Newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) i gaffi (dosbarth defnydd A3).
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dylan Bullard
Cofnod:
Newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) i gaffi (dosbarth
defnydd A3).
(a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu
ar gefndir y cais, gan nodi
ei fod ar
gyfer newid defnydd siop (A1) i gaffi (A3) themau
Cymraeg a fyddai’n arddangos crefftau a chynnyrch lleol a cherddoriaeth Cymraeg. Nodwyd nad oedd
bwriad i wneud newidiadau allanol, ond bod bwriad i osod
echdynydd ar dalcen yr adeilad.
Esboniwyd mai defnydd diwethaf
yr uned oedd
fel siop Ethel Austin, a’I bod wedi cau
ers nifer o flynyddoedd, a bod caniatâd cynllunio wedi ei roi ers
hynny i’w newid i ddwy
siop ar wahân
gyda stiwdio dawns uwchben.
Saif yr adeilad o fewn
prif ardal siopa a chanol tref canolfan wasanaeth
drefol Pwllheli, a parth llifogi C1.
Cyfeiriwyd at yr ymatebion i’r
ymgynghoriadau o fewn yr adroddiad. Nodwyd
nad oedd unrhyw wybodaeth newydd wedi ei
derbyn ers hynny. Derbyniwyd sylwadau gan y cyhoedd ar y cais
ac maent wedi eu nodi yn
yr adroddiad.
Ers derbyn caniatâd i drosi’r adeilad
yn ddwy siop
yn 2014, eglurwyd nad oedd y siop
dan sylw erioed wedi ei
meddiannu ond bod y siop gyfochrog yn gweithredu fel
bwci William Hill. Cyn hynny, siop Ethel Austin oedd yn meddiannu’r
holl eiddo, cyn i’r gadwyn
fynd i ddwylo’r
gweinyddwyr yn 2010 ac fe’i meddianwyd yn fyr yn
dilyn hynny gan fusnes Life and Style Retail
tan 2011. O ystyried cyfnod
hir sydd wedi pasio ers
i’r siop sefyll yn wag, credir fod sail a chyfiawnhad i gytuno
ar y newid defnydd er mwyn
dod a’r adeilad
yn ôl i
ddefnydd a chael ymadael ar flaen
gwag mewn lleoliad amlwg a chanolog yn y dref.
Mae’r defnydd bwriedig fel caffi
yn atyniad o fewn canol dref,
ac ni ystyrir y byddai’r newid defnydd yn cael
effaith andwyol ar swyddogaeth y prif ardal siop,
na’r canol dref.
Bwriedir gosod echdynnydd ar yr adeilad,
a disgwylir am sylwadau Uned Gwarchod y Cyhoedd arno ac yn dilyn derbyn
sylwadau ffafriol, ystyrir fod y newid
defnydd yn dderbyniol, ac na fydd yn cael
effaith andwyol ar fwynderau unrhyw
drigolyn cyfagos.
Oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd
â’i nodweddion presennol ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio
gyda’r polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol. Argymhellir felly i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostynedig i dderbyn sylwadau
ffafriol gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ar addasrwydd
y system echdynnu/ffliw arfaethedig ac i’r amodau a restrir ar ddiwedd yr
adroddiad.
(b) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r
cais.
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau
ffafriol gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ar addasrwydd y system echdynnu/ffliw
arfaethedig ac i amodau perthnasol:
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol â’r cynlluniau
3. Amodau argymhellir gan Uned Gwarchod y Cyhoedd o ran
sŵn/echdynnydd/ffliw
Nodyn:
1.
Copi o lythyr Cyfoeth Naturiol Cymru dyddiedig 25 Ebrill 2018
Dogfennau ategol: