Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.
Cofnod:
Nododd y Cadeirydd bod
yr eitem gerbron y Pwyllgor mewn ymateb i gais a dderbyniwyd gan ddau aelod o’r
Pwyllgor, y Cynghorwyr John Brynmor Hughes ac Angela Russell, i drafod y
llythyr a anfonwyd at staff y Cyngor yn eu hysbysu o benderfyniad Cabinet y
Cyngor ar 13 Mawrth 2018 i fabwysiadu addasiadau i amodau gwaith y Cyngor.
Cyflwynodd y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol yr adroddiad, gan nodi yr anfonwyd llythyr i staff ar
26 Mawrth i’w hysbysu o benderfyniad y Cabinet, yn ei enw ef fel Pennaeth yr
Adran efo cyfrifoldeb am weithredu’r penderfyniad. Eglurodd yr anfonwyd llythyr
dilynol ar 3 Ebrill yn ymddiheuro i staff am dôn y llythyr a’r dewis o eiriau a
ddefnyddiwyd. Nododd bod yr ymddiheuriad yn un diffuant a oedd angen ei wneud.
Pwysleisiodd bod gwers bwysig wedi ei ddysgu am yr angen i fod yn barchus.
Nododd y Cynghorydd
Angela Russell ei diolch am onestrwydd y Pennaeth. Nododd ei bod yn poeni o ran
effaith y llythyr ar forâl staff. Holodd a oedd y camgymeriad wedi ei wneud
oherwydd effaith y toriadau gyda dim digon o staff i wneud y gwaith a’r pwysau
arnynt. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, fel ag y bu
iddo adrodd i gyfarfod herio perfformiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol, nad oedd am guddio tu ôl i ddiffyg capasiti a’i fod yn
cydnabod bod camgymeriad wedi ei wneud.
Pwysleisiodd na fyddai’n digwydd eto a bod camau mewn lle i sicrhau hynny.
Nododd y Cynghorydd
John Brynmor Hughes ei fod yn bresennol yng nghyfarfod herio perfformiad yr
Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a’i fod yn derbyn eglurhad y Pennaeth
a’r ffaith bod gwersi wedi eu dysgu a’r addewid
na fyddai sefyllfa o’r fath yn codi eto.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod o ran pwy oedd wedi gweld y llythyr cyn ei anfon at staff, nododd y
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol bod cyfreithiwr yn arbenigo yn y maes
cyflogaeth, a oedd yn cynrychioli’r Swyddog Monitro, wedi edrych ar y llythyr i
wirio ei fod yn ffeithiol gywir. Eglurodd bod tôn y llythyr yn fater iddo ef
fel Pennaeth.
Holodd aelod os oedd y
Prif Weithredwr wedi gweld y llythyr. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol nad oedd y Prif Weithredwr wedi gweld y llythyr gan ei fod yn
fater gweithredol.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod o ran faint o staff oedd wedi ymateb i’r llythyr, nododd y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol bod 50% wedi ymateb i’r llythyr. Eglurodd bod y
llythyr ymddiheuriad a anfonwyd at staff yn nodi os nad oedd staff yn ymateb
i’r llythyr, a’u bod yn bresennol yn y gwaith pan ddaw’r newidiadau i’r amodau
gwaith i rym ar 1 Gorffennaf 2018, byddai eu presenoldeb yn cadarnhau eu bod yn
derbyn y newidiadau.
Nododd aelod ei fod
wedi derbyn copi o’r llythyr fel Clerc Llywodraethwyr ysgol er nad oedd yn y
swydd ers 4 mlynedd. Holodd beth oedd effaith y llythyr ar forâl staff. Mewn
ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ei fod wedi dod i’r amlwg
bod cofnodion yr Adran Addysg o ran ysgolion angen eu diweddaru. Eglurodd nad
oedd rhai ysgolion yn hysbysu’r Adran Addysg pan fo newid. Nododd bod cofnodion
yr Adran wedi eu diweddaru ers anfon y llythyr. O ran morâl staff, yn anorfod
roedd effaith, gyda chymysgedd o ymateb gan staff gyda rhai heb eu heffeithio a
rhai wedi teimlo pryder diangen oherwydd y llythyr gwreiddiol.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod o ran y gefnogaeth ar gael i staff, nododd y Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol bod llinell gymorth ar gael i staff lle gallent siarad efo
Ymgynghorwyr Adnoddau Dynol i dderbyn sicrwydd o ran y sefyllfa a’i fod ef wedi
siarad efo rhai unigolion ei hun.
Holodd aelod os oedd
ymddiswyddiadau gan staff o ganlyniad i’r llythyr. Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd unrhyw unigolyn wedi ymddiswyddo
oherwydd y llythyr.
Nododd y Cadeirydd ei
ddiolch i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’i fod yn gobeithio bod gwersi
wedi eu dysgu. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth y gallai warantu nad oedd neb mwy
siomedig nag ef bod hyn wedi digwydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: