Agenda item
Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig).
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gruffydd Williams
Cofnod:
Dymchwel uned storio bresennol
ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig)
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle yn gorwedd yng
nghefn gwlad ac oddi fewn i’r
tirwedd o ddiddordeb hanesyddol eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli. Ceir mynediad i’r safle
ar hyd ffordd
ddi-ddosbarth sydd gyda mynediad i
ffordd ddosbarth 2 oddeutu 85 medr i’r de o’r safle.
Cyfeiriwyd at yr
ymatebion i’r broses ymgynghori statudol ynghyd â’r polisïau cynllunio
perthnasol o fewn yr adroddiad.
Nodwyd bod polisi TWR 2 Cynllun Datblygu Lleol yn
gefnogol i ddatblygu llety gwyliau parhaol cyn belled a’u bod o ansawdd uchel o
ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Galluoga’r polisi hefyd i godi llety sy’n
adeilad newydd os yw’r safle o fewn ffin datblygu neu’n gwneud defnydd o safle
addas a ddatblygwyd o’r blaen. Ceir uned
wyliau bresennol ym Mwthyn Tynpwll a byddai’r bwriad dan sylw yn ymestyn
sefydliad llety gwyliau presennol. Ystyrir felly bod y datblygiad yn dderbyniol
o ran egwyddor adeiladu unedau gwyliau newydd.
Eglurwyd bod y cais yn ailgyflwyniad o gais blaenorol a gafodd ei wrthod oherwydd bod graddfa’r bwriad
yn ormodol ar gyfer y safle ac nad oedd yn adlewyrchu’r hyn oedd o’i amgylch ac
ystyrir o ran niferoedd unedau a dyluniad bod y bwriad dan sylw yn welliant ar
y cais blaenorol.
Nid oedd gwrthwynebiad
gan yr Uned Drafnidiaeth o safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad.
Yn dilyn asesu’r holl
ystyriaethau ynghyd â’r ymatebion a sylwadau, ystyrir bod y defnydd, dyluniad
a’r deunyddiau yn dderbyniol ac ddim yn amharu ar fwynderau, cymeriad neu
edrychiad y safle na’r ardal o’i gwmpas.
Argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatáu’r cais a oedd yn cynnwys amod
i gyfynu’r defnydd i uned gwyliau a chadw cofrestr
o’r defnyddwyr.
(a)
Nododd
yr Aelod Lleol nad oedd yn gefnogol i’r cais am y rhesymau canlynol:
·
nad
oedd prinder llety na galw am fwy o lety gwyliau
·
y
byddai dymchwel y cwt gwair ac adeiladu dau uned yn ei le yn gosod cynsail i
geisiadau cyffelyb i’r dyfodol
·
ni
ddylid caniatáu i droi adeiladau fferm fel hyn
(b)
Ategodd
Aelod y sylwadau uchod gan nodi ymhellach bod digon o dai haf a rhoddodd
enghraifft o 4 tŷ wedi eu gwerthu ym mhentref Edern yn ddiweddar ar gyfer
tai gwyliau. Pryderwyd hefyd am y
tueddiad i ail-enwi a seisnigeiddio enwau tai. Gwelwyd stadau o dai yn y pentref ar gyfer
tai gwyliau a gofynnwyd faint o’r tai hyn oedd wedi cofrestru fel unedau
gwyliau ar gyfer treth busnes.
(c)
Cynigwyd
ac eilwyd i wrthod y cais yn seiliedig ar ormodedd o
dai gwyliau.
(dd) Mewn ymateb, eglurodd
y Rheolwr Cynllunio y gellir gofyn i swyddogion wneud mwy o waith ymchwil er
mwyn asesu’r effaith gronnol o unedau gwyliau, fodd bynnag eglurwyd nad oedd
cystadleuaeth yn fater cynllunio. Fodd
bynnag, pwysleislwyd bod polisi TWR2 yn caniatau adeilad newydd ar safle priodol ac roedd y
swyddogion o’r farn bod y safle dan sylw yn un priodol.
(d)
Ychwanegodd
yr Uwch Gyfreithiwr y byddai’n rhaid bod yn wyliadwrus os yn ei wrthod ar hyn o
bryd oherwydd nad oedd tystiolaeth rhifiadol.
(e) Yn sgil y drafodaeth uchod, cynigiwyd ac eilwyd gwelliant i ohirio cymryd penderfyniad ar y cais hyd
nes derbynnir mwy o dystiolaeth ynglŷn â’r niferoedd o unedau gwyliau a’r effaith gronnol, gan gynnwys gwybodaeth
ar faint o dai gwyliau sydd wedi cofrestru fel busnes.
(ff) Mewn ymateb,
anghytunodd Aelod â’r gwelliant uchod ac apeliodd i dderbyn adroddiad cytbwys
di-duedd yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa ynglŷn â faint o unedau gwyliau
sydd yn yr ardal. ‘Roedd o’r farn bod
modd ymchwilio cofrestriad ar gyfer treth busnes. Ar hyn o bryd, teimlai’n gryf nad oedd digon
o wybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais.
Ychwanegodd Aelod y gellir cael tystiolaeth boed hyn yng nghynnydd
casgliadau ysbwriel i fusnesau sydd wedi cofrestru fel unedau gwyliau.
(f)
Awgrymwyd
y byddai modd i aelodau lleol fod o gymorth drwy gyflwyno gwybodaeth
ynglŷn â faint o unedau gwyliau sydd ar gael yn lleol.
(ng) Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio bod
cynllun busnes wedi ei gyflwyno ond o bosib nad oedd yn cyfarch pryderon yr
aelodau fel amlinellir uchod ac fe sicrhawyd y byddai’r swyddogion yn ymchwilio
ymhellach i’r effaith gronnol.
(g)
Ychwanegodd
yr Uwch Gyfreithiwr, tra’n derbyn bod gan pob Aelod wybodaeth leol, ni ellir
gwrthod y cais hyd nes derbynnir ystadegau penodol gan y swyddogion ac fe all
tystiolaeth gan yr aelodau lleol gyrannu at hyn.
Pleidleiswyd ar y gwelliant i’w ohirio ac fe gariodd.
PENDERFYNWYD: Gohirio’r
cais hyd nes derbynnir adroddiad cytbwys yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag effaith gronnol o unedau
gwyliau yn lleol.
Dogfennau ategol: