CLUB DB Ltd, 318 Stryd Fawr, Bangor
I ystyried y cais uchod
Cofnod:
Club DB, 318, Stryd
Fawr, Bangor
Cyflwynwyd y panel
a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol.
Ar ran yr eiddo: Mr
Peter Hennessey - ymgeisydd
Eraill a wahoddwyd: Mr
Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu Gwynedd a Môn, Heddlu Gogledd Cymru)
a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo
ar gyfer Club
DB, 318 Stryd Fawr, Bangor. Bwriad yr ymgeisydd yw ychwanegu'r gweithgareddau trwyddedig o ddangos ffilmiau, dramâu neu gynnal perfformiadau dawns ar yr eiddo. Gofynnwyd am,
·
ymestyn oriau agor yr eiddo
i 02:30 ar nos Wener a nos
Sadwrn;
·
cynnal cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio
am awr yn ychwanegol, hyd at 02:30 ar nos Wener
a nos Sadwrn, a hanner awr yn
ychwanegol, hyd at 02:00 weddill yr wythnos;
·
ymestyn oriau gwerthu alcohol o dri chwarter awr
i 02:15 ar nos Wener
a nos Sadwrn.
·
hanner awr ychwanegol ar Suliau
Gŵyl y Banc, a hyd
05:30 ar nos Calan.
Tynnwyd sylw at
fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr
Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â
gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod 1 llythyr
yn gwrthwynebu ac un e bost gan
Heddlu Gogledd Cymru yn argymell amodau i’w cynnwys ar
y drwydded. Gwnaethpwyd y sylwadau mewn perthynas â 2 o’r amcanion trwyddedu - Atal trosedd ac anrhefn ac Atal niwsans cyhoeddus.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai
c)
Wrth ymhelaethu ar y
cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno ac ategwyd y sylwadau canlynol:
·
Ei fod wedi bod yn
cydweithio gyda’r Heddlu i sicrhau bod y busnes yn rhedeg yn esmwyth
·
Ei fod yn barod i gydweithio gyda’r gymuned leol
·
Ei fod yn cyflogi pobl leol
·
Bod yr eiddo yn gyn-adeilad masnachol
·
Bod angen am yr oriau ychwanegol oherwydd yr oriau
hyn sydd yn gwneud y busnes yn hyfyw.
Mewn
ymateb i’r gwrthwynebiad bod y ‘busnes mewn ardal breswyl’ amlygodd yr ymgeisydd bod y busnes ar stryd fasnachol gyda phreswylwyr i’r cefn o’r eiddo.
Ategodd bod rhaniadau gwrthsain
wedi eu gosod at flaen yr adeilad.
ch) Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd Swyddog o Heddlu Gogledd Cymru bod
problemau hanesyddol wedi bod gyda’r eiddo yn y gorffennol ond bod y sefyllfa
wedi gwella ers i’r perchennog newydd gymryd drosodd. Amlygodd bod cais i amod
goruchwylwyr drysau gael ei roi ar y drwydded er mwyn cysoni trefniadau gydag eiddo
cyffelyb - hyn i sicrhau y byddai unrhyw broblemau sydd yn digwydd ar y palmant
yn cael eu monitro. Ategodd nad oedd unrhyw broblemau wedi codi gyda
digwyddiadau trwydded dros dro hyd yma a bod y cydweithio wedi bod yn dda.
Nododd hefyd bod cais wedi ei wneud i amod TCC gael ei chynnwys ar y drwydded.
Roedd yn gefnogol i’r cais yn amodol i’r amodau uchod.
d)
Wrth grynhoi ei gais,
nododd yr ymgeisydd mai ei flaenoriaeth oedd rheoli'r eiddo yn dda a pharhau i
gydweithio yn effeithiol
dd) Wrth ystyried y cais
ystyriwyd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roi sylw penodol i Polisi
Trwyddedu'r Cyngor, arweiniad y Swyddfa Gartref ac egwyddorion Deddf Trwyddedu
2003;
• Trosedd ac Anrhefn
• Diogelwch y
Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn
Plant rhag Niwed
PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau diogelwch drws
ac amodau teledu cylch cyfyng ar y drwydded yn gydnaws
a’r amcanion trwyddedu
Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i sylwadau ynglŷn â'r pryderon canlynol:
Atal trosedd ac
anhrefn – derbyn sylwadau yr Heddlu bod angen amodau ychwanegol o ran diogelwch
drws er mwyn sicrhau bod y drwydded yn gwarchod
yr amcan o atal trosedd ac anhrefn.
Sŵn
– wrth ystyried pryderon trigolion lleol y byddai caniatáu’r cais yn arwain at gynnydd mewn problemau sŵn oddi wrth yr eiddo, roedd yr
Is-bwyllgor yn derbyn y gallai
unrhyw broblem sŵn mewn
egwyddor fod yn gyfystyr a niwsans
cyhoeddus. Fodd bynnag ni dderbyniwyd
unrhyw dystiolaeth o ran natur, amledd
a dwysedd y sŵn presennol, y sŵn fyddai’n
cael ei gynhyrchu o ganlyniad i
wyro’r drwydded na’r nifer fyddai’n cael ei effeithio.
Ni dderbyniwyd unrhyw
dystiolaeth y byddai’r sŵn tebygol yn cyrraedd lefelau fyddai yn niweidiol i iechyd pobl yn ôl canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.
Amlygwyd hefyd mai un preswylydd
lleol oedd wedi cyflwyno gwrthwynebiad ar
sail sŵn. Ni dderbyniwyd
sylwadau gan adran Iechyd Amgylcheddol y Cyngor bod problemau sŵn presennol na thebygol yn deillio o’r
eiddo, ac felly yn awgrymu nad oedd
gwir sefyllfa o niwsans
cyhoeddus.
O
dan yr amgylchiadau, tra bod gan yr Is bwyllgor gydymdeimlad gyda’r pryderon a godwyd o ran materion sŵn, nid oeddynt wedi ei perswadio y byddai caniatáu’r drwydded yn debygol o arwain at broblem sŵn mor ddifrifol fel y gellid ei ddisgrifio fel
niwsans cyhoeddus.
Adroddodd y Cyfreithiwr
y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i
bawb oedd yn bresennol.
Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i
apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw.
Dogfennau ategol: