyn a wneir i gael gwell dealltwriaeth sy’n
cynnwys edrych ar gynlluniau gwaith, arsylwi llyfrau a thasgau.
·
O safbwynt adroddiad Yr Athro Donaldson, teimlwyd bod Addysg Grefyddol
yn ffitio fewn i rai elfennau ond bod angen mwy o hyfforddiant ac amser i’w
gynllunio.
Argymhellwyd: (a)
Derbyn a nodi cynnwys yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn
unol â’r drefn, i’r Swyddog Adnoddau Addysg, anfon llythyr at yr ysgolion uchod
yn nodi gwerthfawrogiad CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr ysgolion i gyrraedd
y graddau.
(b) I nodi a diolch i Suzanne Roberts am
fynychu’r cyfarfod a’r cyflwyniad.
Dogfennau ategol: