Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
COFNODION:
Gosod mast telathrebu 17.5
medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd a 2 gaban offer
a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd
Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r
safle
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un i osod tŵr telathrebu uchder ar dir amaethyddol garw i’r
gorllewin o ffin ddatblygu Pentref Tregarth. Nodwyd y byddai'r tŵr ar
ffurf 'monopole', wedi ei osod ar lawr o goncrid gyda 3 antenna a 2 ddysgl
trawsyriant ar ei ben; 3 cabinet offer ger ei waelod, a ffens 1.2m o uchder o’i
gwmpas i greu compownd. Y bwriad yw y bydd dau
gwmni, megis Telefónica UK Cyf. (O2) a Vodafone Cyf.
yn defnyddio’r cyfleuster i wella darpariaeth 2G a 3G a chynnig gwasanaeth 4G
oherwydd diffyg yn y ddarpariaeth leol bresennol. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn
ceisio cwrdd gyda dyhead Llywodraeth Cymru o sicrhau gwell isadeiledd digidol
mewn cymunedau gwledig.
Atgoffwyd yr Aelodau bod y penderfyniad ar y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 26/02/18 wedi ei ohirio er
mwyn ymweld â’r safle. Yn
y cyfarfod hwnnw gwnaed cais
gan yr Aelodau i’r ymgeisydd ymateb
i rai o’r materion a godwyd yn ystod
y drafodaeth a chyfeiriwyd
at yr ymateb hynny yn adran
1.7 o’r adroddiad. Gohiriwyd y cais am yr
ail dro ym Mhwyllgor 16/04/18 er mwynail drefnu
ymweliad safle (yr ymweliad cyntaf wedi ei ohirio oherwydd tywydd garw). Amlygwyd bod gohebiaeth gan wrthwynebydd yn cwestiynu
dilysrwydd y broses o ddelio
gyda’r cais wedi ei dderbyn a chyfeiriwyd at yr ymateb yn adran 1.8 o’r adroddiad.
Nodwyd, yng nghyd-destun asesu’r cais mai mwynderau gweledol a materion
bioamrywiaeth oedd y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol. Derbyniwyd y byddai’n
anorfod i’r strwythur arfaethedig fod yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus oherwydd
yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored i sicrhau y byddai’n gweithio i’w
gapasiti yn llawn. Nodwyd gyda’r safle arfaethedig yn
un coediog, byddai’r tŵr yn weddol guddiedig o’r rhan fwyaf o fannau cyhoeddus
ac na fyddai yn goruchafu na gormesu unrhyw eiddo
preifat. Ategwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel eisoes yn bodoli yn yr
ardal sydd yn cynnwys coed sylweddol, polion llinellau ffôn a rhes o beilonau
trydan. Amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi gofyn am adroddiadau ychwanegol
ynghylch yr effaith ar ecoleg a choed gan fod y datblygiad wedi ei leoli ar
safle o dir amaethyddol sydd heb ei wella
a bod coed brodorol aeddfed gerllaw.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion
y polisïau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol;
·
Nad oedd y cais yn cydymffurfio
gyda pholisïau - yn groes i
TAN19
·
Nad oedd sylw digonol wedi
ei roi i ardaloedd
o dirwedd arbennig
·
Nad oedd asesiad gwrthrychol wedi ei gwblhau
- y cynnig yn dibynnu ar ddehongliad
gwrthrychol
·
Bod
yr astudiaeth dewis safle yn
wan ac yn anfoddhaol
·
Yr ardal yn cael ei
defnyddio yn aml gan bobl
leol
·
Diffyg y cais o ddangos dealltwriaeth o’r safle
·
Bod
gofynion Llywodraeth Cymru yn ‘gosod
yr hawl’ ac mai rhwystr i’r
broses yw’r Pwyllgor
·
Bod
y cais yn cynnwys ffeithiau anghywir
·
Awgrym cryf i wrthod yr
argymhelliad
·
Dim
gwrthwynebu mastiau – y
mast yma yn y lle anghywir
c)
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd
Uwch
Reolwr y Gwasanaeth Cynllunio bod rhagor o wybodaeth wedi ei ddarparu a bod safleoedd amgen wedi eu hystyried.
Ategodd bod y polisïau yn gefnogol i’r
math yma o ddatblygiad a’i fod yn
hyderus bod yr asesiad yn ystyried
yr holl faterion
cynllunio perthnasol.
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
d)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Oes modd ystyried bod ‘rhannu’ mastiau / peilonau cyfagos?
·
Awgrym rhoi Gorchymyn Cadw Coed ar y goeden
sydd o flaen y safle
dd) Mewn ymateb i
sylw ynglŷn â rhannu polion, nodwyd bod materion diogelwch yn ystyriaeth
ynghyd a sicrhau bod y peilonau yn y llefydd
cywir i sicrhau’r
effaith gorau posib. Ategwyd bod y safle yn diwallu'r
angen a bod yr ymgeisydd wedi cyfarch y rhesymeg dros y dewis o safle.
e)
Penderfynwyd caniatáu
y cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol
1. Amser
2. Cydymffurfio
gyda’r cynlluniau
3. Tynnu’r mast a’r offer cysylltiol ac adfer y tir os
yw’r defnydd yn dod i ben.
4. Rhaid cyflwyno
Datganiad Dulliau Adeiladu Amgylcheddol cyn dechrau
ar y datblygiad
5. Dim gwaith i goed heb gytuno ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol
6. Amod lliw mast a’r antena/dysgl
7. Amod lliw ffens a’r “cabinets”
8. Rhaid ymgymryd ag arolwg archeolegol cyn dechrau gwaith
9. Rhaid
ffensio ardal gwarchod gwrychoedd /
coed cyn dechrau unrhyw waith
arall ar y safle
10. Rhaid
dilyn argymhellion yr Adroddiad Asesiad Ecolegol yn union
11. Rhaid cyflwyno Cynllun Plannu
a’i ddilyn yn union
Dogfennau ategol: