Y Maes Café, Llandanwg, Harlech, LL46 2SD
Ystyried y cais uchod
Cofnod:
Y Maes Café,
Llandanwg, Harlech
Ar ran yr eiddo: Mr
Graham Perch (ymgeisydd)
Eraill a wahoddwyd: Cynghorydd
Annwen Hughes (Aelod Lleol)
Mr
Arwel Thomas, Mr Edward Thomas, Mrs Jean Thomas, Mr Richard Poole a Mrs Sandra
Poole – ymgynghorai lleol
Amlygodd y Rheolwr Trwyddedu bod y Cadeirydd wedi awgrymu ymweliad safle
gan nad oedd yn gyfarwydd â’r ardal. I
hwyluso’r drefn gwnaed cais i rannu
lluniau o’r caffi (o Google Street Scene) er budd yr Is Bwyllgor. Cytunodd yr ymgeisydd i’r lluniau gael eu
rhannu ond mynegodd bod y safle wedi
newid gryn dipyn ers cyfnod y llun.
Cyflwynwyd cyfieithiadau cywir o
sylwadau'r Aelod Lleol, y Clerc Cymuned ac un
o’r gwrthwynebwyr. Roedd y sylwadau hyn wedi eu cyflwyno yn wreiddiol yn y Gymraeg, ond cyfieithiad gwallus o’r
sylwadau hynny oedd wedi ei gynnwys
yn y rhaglen. Rhoddwyd cyfle i’r
ymgeisydd ddarllen y cyfieithiadau.
a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer cyflenwi alcohol i gwsmeriaid ar eiddo oedd eisoes yn gweithredu
fel caffi 7 diwrnod yr wythnos yn ystod yr Haf ac ar benwythnosau yn unig yn
ystod y gaeaf. Amlygwyd y bwriad i gynnig gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr
eiddo ynghyd a chwarae cerddoriaeth radio gefndirol yn ystod oriau agor (tu
mewn a thu allan). Nodwyd bod y caffi ar agor hyd at 5pm ar hyn o bryd, ond
bwriedir agor hyd at 10pm ar nos Wener a Sadwrn gyda gwerthiant alcohol tan
9:30pm. Ategwyd bod yr ymgeisydd hefyd yn ystyried dangos digwyddiadau
chwaraeon yn achlysurol
Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau
arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf
Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod 24 o e-byst / llythyrau wedi ei derbyn yn gwrthwynebu’r cais
ar sail y 4 amcan trwyddedu. Tynnwyd sylw at ymateb yr ymgeisydd i bryderon y
gwrthwynebwyr ac at yr amodau, petai’r cais yn cael ei ganiatáu, fyddai’n cael
eu hymgorffori yn y drwydded.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r
ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i
ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai
b)
Mewn ateb i gwestiwn gan yr Is Bwyllgor am
ddarpariaeth toiledau cwsmeriaid, nododd y Rheolwr Trwyddedu, mewn ymateb i sawl
pryder, bod amod i’w gosod ar y drwydded, petai’r cais yn cael ei ganiatáu, i
ddeilydd y drwydded ddarparu trefniant digonol o doiledau i gwsmeriaid tra bod
yr eiddo yn agored i’r cyhoedd.
c)
Wrth ymhelaethu ar y
cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Cyfeiriodd at lythyr yr oedd wedi
ei gyflwyno mewn ymateb i bryderon oedd yn cynnwys opsiynau posib ar gyfer
darparu toiledau.
Ategodd y sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd ganddo fwriad i
redeg y caffi fel tafarn neu gyfleuster yfed yn hwyr
·
Mai ar nos Wener a
Sadwrn yn unig roedd cais am estyniad oriau
·
Bod y cyfleuster agor yn hwyrach hefyd ar gyfer
digwyddiadau cymunedol neu breifat
·
Cerddoriaeth gefndirol yn unig oedd y bwriad - nid oedd ystyriaeth wedi ei roi ar gyfer
dim arall heblaw hynny
·
Ei fod wedi amlygu
opsiynau posib ar gyfer darparu toiledau. Derbyniodd na ellir rhedeg busnes o’r
fath heb doiledau, ond mynegodd fod ganddo bryder tuag at argymhelliad y
swyddogion gan fod cynsail wedi ei osod gyda chaffi yn Harlech a chaffi yn
Bermo yn gweithredu heb doiledau.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
theledu cylch cyfyng, nododd mai ‘llif byw (live
streaming) oedd ganddo yn y caffi yn cael ei redeg oddi ar you-tube ar gyfer
defnydd marchnata yn unig. Nid oedd yr adnodd yn recordio digwyddiadau / symudiadau. Ategodd
nad oedd yr adnodd bellach ar gael a'i fod yn edrych am asiantaeth arall i
wneud y gwaith. Nododd ei fod wedi gwneud
cais i’r geiriau ‘cctv’ gael ei dileu o’r cais.
ch) Manteisiodd yr ymgynghorai
oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu
trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.
·
Bod cerrynt y môr ger
Traeth Llandanwg yn gryf a pheryg i ymdrochwyr. Er yr arwyddion, nid yw
ymwelwyr yn ymwybodol o’r peryglon. Bod diogelwch y cyhoedd yn hanfodol.
·
Pryder nad oedd yr
ymgeisydd yn byw ar yr eiddo. Awgrym y byddai hyn yn arwain at sefyllfa sydd â
diffyg rheolaeth. Rhaid sicrhau bod rheolwr ar yr eiddo
·
Byddai gwerthu alcohol
yn y caffi yn newid cymeriad y lle. Y caffi, fel y mae yn cael ei reoli yn dda,
yn brysur a phoblogaidd gyda theuluoedd
·
Bod Traeth Llandanwg yn ardal o lonyddwch a
thawelwch unigryw
·
Nid yw’r lleoliad yn addas ar gyfer gwerthu
alcohol. Peryglon amlwg yn codi gyda chyflwyno alcohol
·
Byddai caniatáu'r
drwydded yn arwain at ychwanegiad mewn llanast a sbwriel
·
Byddai caniatáu yn gyfaddefiad bod busnes yn
flaenoriaeth dros drigolion lleol
·
Petai unrhyw anghydfod yn codi o ganlyniad i’r
nosweithiau hwyr, pwy fyddai yn cysylltu gyda’r heddlu?
·
Ni ellir rhagweld beth
fydd y newid. Gall y safle gael ei ddifethaf ac anodd iawn fyddai ail greu'r
hyn sydd yn bodoli
·
Petai'r drwydded yn cael
ei chaniatáu byddai hyn yn anwybyddu heddwch yr ardal, diogelwch plant ac
anifeiliaid anwes, hanes hynafol Llandanwg.
·
Bod cymdogion y caffi yn gweld y cais yn gam rhy
bell fydd yn effeithio ar eu preifatrwydd
·
Buasai alcohol yn gallu
cael ei yfed am gyfnod hir cyn gorfod prynu bwyd - hyn yn ei ymdebygu a
thafarndy
·
Bod diffyg lle ar gyfer storio. Tebygol y byddai’r
alcohol yn cael ei gadw mewn siediau pren yng nghefn yr adeilad . Hyn yn
sefyllfa fregus fyddai yn annog lladrad.
·
Diffyg toiledau yn bryder. Cynigion yn unig yw’r
opsiynau ar gyfer darpariaeth toiledau – dim gorfodaeth. Nid yw darparu
toiledau symudol yn dderbyniol.
·
Yfed alcohol oddi ar y
safle yn debygol o greu sefyllfa o gynnydd mewn poteli wedi malu a fandaliaeth
·
Bod cymdogion y caffi a thrigolion y caffi i gyd yn
gwrthwynebu’r cais
d)
Wrth grynhoi ei gais,
amlygodd yr ymgeisydd bod lle bwyta cyfagos gyda thrwydded alcohol a bod yr
eiddo hwnnw cyn iddo newid defnydd fel bwyty, yn siop drwyddedig. Ategodd nad
oedd yr heddlu wedi derbyn cwynion a heb gynnig sylwadau. Nododd y byddai
rheolwr dynodedig ar y safle yn goruchwylio tu mewn a thu allan i’r adeilad.
Amlygodd bod nifer o drigolion yn cefnogi ei gais ac os na fyddai’r fenter yn
llwyddo yna ni fyddai yn debygol o adnewyddu'r drwydded.
e)
Wrth ystyried y cais ystyriwyd adroddiad y Swyddog Trwyddedu,
y ffurflen gais, y sylwadau ysgrifenedig a ddaeth i law oddi wrth y partïon
gyda diddordeb ynghyd â’r sylwadau llafar a gyflwynwyd gan yr holl bartïon yn
bresennol yn y gwrandawiad. Bu i’r Is-bwyllgor hefyd ystyried Polisi
Trwyddedu'r Cyngor, arweiniad y Swyddfa Gartref ynghyd ag egwyddorion Deddf
Trwyddedu 2003
• Trosedd ac Anrhefn
• Diogelwch y Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn Plant rhag Niwed
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn ddarostyngedig i
gynnwys amodau arfaethedig ar y drwydded:
·
Bod deilydd y drwydded
yn darparu trefniant digonol ar gyfer toiledau i’r cwsmeriaid sydd ar gael tra
mae’r eiddo yn agored i’r cyhoedd
·
Nad yw cerddoriaeth
wedi ei recordio yn cael ei chware tu allan i’r eiddo
·
Dim gwerthu alcohol ar
gyfer yfed oddi ar yr eiddo
Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i sylwadau ynglŷn â'r pryderon canlynol:
Nad oedd gan y caffi ei gyfleusterau toiled ei hun. Derbyniwyd y byddai caniatáu gwerthiant alcohol ar gyfer yr oriau estynedig arfaethedig yn rhoi straen ar y cyfleusterau toiledau cyhoeddus gerllaw. Ni chyflwynwyd tystiolaeth y byddai caniatáu’r drwydded yn
gosod straen ar y toiledau cyhoeddus ac oherwydd bod cwsmeriaid
eisoes yn eu defnyddio roedd y sefyllfa i weld yn foddhaol. Er hynny, petai’r
ddarpariaeth gyhoeddus yn newid buasai’r
sefyllfa yn dra gwahanol ac felly, yn unol ag argymhelliad y swyddogion trwyddedu, roedd yr is-bwyllgor
yn awyddus y dylid sicrhau bod darpariaeth toiled digonol ar gael.
Nodwyd fod Llandanwg yn ardal dawel,
gyda phobl yn ymweld oherwydd y tawelwch
a bod Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ger llaw. Nodwyd fod yr eiddo yn agos iawn i breswylfeydd
a datganwyd pryder y byddai sŵn
cwsmeriaid a sŵn cerddoriaeth (yn cael ei chwarae tu allan i’r eiddo) yn tarfu ar y tawelwch. Ni chyflwynwyd
tystiolaeth y byddai caniatáu trwydded i werthu alcohol ynddo’i hun
yn achosi problem sŵn ac ni chyflwynwyd
tystiolaeth o broblemau a chwynion yn y
gorffennol yn gysylltiedig
gyda’r eiddo. O ystyried bod yr eiddo yn agos iawn at eiddo preswyl, roedd yr is-bwyllgor o’r farn y
byddai chwarae cerddoriaeth tu allan i’r
eiddo yn debygol o effeithio ar fwynderau trigolion cyfagos. Cytunwyd
derbyn argymhelliad y swyddogion
trwyddedu na ddylid caniatáu chwarae cerddoriaeth
wedi ei recordio y tu allan i’r
eiddo.
Mynegwyd pryder y byddai trwydded
gwerthu alcohol ar gyfer yfed oddi ar safle yn
hyrwyddo pobl i fynd a diod ar y traeth
ac ar y twyni fyddai yn arwain at wneud
llanast a chynnydd tebygol mewn ymddygiad gwrth gymdeithasol. Ystyriwyd
y dadleuon hyn yn ofalus gan fod diffyg tystiolaeth o broblemau yn y gorffennol a diffyg sylwadau gan yr heddlu o
safbwynt rhwystro trosedd ac anhrefn. Penderfynwyd, oherwydd natur
benodol lleoliad yr eiddo, h.y. ei agosatrwydd
at eiddo preswyl, maes parcio cyhoeddus a thraeth cyhoeddus, y byddai gwerthu
alcohol i’w yfed oddi ar y safle yn debygol
o achosi problemau o safbwynt
diogelwch y cyhoedd a phroblemau gyda
sbwriel.
Mynegwyd
pryder y byddai cynnydd mewn traffig.
Roedd yr is-bwyllgor o’r farn
bod yr eiddo eisoes yn gweithredu fel caffi ac nad oedd tystiolaeth i awgrymu y byddai caniatáu'r drwydded yn
debygol o achosi cynnydd sylweddol ym
maint y traffig.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd o’u hawl i apelio
i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw
Dogfennau ategol: