skip to main content

Agenda item

Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y penderfyniad   ym mhwyllgor Ebrill 16eg 2018 er mwyn gofyn i gynrychiolwyr Cymdeithas Cymunedol Garndolbenmaen am wybodaeth bellach, ar ffurf pecyn ariannol realistig, ar gyfer eu bwriad  o brynu’r adeilad a’i gadw fel tafarn, ynghyd a thystiolaeth o gynnig ariannol rhesymol i brynu’r eiddo.

       

Ers y penderfyniad i ohirio, mynegwyd bod y cais bellach yn destun apêl ffurfiol i’r Arolygaeth Gynllunio am ddiffyg penderfyniad o fewn yr amserlen briodol. Nodwyd bod trefn ffurfiol i ddelio gydag apêl am ddiffyg penderfyniad ac amlygwyd bod y rheoliadau perthnasol o fewn Deddfwriaeth Cynllunio yn nodi’r canlynol:

 

Ar gyfer apeliadau Cynllunio ble mae apêl wedi ei wneud am fethiant yr Awdurdod Cynllunio          Lleol i wneud penderfyniad ar y cais o fewn y cyfnod priodol, mae cyfnod o 4 wythnos o dderbyn yr apêl ble mae cyfle i’r Awdurdod Cynllunio Lleol barhau i benderfynu’r cais.

 

Yn yr achos yma, cyflwynwyd yr apêl i’r Arolygaeth Cynllunio ar y 18fed o Ebrill gyda’r angen am benderfyniad erbyn Mai 16eg. Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais hefyd wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 26ain o Chwefror 2018 er mwyn rhoi cyfle i’r gymdeithas gymunedol leol gyflwyno tystiolaeth o’u bwriad i brynu’r adeilad er mwyn cadw ei ddefnydd fel tafarn.

 

Nodwyd, ei bod yn rhesymol ystyried nad oedd y defnydd presennol bellach yn hyfyw fel tafarn. Derbyniwyd gwybodaeth gyda’r cais gan gwmni o gyfrifwyr yn cadarnhau bod dirywiad wedi bod ers rhai blynyddoedd yn nhrosiant y busnes.

 

Mynegwyd bod argymhelliad y swyddogion yn glir i ganiatáu y cais, ond cyfeiriwyd at dri opsiwn, oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, yn amlygu'r risgiau i’r Cyngor, oedd yn agored i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion fyddai’n golygu fod yr apêl yn dod i derfyn heb unrhyw weithrediad pellach gan osgoi costau i’r Cyngor.

 

c)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod asedau cymunedol yn cael llawer mwy o sylw o dan y Localism Act  yn Lloegr

·         Y Pwyllgor eisoes wedi cynnig 9 wythnos i’r Gymdeithas Gymunedol - dylid cadw at eu gair a chadw at yr amserlen

 

ch)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amserlen, nododd yr Uwch Reolwr         Gwasanaeth Cynllunio          bod y Pwyllgor yn cael eu gorfodi i drafod y cais          oherwydd trefniadau apêl. Ategodd y          buasai yn dymuno gweld y dafarn yn    parhau fel tafarn, ond gyda’r busnes wedi bod ar y   farchnad ers 2011, nid         oedd prynwr wedi dod ymlaen. Nododd bod y Gymdeithas Gymunedol yn ceisio prynu'r safle, ond nad oedd pecyn ariannol realistig na chynnig cadarn    wedi ei wneud.

 

d)      Mewn ymateb i sylw ynglŷn â thebygolrwydd y Gymdeithas Gymunedol o     gyrraedd eu targed,          nododd y Rheolwr Cynllunio bod y wybodaeth             ychwanegol a dderbyniwyd wedi ei gynnwys          ym mharagraff 5.14 o’r adroddiad.        Ategwyd bod cyfarfod cymunedol wedi ei gynnal a   derbyniwyd bod bwriad y   gymdeithas gymunedol yn ddiffuant a chanddynt gynllun busnes    uchelgeisiol iawn sydd i’w ganmol. Er hynny, nodwyd mai ychydig o filoedd yn             unig oedd wedi ei addo i’r ymgyrch, hyd yma, oedd ymhell o’r targed.

 

dd)    Mewn ymateb i bryder y gall y gymdeithas herio penderfyniad y Pwyllgor o newid    eu meddwl ynglŷn â’r amserlen, nododd y Cyfreithiwr na fydd sail i’r her gan    fod angen i’r Pwyllgor ddod i gasgliadau yn gynt oherwydd yr amserlen            statudol. Nododd hefyd nad oedd dim byd yn           arbed i’r Gymdeithas Gymunedol     rhag gwneud cynnig am yr adeilad.

        

e)      Gwnaed cais am bleidlais gofrestredig

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu y cais:           

O blaid y cynnig i ganiatáu y cais, (8) Y Cynghorwyr: Anne Lloyd Jones, Huw Wyn Jones, Berwyn Parry Jones, Edgar Wyn Owen, Dilwyn Lloyd, Eric Merfyn Jones, Siân Wyn Hughes, Owain Williams

 

Yn erbyn y cynnig i ganiatáu y cais, (2) Y Cynghorwyr: Gruffydd Williams ac Eirwyn Williams

 

Atal, (1) Y Cynghorydd Catrin Wager

 

f)       Penderfynwyd caniatáu y cais

 

Amodau

 

1. Amser

2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

3. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir

 

 

Dogfennau ategol: