Agenda item

Creu canolfan ymchwil a menter iachad acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais dynnwyd yn ol - C16/1158/16/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Creu canolfan ymchwil a menter iachâd acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais a dynnwyd yn ôl - C16/1158/16/LL)

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i greu canolfan ymchwil newydd ar gyfer cwmni menter gymunedol. Amlygwyd y gohiriwyd y penderfyniad yn wreiddiol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio 15 Ionawr, 2018 er mwyn trefnu ymweliad safle. Ategwyd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd yn rhoi eglurhad mwy manwl o natur y datblygiad arfaethedig oedd yn cynnwys cais i newid disgrifiad y bwriad i “Swyddfa, Ystafell Amlbwrpas a Chyfleuster Ymchwil” yn unol â’r Datganiad Dyluniad a Mynediad a gyflwynwyd.

 

Eglurwyd y byddai tair elfen i’r cyfleuster:

·         Swyddfa

·         Ystafell aml-ddefnydd (y brif gromen) – i’w ddefnyddio ar gyfer chwarae a recordio offerynnau acwstig a lleisiau ar gyfer profi eu heffeithiau ar iechyd dynol. Mae’r adeilad wedi ei ddylunio er mwyn darparu ansawdd uchel o sŵn a chyda mesurau lliniaru fel na fyddai’r sŵn i’w glywed yn allanol.

·         Tair cromen fechan wedi eu dylunio i gyseinio ag amleddau penodol.

 

Ategwyd mai’r bwriad yw y byddai’r adeiladau unigol wedi eu “tiwnio” fel bod effaith unrhyw amledd yn cael ei uchafu gyda gobaith o ddarparu modelau pensaernïol y gellid eu hatgynhyrchu ar gyfer gosod mewn adeiladau presennol. Cadarnhawyd nad oedd bwriad trin cleifion ar y safle, ond ymchwilio er mwyn deall, modelu a phrofi effeithlonrwydd nodweddion acwstig.

 

Nodwyd bod y safle mewn lleoliad ynysig mewn coedwig gymysg ac ystyriwyd y byddai’r adeiladau, oherwydd eu maint a deunyddiau, yn gweddu’r safle ac yn guddiedig o welfannau pell. O safbwynt ymyrraeth gyffredinol, cadarnhawyd y disgwylir dau aelod a staff fod ar y safle i ddechrau (o bosib i gynyddu i 5), gyda’r nifer o gwsmeriaid yn y “rhifau sengl isel” ar unrhyw adeg benodol.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol. Ategwyd ei fod yn ddefnydd priodol o’r safle ac nad oedd yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol o safbwynt y polisïau hynny. Nodwyd hefyd nad oedd y wybodaeth newydd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn newid yr argymhelliad.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol;

·         Nad oedd dyfodol i’r fenter

·         Bod trigolion ardal Pentir yn poeni yn ddirfawr am effaith weledol y datblygiad

·         Ei fod yn amheus o’r gairymchwil

·         Bod y cytiau gwellt a phren allan o gymeriad

·         Petai'r fenter yn methu, pa ddefnydd fydd o’r lle?

·         Bod y busnes yn annelwig

·         Argymell gwrthod

 

c)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Balch o gael gwybodaeth ychwanegol yn cadarnhau mai gwaith ymchwil yn unig fydd yn cael ei ddarparu ac nid trin cleifion

·         Siâp iglw ddim yn briodol i’r ardal

·         Pam nad oes gofyn i’r busnes yma gael ei leoli mewn stad ddiwydiannol?

·         Nid yw dyluniad y datblygiad yn gweddu i’r ardal

·         Effaith weledol

·         Nad oedd sail wyddonol i’r gwaith ymchwil

·         Os nad yw’r fenter yn gynaliadwy ac yn methu fel busnes, beth fydd yn digwydd i’r adeiladau?

·         Awgrym gosod amod i ddymchwel yr adeilad petai’r fenter yn dod i ben

·         Cais i warchod llwybr cyhoeddus (rhif 59) yn ystod y datblygiad ac wedi hynny.

 

d)        Penderfynwyd caniatáu y cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol.

        

1.         Amser cychwyn y datblygiad

2.         Datblygiad yn llwyr unol a'r cynlluniau

3.         Deunyddiau

4.         Amod Bioamrywiaeth

5.         Rhaid cwblhau’r ddarpariaeth barcio cyn i’r safle fod yn weithredol

6.         Rheoli amser gweithredu – 09:00 – 17:00 Llun i’r Sadwrn

7.         Rhaid cyflwyno  a chytuno mesurau rheolaeth sŵn cyn i’r adnodd ddod yn weithredol

8.         Amod i gyfyngu lefel sŵn all gyrraedd yr eiddo preswyl agosaf

 

Dogfennau ategol: