Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia
Jeffreys, adroddiad yn argymell i’r Cyngor dderbyn y Cynllun Hybu’r Gymraeg yng
Ngwynedd 2018-23 a’r rhaglen waith gysylltiedig ac i gymeradwyo cychwyn ar y
gweithredu.
Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Nodwyd mai’r Cyngor hwn sy’n arwain ac yn arloesi o
ran y Gymraeg ac y dylid ymfalchïo yn y strategaeth hon sy’n un o
flaenoriaethau’r Cyngor.
·
Er bod y Cyngor yn gwneud gwaith arloesol o ran y
Siarter Iaith Cynradd a’r Strategaeth Iaith Uwchradd, bod yna fwlch o ran yr
addysg ôl-orfodol a’i bod yn bwysig bod y Cyngor yn cydweithio gyda’i
bartneriaid yn y cyswllt hwnnw hefyd.
·
O
ystyried cyfraniad sylweddol rhai o bartneriaid y Cyngor i lwyddiant elfennau
penodol o’r strategaeth, holwyd pa ran a gymerwyd gan y partneriaid hynny yn yr
ymgynghoriad a sut y bwriedir cydweithio gyda hwy i wireddu’r strategaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau
Lleol yn rhan bwysig o hyn a bod yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn sicr o
wthio’r gwaith yn ei flaen. Nodwyd hefyd
bod sgyrsiau wedi’u cynnal eisoes gyda rhai o’r partneriaid oedd wedi ymateb yn
uniongyrchol i’r ymgynghoriad er mwyn gweld beth i’w gynnwys yn y rhaglen
waith. Roedd trafodaethau pellach i’w
cynnal gyda rhai partneriaid a’r nod oedd sefydlu un grŵp fyddai’n dod â’r
holl bartneriaid ynghyd fel man cychwyn i drafod y strategaeth a’r rhaglen
waith yn ei chyfanrwydd ac wedyn ei dorri i lawr i’r meysydd thematig a dod â’r
partneriaid penodol i mewn.
·
Nodwyd
bod y ddogfen yn ddi-ddrwg / ddi-dda, sy’n ateb y gofynion ar y Cyngor i
ddarparu cynllun o’r fath ac yn nodi beth sy’n ddisgwyliedig gan gyngor sy’n
gweithredu yn yr ardal fwyaf naturiol Gymraeg yn y byd. Ond oherwydd y sicrwydd demograffig hwnnw mae
Gwynedd yn fwynhau, ‘roedd yn hawdd syrthio i gyflwr o hunan gyfiawnder, oedd,
yn anffodus, yn britho tudalennau’r ddogfen a bod rhaid wrth angerdd, awydd a
dyhead i gael y maen i’r wal.
Ychwanegwyd nad oedd y newidiadau yn y Cyngor dros y blynyddoedd
diwethaf wedi rhoi’r Gymraeg flaenaf bob tro, e.e. yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
‘roedd y Cyngor wedi mabwysiadu polisïau cynllunio fyddai, o’u gwireddu, yn
tanseilio ein cymunedau Cymraeg. Roedd
hefyd wedi cau clybiau ieuenctid, trosglwyddo’r canolfannau hamdden i gwmni hyd
braich a mabwysiadu cynllun economaidd, sef meysydd allweddol ddylai fod yn
ganolog i’r cynllun yma os yw’r Gymraeg am gael ei normaleiddio yn y sir
hon. Nodwyd ymhellach, o’r £52m a
neilltuwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru at addysg Gymraeg, mai ychydig
dros £1m yn unig ddaeth i Wynedd, sef tua 2% o’r cyfanswm, a hynny oherwydd mai
cais am 2% yn unig a gyflwynwyd i’r Llywodraeth. Petai gan y Cyngor yr awydd a’r weledigaeth i
wneud y Gymraeg yn hanfodol yng Ngwynedd, byddem wedi cyflwyno cynlluniau
gwerth o leiaf £20m, ac er y byddai nifer o’r cynlluniau hynny yn debygol o fod
wedi’u gwrthod, byddai’r weithred ynddi’i hun wedi anfon y neges i’r
Llywodraeth nad yw Gwynedd am osgoi rhoi blaenoriaeth deilwng i’n hiaith. Collwyd cyfle na ellid fforddio ei golli a
hynny oherwydd diffyg awydd, diffyg dyhead a diffyg uchelgais. Credid yn ogystal bod y cynllun hefyd yn
colli cyfle. Dro ar ôl tro ‘roedd
cyfeiriad at roi dewis iaith i ddisgyblion ysgol, ond nid dyna beth sy’n
digwydd yng Ngwlad y Basg, Catalwnia na rhannau o Iwerddon. Yn anffodus, ar hyn o bryd, ‘roedd traean o
ddisgyblion Cymraeg Gwynedd yn sefyll TGAU drwy gyfrwng y Saesneg ac roedd
hynny’n cael effaith uniongyrchol ar bolisi addysg dwyieithog y sir. Er bod addysg Gymraeg ar dwf mewn sawl rhan o
Gymru, roedd yn ymddangos nad oedd hynny’n wir am Wynedd. Deellid nad oedd yr un ysgol uwchradd yng
Ngwynedd wedi derbyn yr un o’r llyfrau gosod Cymraeg sy’n cael eu darparu gan y
Llywodraeth, er bod defnydd helaeth yn cael ei wneud o’r llyfrau hynny mewn
sawl ardal arall. Dylai’r Pwyllgor Iaith
fod yn ganolog i weithredu ar gynnwys y cynllun hwn, ond dyma’r pwyllgor mwyaf
di-rym a welwyd erioed. Roedd yn derbyn
ac yn trafod adroddiadau, ond yn gwybod dim am ddeilliannau’r trafodaethau
hynny ac nid oedd y pwyllgor yn cael trafod cwynion iaith o du’r cyhoedd hyd yn
oed. Roedd y cynllun hwn yn gweld yr
heriau, yn cydnabod y cyfleoedd ac yn adnabod rhai datrysiadau, ond roedd angen
llawer mwy na hynny.
·
Mynegwyd
siomedigaeth gref ynglŷn ag agwedd negyddol y siaradwr blaenorol tuag at
yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud dros yr iaith.
Pwysleisiwyd bod y cyhuddiad o ddiffyg angerdd a diffyg dyhead am y
Gymraeg yn anghywir a bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cyngor hwn. ‘Roedd datblygiad y polisi addysg Gymraeg o
1974 ymlaen wedi cymryd dygnwch a phenderfyniad, ac roedd yn broses sy’n
parhau, a’n rôl ni yng Ngwynedd oedd profi i’r byd a’r betws ein bod yn falch o
ddefnyddio’r Gymraeg ac yn annog pawb arall i wneud hynny. Ni dderbynnid bod y cynllun wedi’i nodweddu
gan hunan-fodlonrwydd. Cydnabyddid bod
lle i wella bob amser a byddwn yn edrych ar ein hunain, ond nid mewn ffordd
hunan-foddhaus o gwbl.
·
Er y cydnabyddid llwyddiant y Strategaeth Iaith
Addysg, roedd yna waith addysgu i’w wneud yn y cartref, cyn i’r plant gychwyn
yn yr ysgol, ac wedi iddynt adael hefyd.
Mewn ymateb, cytunwyd bod angen canolbwyntio ar y rhieni hefyd a cheisio
annog plant sy’n gadael yr ysgol i fod â hyder yn eu gallu i siarad
Cymraeg. Roedd blynyddoedd o waith wedi
mynd i mewn i ddatblygu’r polisïau iaith sydd gennym, ac roedd yr ystadegau’n
dangos bod system addysg Gwynedd yn llwyddo, gyda 92% o blant a phobl ifanc y
sir yn medru siarad Cymraeg.
·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd dathlu llwyddiant a nodwyd
bod y Gymraeg wedi goroesi yn well yng Ngwynedd nag yn unman arall. Awgrymwyd hefyd bod gwthio’r syniad bod yr
iaith ar ei gwely angau yn chwarae i ddwylo gelynion y Gymraeg.
·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd dysgu hanes Cymru yn fwy
trwyadl yn yr ysgolion gan nad yw pobl yn gweld pwrpas mewn dysgu’r iaith os
nad ydynt yn ymwybodol o’u hanes a’i diwylliant.
·
Nodwyd
y byddai’r iaith yng Ngwynedd mewn sefyllfa llawer gwaeth heb bolisïau iaith y
Cyngor, ac yn sgil rhai o’r sylwadau yn y cyfarfod hwn, dylid edrych oes modd
cryfhau rhai o’r polisïau hyn. Er bod
yna wahaniaeth barn yn y Siambr, roedd yn amlwg bod pawb yn gytûn o ran eu
dyhead i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Ngwynedd a dylai pawb gydweithio
er mwyn sicrhau’r polisïau gorau bosib’.
PENDERFYNWYD derbyn y
Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-23 a’r rhaglen waith gysylltiedig a
chymeradwyo cychwyn ar y gweithredu.
Dogfennau ategol: