I gyflwyno
adroddiad y Pennaeth Adran Amgylchedd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Louise Hughes
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn deillio
o gais i gofrestru llwybr cyhoeddus yng Nghymuned Arthog ar Fap Swyddogol
Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Nododd y Cadeirydd y derbyniwyd llythyr hwyr gan Gyngor Tref
Abermaw yn cwyno nad oedd y Cyngor hwnnw wedi cael y cyfle i gyflwyno sylwadau
ar y cais. Mewn ymateb, eglurodd y
Rheolwr Amgylchedd bod y tir dan sylw o fewn tiriogaeth Cyngor Cymuned
Arthog ac nad oedd yn rheidrwydd i
gysylltu gydag unrhyw Gyngor Cymuned / Tref arall ar y mater.
Ymhelaethwyd ar gefndir y cais, cefndir cyfreithiol ynghyd
â thystiolaeth i gefnogi’r cais gan y
Rheolwr Amgylchedd a chanolbwyntir ar y llwybr rhwng A a B ar gynllun y
cais. Gwnaed y cais yn seiliedig â
chyd-destun Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Wrth ystyried ceisiadau o’r fath rhaid edrych
ar y dystiolaeth dros ac yn erbyn y cais ac yn y cyd-destun hwn yn seiliedig ar
y ddeddf a gyfeirir ati uchod ynghyd â Deddf Priffyrdd 1980. O edrych ar y dystiolaeth i gofrestru ar sail
defnydd ac yn benodol oherwydd bod y
cyhoedd wedi cerdded ar hyd y llwybr yn ddi-rwystr dros gyfnod o fwy nag ugain
mlynedd, rhaid bod yn sicr bod y perchnogion tir wedi rhoi hawl a chaniatâd i’r
defnydd. Edrychir ar wybodaeth o blaid
ac yn erbyn y cais a’r ffactor allweddol ydoedd bodolaeth arwyddion a’r hyn mae
arwyddion yn ddweud. Cyfeirir at Adran
31 (3) o’r ddeddf sef:
“Where the owner of
the land over which any such way as aforesaid passes-
(a)
Has erected in such manner as to be visible to persons using the way a
notice inconsistent with the dedication of the way as a highway; and
(b)
Has maintained the notice after the 1st January 1934, or any later date on
which it was erected,
the notice, in the
absence of proof of a contrary intention, is sufficient evidence to negative
the intention to dedicate the way as a highway”.
Hynny yw, bod arwyddion wedi eu codi ar y safle sydd yn
groes i’r honiad bod hawl cyhoeddus yn bodoli.
Drwy wneud hyn rhaid ystyried dealltwriaeth defnyddiwr cyffredin o’r hyn
sydd ar yr arwydd ynghyd â nod y perchnogion tir.
Cyfeiriwyd hefyd at ffactorau a oedd yn amherthnasol i’r
cais e.e. a yw’r llwybr yn ddymunol a golygfeydd ohono. Felly yr unig beth a
ellir ei ystyried ydoedd prun ai oedd hawliau tramwy cyhoeddus yn bodoli.
Tynnwyd sylw at gefndir hanesyddol y llwybr i ddatblygiad
Mawddach Crescent a’r ardal o gwmpas.
O safbwynt y dystiolaeth sy’n cefnogi’r cais, cyfeiriwyd at
grynodeb o dros 100 o ddatganiadau gan unigolion sydd yn datgan iddynt
ddefnyddio’r llwybr. Gweler grynodebau
llawn yn Atodiad 4 a 4.2 i’r adroddiad.
Yn ychwanegol ar y ffurflen sylwadau hwyr ceir gwybodaeth o faint mor
aml y defnyddiwyd y llwybr.
Yng nghyd-destun y dystiolaeth i’r gwrthwyneb, cyfeiriwyd at
Atodiad 8 i’r adroddiad, lle ceir datganiad gan berchnogion / cyn-berchnogion
sydd yn nodi rhesymeg i beidio defnyddio’r llwybr a chyfeirir yn benodol at
arwyddion sydd wedi eu gosod:
·
ymhen dwyreiniol y Crescent yn
nodi “Private Road” sydd yno ers degawdau;
(Atodiad 10)
·
ymhen gorllewiniol i’r
Crescent yn nodi “Private Road” wedi eu
osod oddeutu 1999 (Atodiad 11)
·
arwydd yn nodi “Private” gan
ofyn i unigolion ddefnyddio llwybr tu cefn i tai y Crescent (Atodiad 12)
·
arwydd “Private” wedi
ysgrifennu mewn paent ar wal frics, yn
Atodiad 15 mae’r llun yn dangos sut oedd yr arwydd yn edrych oddeutu 2005.
Pwysleiswyd bod rhaid ystyried cyfnodau pryd roedd yr hawliau yn cael eu
honni ac yn yr achos hwn cofnodir dau gyfnod.
Ystyrir:
·
bod arwydd Atodiad 12 wedi ei
osod o gwmpas 2006 felly y cyfnod 20
mlynedd perthnasol at ddibenion Adran 31, Deddf Priffyrdd 1980 yw 1986-2006
·
tystiolaeth cyn-breswylydd
sydd yn nodi bod yr arwydd preifat ar y wal brics yn dyddio’n ôl i 1962 (cyfnod
rhwng 1942 a 1962)
Ystyrir y farn bod yr arwyddion yn rhoi sail nad oedd bwriad i ganiatáu
defnydd cyhoeddus o’r llwybr o flaen y tai ac wrth ystyried y casgliadau bod
dau gyfnod hir o 20 mlynedd lle roedd cyfuniad o arwyddion mewn bodolaeth ac
felly eu bod yn groes i fodolaeth hawl cyhoeddus. Argymhelliad y swyddogion ydoedd gwrthod y
cais i gofrestru y llwybr ar y Map Swyddogol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gofynnwyd cwestiynau gan
Aelodau unigol ac amlygwyd y pwyntiau canlynol:
(i)
gofynnwyd am eglurhad o eiriad
y Ddeddf sy’n nodi cyfnod defnydd o 20 mlynedd heb ymyrraeth na rhwystr
(ii) mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Amgylchedd bod yn rhaid ystyried
tystiolaeth boed hyn yn fodolaeth arwydd gyda phwrpas penodol, rhybudd o rhyw
fath, herio unigolion i beidio tramwyo, ac yn yr achos hwn cyflwynwyd
tystiolaeth o safbwynt y perchnogion bod arwyddion wedi eu gosod
(iii) Ymhelaethodd yr Uwch Gyfreithiwr ar yr ochr gyfreithiol gan nodi nad cais
cynllunio oedd gerbron ond gofynnir i’r Pwyllgor ystyried materion
tystiolaethol ynglŷn â defnydd y llwybr gan gymryd i ystyriaeth ei
ddefnydd dros ddau gyfnod, ac yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd. Tynnwyd
sylw at baragraff 8.2 o’r adroddiad a oedd yn nodi bod “dangos rhybuddion ar
lwybr yn ddull effeithiol o wrthbrofi barn dybiedig fod llwybr wedi’i neilltuo. Mae is-adran 3 o adran 31 Deddf Priffyrdd
1980 yn darparu fod codi a chynnal rhybudd, yn absenoldeb prawf o fwriad i’r
gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol i negyddu’r bwriad i neilltuo’r llwybr fel
priffordd”. Ychwanegwyd bod gan y
Pwyllgor rôl “cwasi-farnwrol” a olygai ystyried y dystiolaeth ar brawf o
debygolrwydd.
(iv) Cyfeiriodd Aelod at ddau achos yn 2010 mewn uwch lysoedd a oedd yn
berthnasol i’r cais gerbron. Dyfynnwyd
fel a ganlyn o un o’r achosion (Andrew Nicholls, Cwnsler y Frenhines) “ .... I consider
that the notice had an uncertain meaning and that the public would normally
interpret the word road as signifying a way for vehicles ...... the word access only should in my view be
taken to grant consent for the use of the lane by vehicles only for the purpose
of accessing the properties that it served”
Dyfynnwyd o’r ail achos, sef Patterson v. The Secretary of State for
Environment, Food and Rural Affairs gan Yr Anrhydeddus Justice Scales “.....
that virtually all rights of way are over private land and that a simple sign
private does not clearly indicate that there is no public right of way over a
marked footpath”
(v) Mewn ymateb i’r uchod, tynnodd y Cyfreithiwr sylw’r Pwyllgor i baragraff
3.8 ac fe ddyfynnodd achos
“Godmanchester” sydd yn gyfreithiol a chyfredol ac yn cymryd blaenoriaeth dros
achosion eraill, pryd ddyfynodd Tŷ’r Arglwyddi mai ystyr bwriad oedd yr
hyn a fyddai’r gynulleidfa berthnasol, sef defnyddwyr y llwybr, wedi deall yn
rhesymol oedd bwriad y tirfeddiannwr”.
Ychwanegodd yr Uwch Gyfreithiwr y byddai’n fater i’r Pwyllgor falansio’r
dystiolaeth ond bod yr achos hwn wedi ei gyfeirio i Lys uchaf y wlad ac yn
cario pwysau sylweddol. Mater i’r
Pwyllgor fyddai ystyried a oedd yr arwyddion yn cyfleu tystiolaeth gadarn o
safbwynt y perchnogion ac a oeddynt:
·
yn cyfeirio at ddefnydd hawliau tramwy
unigolion; neu
·
ar gyfer defnydd cerbydau
(vi) Nododd yr Aelod Lleol bod dadleuon hanesyddol i’r cais a’i bod
wedi bod i’r Crescent ar sawl achlysur fel Cynghorydd ond nad oedd wedi cwrdd á
neb, ond wedi dweud hynny roedd wedi siarad gydag un thrigolyn ac wedi derbyn
e-bost gan un arall. Bu i’r Cyngor Cymuned drafod y llwybr ychydig flynyddoedd
yn ól pryd y bu iddi ddatgan ei dymuniad i gadw’r llwybr yn agored o flaen y
Crescent. Teimlai’n drist bod y mater wedi dod i hyn gyda chymaint o gweryla yn
ei gylch ac wedi creu sefyllfa emosiynol rhwng y cyhoedd a thrigolion y
Crescent. Cadarnhaodd ei bod wedi cerdded y llwybr ar sawl achlysur ond nad
oedd neb wedi ei herio. Roedd y llwybr
yn cynnig golygfeydd godidog ac ‘roedd yn cael ei gydabod fel man lle cyrchai
arlunwyr i gymryd mantais o’r olygfa, ac roedd yn ymwybodol ar un adeg yn y
gorffennol bod preswylwyr y Crescent yn cynnig paneidiau / cacennau i ymwelwyr
a ddeuai i’r llwybr. Roedd yn ymwybodol
bod teuluoedd wedi cerdded y llwybr yn ddi-rwystr ers degawdau. Pryderai pe byddai’r llwybr yn cau sut y
gellir ei reoli ac y byddai’ n creu mwy o ddrwg deimlad. ‘Roedd o’r farn na fyddai defnyddwyr yn
debygol o adael ysbwriel nac ychwaith yn creu difrod. Awgrymodd, os na all y Pwyllgor ddod i
benderfyniad, efallai fyddai’n syniad iddynt ymweld â’r safle er mwyn gweld y
sefyllfa drostynt eu hunain.
(vii) Mewn ymateb, anghytunodd Aelod gyda’r awgrym i gynnal ymweliad i’r
safle gan nad oedd golygfa yn ystyriaeth
i’r cais. Anghytunwyd gyda’r sylw wnaed
gan y swyddog sef bod yn rhaid i berchennog tir roi hawl a chaniatád i unigolyn
dramwyo ar ei dir, ac ‘roedd o’r farn os ydoedd unrhyw berchennog yn penderfynu
peidio rhwystro golygai hyn bod hawl yn cael ei roi. Yn yr achos gerbron, ‘roedd yn ofynnol
dehongli a oedd y perchnogion wedi ymgeisio i rwystro tramwyo ar y llwybr. Yn ei farn, roedd yr arwydd a nodai “lón breifat”
yn ddehongliad o atal cerbydau ac nad oedd yr arwydd yn Atodiad 12 yn gwahardd
tramwyo ond yn gofyn yn garedig i unigolion dramwyo rownd y cefn. ‘Roedd o’r
farn ymhellach nad yw’r arwydd yn ddigon clir i rwystro ac mai hwn yw’r unig
dystiolaeth sydd yn ymgeisio i fod yn rhwystr.
Yn ogystal, tynnwyd sylw bod
cyfnodau hir o dystiolaeth bod y cyhoedd yn dal i dramwyo ar hyd y llwybr.
Felly, teimlai bod y ddadl yn disgyn o blaid y cyhoedd i’w ddefnyddio oherwydd
nad oedd digon o dystiolaeth cadarn i’r gwrthwyneb.
(viii) Cynigwyd ac eilwyd i wrthod argymhelliad y swyddogion ac i’w
ganiatau yn seiliedig ar
·
defnydd y llwybr rhwng 1942 a 1962 ac
nad oedd tystiolaeth ddigonol yn bodoli o weithred o atal y cerddwyr
·
bod yr arwydd “private road”
yn arwydd cerbydol ac ddim i atal y cyhoedd dramwyo drosto
(ix) Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid y cynnig i’w ganiatáu:
·
Bod defnydd o 20 mlynedd wedi
ei brofi gan bod tystiolaeth gan unigolion o ddefnyddio’r llwybr yn 1912 ac ers
cenedlaethau gan bobl lleol
·
Ystyrir bod y trigolion wedi
cynnig paneidiau te, a.y.b. yn arwydd o groeso ac y gellir cryfhau’r ddadl bod
yr arwydd ar gyfer cerbydau
·
Tynnwyd sylw at y llythyr gan
yr unigolyn a osodwyd y giât a’r grid gwartheg a’i ddatganiad nad oedd gosod y
cyfarpar yn golygu nad oedd y llwybr ar gau i ddefnyddwyr ond yn hytrach i atal
anifeiliaid
·
Gellir dadlau na fyddai
unigolion wedi gweld yr arwydd (Atodiad
12) gan mai dim ond un pen y llwybr y gellir ei weld
(x) cwestiynwyd
os oedd y Parc Cenedlaethol wedi caniatáu’r arwyddion o ystyried ei fod
mewn ardal o harddwch naturiol
(xi) mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd y sylw uchod
yn berthnasol i’r cais
(xii) os mai tai gwyliau oedd mwyafrif tai y Crescent cwestiynwyd sut
oedd profi bod perchnogion
y tai hynny wedi atal defnyddio’r llwybr
(xiii) Pe
byddai Ymchwiliad Cyhoeddus yn cael ei gynnal gan unrhyw un o’r partïon
gofynnwyd i sicrhau bod yr ymchwiliad hwnnw yn cael ei gynnal yn lleol.
Pleidleiswyd yn unfrydol ar y cynnig i wrthod argymhelliad y
swyddogion ac i ganiatáu’r cais i roi y llwybr ar y Map Swyddogol.
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais i ychwanegu llwybr
cyhoeddus i Fap a Datganiad Swyddogol y Cyngor fel y dengys gan A-B ar y
cynllun a ddarperir yn Atodiad 1 i’r adroddiad yn seiliedig ar y rhesymau
canlynol:
·
Bod defnydd
ar droed wedi digwydd dros gyfnod o ugain
mlynedd rhwng 1942 hyd 1962;ac
·
Nad oedd yr
arwyddion am y cyfnod hynny, o’r tystiolaeth a gyflwynwyd, yn ddigon
(gyfreithiol) effeithiol i atal y rhagdybiaeth godi bod y briffordd wedi cael
ei neilltuo dan adran 31 (1) Deddf Priffyrdd 1980, ac
·
Yn benodol bod yr
arwydd “Private Road” a welir yn y lluniau yn yr adroddiad wedi ei gyfeirio at
gerbydau yn unig, ac nid oedd yna fwriad i atal cerddwyr rhag defnyddio’r
llain.
Dogfennau ategol: