skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

Cofnod:

Gosododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor y cyd-destun, gan nodi mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni ei hun bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod cynigion gwella adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gweithredu, ac ni ddylai’r Pwyllgor ail-gynnal ymchwiliad i faterion a oedd o fewn maes gwaith y pwyllgorau craffu eraill.

 

Cyfeiriodd at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys rhestr gronolegol o’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol rhwng 2012/13 a 2017/18 ynghyd â’u cynigion ar gyfer gwella, a’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y cynigion hynny ers i’r Pwyllgor drafod y mater yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2017. Eglurodd mai sylwadau gan yr Adran berthnasol y nodir o dan y pennawd ‘Cynnydd yn erbyn y cynigion gwella’, gyda barn annibynnol swyddogion o Uned Cefnogi Busnes y Cyngor yn cael ei nodi o dan y pennawd ‘Casgliad’. Nododd mai mater i’r Pwyllgor oedd barnu os oeddent yn cytuno efo’r casgliad bod y gwaith o wireddu’r argymhelliad ‘wedi’i gwblhau’ neu yn parhau ‘ar waith’.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:

·         Bod adroddiad ‘Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) 2013/14’ wedi ei gyflwyno gryn amser yn ôl. Pwy oedd yn cwblhau’r asesiadau iechyd ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal ac oedd diffyg doctoriaid yn rheswm am y gostyngiad yn y ganran perfformiad ar gyfer cofrestru gyda Meddyg Teulu cyn pen 10 diwrnod?

·         Bod y cynnydd o ran y cynigion gwella yn yr adroddiad a nodir uchod yn fater oedd angen sylw;

·         Dylid gofyn i’r Pwyllgor Craffu Gofal ystyried craffu’r materion a amlygwyd gan adroddiadau 2013/14 a 2014/15 yr AGGCC, adroddiad ‘Helpu Pobl i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’, ynghyd ag adroddiad ‘Arolygiad Cenedlaethol o ofal a chymorth i bobl sydd ag anableddau dysgu (Arolygiad ar y cyd gan AGGCC ac Arolygiaeth Gofal Iechyd), a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;

·         Dylid gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ystyried craffu’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad ‘Cyflawni â Llai – yr effaith ar wasanaethau iechyd yr amgylchedd a dinasyddion’, a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;

·         Dylid derbyn cadarnhad o ran pa bwyllgor ddylai rhoi ystyriaeth i adroddiad ‘Rheoli asedau [Tir ac Adeiladau]’;

·         O ran yr adroddiad ‘Diogelwch Cymunedol yng Nghymru’, os oedd y mater yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, fe ddylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad ar y mater;

·         Dylid derbyn eglurhad pam nad oedd 3 cynnig gwella o dan yr adroddiad ‘Strategaeth Pobl’ wedi eu cwblhau.

 

Holodd aelod os oedd amserlen o ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r cynigion gwella. Nododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor y byddai ystyriaeth i amserlen o ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r argymhellion pan gyflwynir diweddariad i’r Pwyllgor mewn 6 mis.

 

Cymerodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyfle i ddiweddaru’r aelodau o ran y cynnydd yn erbyn yr argymhellion yng nghyswllt yr adroddiad ‘Rheoli Risg - Asesiad sy’n seiliedig ar risg o drefniadau corfforaethol y Cyngor’. Cadarnhaodd y byddai adroddiad o ran trefniadau rheoli risg y Cyngor gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 19 Gorffennaf.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at gynnig gwella 6 o dan adroddiad ‘Trefniadau awdurdodau lleol i godi tâl am wasanaethau a chynhyrchu incwm’ - “Gwella’r trefniadau ar gyfer rhagfynegi incwm o daliadau drwy gynllunio senarios a dadansoddiadau sensitifrwydd”, a oedd wedi ei nodi “ar waith”. Nododd bod yr argymhelliad yn ddyhead ond nid oedd yn fater craidd, tra rhoddir blaenoriaeth i ganolbwyntio ar waith arbedion a gwaith ynghlwm â chyllideb y Cyngor. Awgrymodd y dylid ystyried nodi bod y gwaith ynghlwm â’r argymhelliad penodol yma i’w wneud pan fo’r adnoddau ar gael a’i dynnu o’r rhestr i’w gyflwyno eto i’r Pwyllgor hwn.

 

Nododd aelod gan nad oedd yr argymhelliad uchod yn flaenoriaeth fe ddylid nodi ei fod ‘wedi’i gwblhau’.

 

Cafwyd trafodaeth o ran blaen graffu achosion busnes newidiadau i wasanaethau i ymateb i gynnig gwella o adroddiad ‘Llywodraethu da wrth benderfynu ar newidiadau i wasanaethau’. Nododd aelod ei bryder o ran rôl aelodau cyffredin yn y broses ddemocrataidd gyda dyfodiad y drefn cabinet yn 2012. Ychwanegodd bod materion yn cael eu codi gan aelodau nad oedd yn derbyn ymateb. Nododd bod angen pont rhwng yr aelodau cyffredin a’r aelodau cabinet. Cyfeiriodd at gyfarfod diwethaf y Gweithgor Gwella Rheolaethau lle nad oedd yr Aelodau Cabinet perthnasol yn bresennol.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid y cyflwynir adroddiad Cyllideb y Cyngor gerbron y Pwyllgor cyn i’r mater fynd gerbron y Cabinet a’r Cyngor Llawn. Roedd materion megis ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid a datblygiadau yng nghyswllt Cynllun Twf Gogledd Cymru wedi eu blaen graffu gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi. Eglurodd bod cyfyngiad o ran y nifer o faterion y gellir eu hystyried.

 

Nododd aelod y dylid gofyn i’r Fforwm Craffu ystyried y sefyllfa o ran blaen graffu achosion busnes newidiadau i wasanaethau.

 

   PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad yn ddarostyngedig i nodi bod cynnig gwella 6 o dan adroddiad ‘Trefniadau awdurdodau lleol i godi tâl am wasanaethau a chynhyrchu incwm’ “wedi’i gwblhau”;

(ii)    gofyn i’r Pwyllgor Craffu Gofal ystyried craffu’r materion a amlygwyd gan adroddiadau 2013/14 a 2014/15 yr AGGCC, adroddiad ‘Helpu Pobl i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’, ynghyd ag adroddiad ‘Arolygiad Cenedlaethol o ofal a chymorth i bobl sydd ag anableddau dysgu (Arolygiad ar y cyd gan AGGCC ac Arolygiaeth Gofal Iechyd), a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;

(iii)  gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ystyried craffu’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad ‘Cyflawni â Llai – yr effaith ar wasanaethau iechyd yr amgylchedd a dinasyddion’, a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;

(iv)  derbyn cadarnhad o ran pa bwyllgor ddylai rhoi ystyriaeth i adroddiad ‘Rheoli asedau [Tir ac Adeiladau]’;

(v)    bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad yng nghyswllt yr adroddiad ‘Diogelwch Cymunedol yng Nghymru’, os oedd y mater yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor;

(vi)  derbyn eglurhad pam nad oedd 3 cynnig gwella o dan yr adroddiad ‘Strategaeth Pobl’ wedi eu cwblhau;

(vii)  gofyn i’r Fforwm Craffu ystyried y sefyllfa o ran blaen graffu achosion busnes newidiadau i wasanaethau.

Dogfennau ategol: