Parafest, Canolfan Awyrofod Eryri, Llain Awyr Llanbedr
I ystyried y cais uchod
Cofnod:
Parafest, Canolfan Awyrofod Eryri, Llain Awyr
Llanbedr
Cyflwynwyd y panel
a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10
munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.
Ar ran yr eiddo: Mr
Mark Meadows (ymgeisydd)
Eraill a wahoddwyd: Cynghorydd
Annwen Hughes (Aelod Lleol)
Cynghorydd
Eryl Jones Williams (Aelod ymylol)
Mr
Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu Gwynedd a Môn, Heddlu Gogledd Cymru)
a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer cynnal Gŵyl ‘Parafest’ fyddai yn cael ei lleoli ar dir
Canolfan Awyrofod Eryri ar y Llain Awyr yn Llanbedr. Bwriad yr ymgeisydd oedd
cynnal gŵyl flynyddol paragleidio ynghyd a digwyddiad cymdeithasol o
weithgareddau yn ymwneud a pharagleidio i beilotiaid a’u teuluoedd. Amlygwyd
bod y bwriad yn cynnig gwerthiant alcohol a lluniaeth hwyr y nos fel rhan o’r
arlwy ynghyd â cherddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio.
Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau
arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf
Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod 9 e-bost wedi ei dderbyn gyda 4 ohonynt yn gwrthwynebu’r cais
ar sail y 4 amcan trwyddedu. Tynnwyd sylw at yr amodau sŵn a gyflwynwyd
gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Cyfeiriwyd hefyd at gais blaenorol a
gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ym mis Ionawr 2018 oedd heb ei gyflwyno yn unol â'r
gofynion cyfreithiol. Amlygwyd bod yr
ymgeisydd wedi ymateb i bryderon a godwyd yn ystod y broses ymgynghorol ar y
cais gwreiddiol a bellach wedi cytuno i gynnal gweithgareddau trwyddedig hyd at
1:00 (nos Wener a nos Sadwrn) yn hytrach na 03:00 fel ag y gofynnwyd amdano.
Ategwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi cyflwyno sylwadau i’r Gwasanaeth Tân i
geisio diwallu eu pryderon.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai
c)
Wrth ymhelaethu ar y
cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a gofynnodd am yr hawl i ddosbarthu
lluniau a manylion pellach am yr Ŵyl. Gwnaed penderfyniad i dderbyn llun o
leoliad gŵyl 2017, ond gwrthodwyd manylion o sylwadau unigolion gan nad
oedd hawl wedi ei dderbyn i’w rhannu. Teimlai yn anfodlon nad oedd yn cael y
cyfle i herio ymateb gan un o’r gwrthwynebwyr, oedd eisoes wedi cynnwys
sylwadau gan unigolion eraill. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod y
sylwadau hynny wedi derbyn caniatâd i’w rhannu ac wedi eu cyflwyno o fewn y
cyfnod ymgynghori.
Ategodd y sylwadau
canlynol:
·
Yr ŵyl yn
ddigwyddiad ar raddfa fechan ac na ddylai gael ei gymharu gyda Gŵyl Rhif 6
·
Ni dderbyniwyd cwynion
o’r ŵyl Parafest a gynhaliwyd yng Nghaerwys 2017
·
Ei fod yn disgwyl llai na 500 o geir dros gyfnod o
bedwar diwrnod – roedd wedi cysylltu gyda’r adran Amgylchedd
·
Nad oedd ganddo
gyllideb, nawdd na chefnogaeth cwmnïau mawr ar gyfer yr Ŵyl - yn ddibynnol
ar werthiant tocynnau
·
Bod yr oriau trwyddedig wedi ei gyfyngu i 11:00 tu
allan a 1:00 tu mewn, hyn mewn ymateb i bryderon gwrthwynebwyr
·
Bod mesurau yn eu lle i reoli ehediadau
·
Nad oedd bwriad cynnal
gŵyl ymwthiol - gŵyl gymunedol, deuluol ar gyfer paragleidio yn unig
·
Bod yr ŵyl yn
ddibynnol iawn ar y tywydd
·
Bod cerddoriaeth yn elfen o adloniant yn unig
·
Nad oedd ganddo fwriad i achosi unrhyw aflonyddwch
ch) Yn manteisio ar ei hawl i
siarad, nododd yr aelod lleol, y pwyntiau canlynol;
·
Croesawu'r digwyddiad er lles economi ardal Llanbedr
·
Pryderon am sŵn
·
Angen sicrwydd bod rhywbeth yn cael ei wneud i leihau tagfeydd traffig
yn yr ardal
d)
Yn manteisio ar ei hawl
i siarad, nododd yr aelod ymylol, y pwyntiau canlynol;
·
Nad oedd yn fodlon bod y llun wedi ei rannu gan nad
oedd tystiolaeth dyddiad nac amser ar y llun
·
Pryder am faterion
traffig, ond deall nad cyfrifoldeb yr ymgeisydd fyddai hyn
·
Na fyddai isadeiledd Llanbedr yn gallu ymdopi gyda
phroblemau traffig o’r maint yma
·
Dim gwrthwynebiad i’r
ŵyl yn benodol, dim ond i’r dyddiad y mae’n cael ei drefnu - penwythnos
brysuraf y flwyddyn ar ddechrau gwyliau haf i ysgolion.
dd)
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, cadarnhaodd Swyddog o’r Heddlu gan mai cais o’r newydd ydoedd nad oedd tystiolaeth i wrthwynebu’r
cais. Nododd ei fod wedi gwneud ymholiadau gyda
Heddlu Caerwys ynglŷn â Gŵyl 2017 oedd yn cadarnhau nad oedd cwynion
wedi eu derbyn. Mynegodd bod yr
Heddlu yn gefnogol i’r cais ac yn cyfarch bod yr oriau trwyddedu wedi eu cwtogi. Nododd bod ymweliad safle wedi
ei gynnal gyda’r rhingyll lleol. Roedd yn derbyn
y pryderon sŵn a thrafnidiaeth, ond ategodd bod y Grŵp Digwyddiadau
wedi trafod y mater ac er nad yw’r
sefyllfa yn ddelfrydol, ni ellid dal yr ymgeisydd yn llwyr gyfrifol.
e)
Wrth grynhoi ei gais,
amlygodd yr ymgeisydd mai Gŵyl deuluol oedd y fenter ac nad oedd ganddo
unrhyw fwriad o greu aflonyddwch i drigolion lleol na chwaith aflonyddu
ymwelwyr yr Ŵyl. Ategodd bod yr Ŵyl yn un ar raddfa fechan a’r bwriad
oedd symud y gerddoriaeth i mewn i’r awyrendy o 11:00 tan 01:00. Amlygodd bod trafodaethau
wedi eu cynnal gyda’r Gwasanaeth Tân a’u bod yn hapus gyda’r trefniadau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cadeirydd i’r ymgeisydd ynglyn a’i fwriad i dderbyn
amodau Swyddog Iechyd yr
Amgylchedd, cytunodd i sicrhau y byddai’r
Rheolwyr Sain yn cadw i’r lefel a gytunwyd ac yn monitro'r lefelau sŵn.
f)
Wrth ystyried y cais ystyriwyd adroddiad y Swyddog
Trwyddedu, y ffurflen gais, y sylwadau ysgrifenedig a ddaeth i law oddi wrth y
partïon gyda diddordeb ynghyd â’r sylwadau llafar a gyflwynwyd gan yr holl
bartïon yn bresennol yn y gwrandawiad. Bu i’r Is-bwyllgor hefyd ystyried Polisi
Trwyddedu'r Cyngor, arweiniad y Swyddfa Gartref ynghyd ag egwyddorion Deddf
Trwyddedu 2003
• Trosedd ac Anrhefn
• Diogelwch y Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn Plant rhag Niwed
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn ddarostyngedig i
amodau arfaethedig a gytunwyd rhwng Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a’r
ymgeisydd o ran effeithiau sŵn
Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i sylwadau ynglŷn â'r pryderon canlynol:
Sŵn - mewn ymateb i bryderon y
byddai caniatáu’r cais yn arwain at gynnydd mewn
problemau sŵn roedd yr Is-bwyllgor
yn derbyn y gall unrhyw broblem sŵn
mewn egwyddor fod yn gyfystyr a
niwsans cyhoeddus. Fodd bynnag ni
dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth o ran natur,
amledd a dwysedd y sŵn fyddai’n
cael ei gynhyrchu o ganlyniad i ganiatáu’r drwydded na’r nifer fyddai’n
cael ei effeithio gan mai dim ond ar un penwythnos mewn blwyddyn y byddai’r Ŵyl yn digwydd. Ni
dderbyniwyd tystiolaeth y byddai cynhyrchiad sŵn yr ŵyl yn cyrraedd
lefelau fyddai’n niweidiol i iechyd pobl yn ôl canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Tra bod gan yr Is bwyllgor gydymdeimlad gyda’r pryderon sŵn nid oeddynt wedi
ei perswadio y byddai rhoi’r
drwydded yn debygol o arwain at
broblem sŵn mor ddifrifol fel y gellid ei ddisgrifio
fel ‘niwsans cyhoeddus’.
Amlygwyd bod Iechyd Amgylcheddol y
Cyngor wedi cyflwyno cyfres o amodau sŵn
arfaethedig. Ym marn yr Is-bwyllgor,
roedd yr amodau hyn yn rhesymol ac yn
darparu camau diogelu priodol i atal
unrhyw sŵn fyddai’n deillio o’r ŵyl rhag
bod yn niwsans cyhoeddus. Roedd yr
Is-bwyllgor yn fodlon y byddai ymgorffori’r
amodau yn sicrhau bod y drwydded
yn gydnaws a’r amcan trwyddedu o
atal niwsans cyhoeddus.
Traffig - mewn ymateb i bryderon y
byddai caniatáu’r cais yn arwain at broblemau
traffig roedd yr Is-bwyllgor yn derbyn y gall problemau
traffig mewn egwyddor fod yn
berthnasol i’r amcan trwyddedu
o sicrhau diogelwch cyhoeddus. Fodd
bynnag ni dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth
wrthrychol o ran natur y traffig
fyddai’r digwyddiad yn ei gynhyrchu, ac a fyddai’r
traffig hwnnw yn uchafu capasiti y rhwydwaith leol. Amlygwyd nad oedd sylwadau gan
yr adran Briffyrdd na’r Heddlu yn amlygu pryderon am lefelau traffig o ganlyniad i ganiatáu’r drwydded. Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei perswadio y byddai rhoi’r
drwydded yn debygol o arwain at broblem traffig
a fyddai’n tanseilio diogelwch cyhoeddus.
Dŵr yfed - mewn ymateb i bryder
y byddai caniatáu’r cais yn cael effaith andwyol
ar bwysau dŵr yn y dalgylch roedd
yr Is bwyllgor yn derbyn y gall cwymp
sylweddol mewn pwysau dŵr olygu
diffyg cyflenwad, ac o ganlyniad
achosi problem diogelwch cyhoeddus. Er hynny, nid oedd tystiolaeth
wrthrychol wedi dod i law yn amlygu y byddai cynnal yr ŵyl hon yn achosi problem o’r fath. Ategwyd nad oedd unrhyw sylwadau wedi eu cyflwyno gan Iechyd Amgylcheddol y Cyngor, na Dwr Cymru yn amlygu’r pryder. O dan yr amgylchiadau nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y
byddai rhoi’r drwydded yn achosi
problem cyflenwad dŵr fyddai’n tanseilio
diogelwch cyhoeddus.
Wrth
ddod at y penderfyniad ni wnaeth yr Is-bwyllgor ystyried y dogfennau pellach a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn y gwrandawiad oherwydd eu bod yn fodlon nad oedd caniatáu y cais yn debygol o arwain
at broblemau fyddai’n tanseilio’r
amcanion trwyddedu.
Adroddodd y Cyfreithiwr y
byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd
yn bresennol. Hysbysebwyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o
dderbyn y llythyr hwnnw
Dogfennau ategol: