Aelod Cabinet:
Cynghorydd W. Gareth Roberts
I dderbyn adroddiad ar yr uchod.
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn amlinellu’r drefn
o ymdrin â chwynion gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ystod 2017-18,
gan nodi bod y Cyngor hwn gyda’r gorau yng Ngogledd Cymru o ran datrys ac
ymdrin â chwynion.
Rhoddwyd cyfle i
Aelodau graffu cynnwys yr adroddiad ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol:
(i)
Croesawyd yr enghreifftiau o lythyrau o ddiolch o
fewn cynnwys yr adroddiad a oedd yn galonogol dros ben, a gofynnwyd beth yn
nhyb yr Aelod Cabinet ydoedd rôl y craffwyr?
Mewn ymateb, eglurwyd bod cyflwyno’r adroddiad i’r
Pwyllgor Craffu yn drefn tryloyw a bod modd i’r Aelodau gynnig sylwadau ar y
cynnwys a fyddai’n cael ei gyflwyno fel rhan o’r adroddiad i’r Cabinet. ‘Roedd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a
Llesiant yn eithaf’ hyderus bod y Cabinet yn heriol. Ychwanegodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd
a Llesiant bod rôl craffu yn allweddol gyda phwyslais yn hyn o beth gan
asiantaethau cenedlaethol i sicrhau bod Aelodau yn ymwybodol o’r hyn sy’n
digwydd o fewn y drefn a’r math o gwynion a dderbynnir.
(ii)
Gofynnwyd a oedd tueddiadau / patrwm i’r cwynion a
dderbynnir?
Mewn ymateb, eglurwyd pe byddai’r swyddog
perthnasol yn gweld tueddiadau, byddai yn y lle cyntaf yn codi ymwybyddiaeth
o’r mater i’r Tim Rheoli Adrannol, ac i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol. Darparir adroddiadau chwarterol a bod
tueddiad i’r cwynion fod yn ymwneud a prinder gofalwyr cartref a materion
cenedlaethol megis trothwyon ariannol.
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a
Llesiant nad oedd y niferoedd o gwynion yn bwysig ond yn hytrach beth ydoedd
union natur y gwyn a’r hyn a wneir i oresgyn unrhyw broblemau. Sicrhawyd bod yr
Adran yn cymryd pob cwyn o ddifrif ac yn ceisio datrys unrhyw broblemau yn
fuan.
(iii)
Gofynnwyd a oedd rôl i Aelodau Etholedig fod yn fwy
ymarferol ar lawr gwlad?
Mewn ymateb, eglurwyd y byddai modd iddynt adrodd
ar gwynion yn uniongyrchol i’r Adran yn dilyn cynnal cymorthfeydd yn eu wardiau
ac y gellir ychwanegu hyn i’r trefniant.
Ond rhaid ystyried bod trefniadau a phrosesau penodol i’w dilyn.
(iv)
Gofynnwyd sut y diffinir cwyn / ymholiad?
Mewn ymateb, tynnwyd sylw at enghreifftiau yn Nhabl
2 i’r adroddiad ac fe nodwyd y ceir nifer yn cysylltu trwy Aelodau Cynulliad /
Seneddol sydd yn bennaf yn ymwneud â diffyg gofal cartref ar gael. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd
a Llesiant bod yr Adran yn rhagweithiol ac yn derbyn unrhyw her gan geisio
datrys problemau y gorau gallent. ‘Roedd
hyn yn cael ei adlewyrchu yn y niferoedd o gwynion sydd yn mynd yn ei blaenau i
cam 2 neu ymlaen i’r Ombwdsmon.
(v)
Cyfeiriwyd at y log gwersi i ddysgu o gwynion a
dderbyniwyd gan yr Adran, ac yn benodol gofynnwyd pam bod dau uwch swyddog yn
ymdrin â chwyn?
Eglurwyd mai’r rheswm ydoedd bod y gwyn dan sylw yn
ymwneud ag mwy nag un maes a sicrhawyd bod y wybodaeth yn derbyn trafodaeth yn
y Tim Rheoli.
(vi)
O safbwynt y log gwersi i ddysgu, awgrymwyd y
byddai’n fuddiol nodi targed benodol yn y golofn “dyddiad targed gweithredu” yn
hytrach na nodi “mor fuan ag sy’n bosib” a nodi rheswm os oes unrhyw fethiant o
weithredu.
(vii)
Eglurwyd ei bod yn anodd casglu ystadegau / data,
oherwydd bod llawer iawn o’r cwynion yn cael eu cyflwyno yn anffurfiol ac yn
cael eu datrys yn syth gan y timau perthnasol.
(viii) Gofynnwyd pam bod
bwriad i sefydlu trefn gwynion newydd?
Mewn ymateb, eglurwyd bod hyn yn deillio gan
Lywodraeth Cymru yn sgil adolygiad o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014, gyda chais am awgrymiadau gan Grŵp Swyddogion
Cwynion Gogledd Cymru ynghyd ag ymgynghoriad gyda defnyddwyr er mwyn canfod
effaith y ddeddf. Eglurwyd bod
swyddogion Gogledd Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd lle ceir cyfle i drafod a’u
gilydd. Ychwanegwyd y byddir yn ystyried
ymarferion da ac fe fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod gyda
swyddogion cwynion pob chwe mis.
(ix)
O safbwynt faint o gwynion sydd yn cael eu cyflwyno
gan ofalwyr, esboniwyd y derbynnir cryn dipyn gan berthnasau sydd yn ofalwyr a
chydnabuwyd y byddai’n syniad i ychwanegu colofn i’r dyfodol ar gyfer
ymholiadau / cwynion “staff”.
(x)
Nodwyd bod pryder ar lawr gwlad ar y broses o
ymdrin â phennu mannau parcio anabl tu allan i dai unigolion ac ymdrin â
bathodynnau glas.
Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Cwynion mai Siop
Gwynedd sy’n gyfrifol am brosesu ceisiadau bathodynnau glas. Eglurwyd bod Panel yn cyfarfod pob 3 mis i
drafod ceisiadau mannau parcio anabl o flaen tai, ac fe ymdrinnir ag oddeutu 20
ymhob cyfarfod. Esboniwyd ymhellach y
gwelwyd cynnydd yn y ceisiadau a rhaid cofio mai oddeutu 10 man parcio sydd ar
gael i’w dynodi pob blwyddyn dros Wynedd gyfan ar gost o £4,000 yr un.
Cadarnhawyd yr ymdrinnir â phob cais ar ei haeddiant yn unol â’r meini prawf
perthnasol ac fe fyddir yn egluro’r rhesymau pam bo ceisiadau yn aflwyddiannus
wrth unigolion. Yn hyn o beth, nodwyd
bod cyfyngiadau megis ffyrdd heb eu mabwysiadau, llinellau melyn, lle cyfyng a
diogelwch ffyrdd i’w cymryd i ystyriaeth pan yn ymdrin â cheisiadau.
Ychwanegwyd yn unol â’r drefn mai’r unigolyn sydd
yn gyrru cerbyd anabl sydd â hawl i fan parcio ac nid aelodau o’r teulu.
(xi)
Nodwyd pryder ynghylch prinder gofalwyr yn enwedig
yn Nwyfor a Meirionnydd, eglurwyd bod y mater yn derbyn sylw drwy’r gwaith
cychwynnol a wneir i faterion recriwtio staff.
Esboniwyd bod y sefyllfa yn newid o fis i fis gyda oddeutu 150 o oriau
yr wythnos yn fyr o ran darpariaeth mewnol ac allanol yn ardal Meirionnydd sydd
gyfystyr â thua 4 / 5 swydd llawn-amser.
Pe gellir datrys y broblem byddai’n ysgafnhau’r cwynion. Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â chyflogi
gofalwyr rhan-amser, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y
byddai modd ystyried hyn ar bob cyfri’.
Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad
a’r ymatebion cadarnhaol uchod a’u cyflwyno i’r Aelod Cabinet fel rhan o’i
adroddid i’r Cabinet.
Dogfennau ategol: