skip to main content

Agenda item

Cais diwygiedig i ymestyn safle carafanau sefydlog presennol er cynyddu niferoedd o 31 i 35, ail leoli 3 carafan sefydlog a creu ardal chwarae newydd

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Simon Glyn

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais diwygiedig i ymestyn safle carafanau sefydlog presennol er cynyddu niferoedd o 31 i 35, ail leoli 3 carafan sefydlog a chreu ardal chwarae newydd.

 

(a)     Nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu nad oedd yr ymgeisydd na’i asiant wedi cyflwyno ymholiad ynglŷn â’r hyn sy’n bosibl ar y safle dan sylw yn dilyn tynnu cais blaenorol yn ôl, er gwaethaf bod y swyddogion wedi mynegi pryderon polisi sylfaenol ynglŷn â’r bwriad.   Ymhelaethodd y swyddog ar gefndir y cais, gan nodi ei fod ar gyfer ymestyn maes carafanau sefydlog presennol i gynyddu niferoedd o 31 i 35 ynghyd ag ail-leoli 3 carafan sefydlog a chreu ardal chwarae newydd.  Byddai’r bwriad yn cynnwys tirlunio ychwanegol ar ffiniau gorllewinol a deheuol y rhan estyngedig o’r safle.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r broses ymgynghori a’r ymatebion dderbyniwyd fel a nodir yn yr adroddiad.

 

O safbwynt y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol, y prif bolisi ydoedd TWR 3 sy’n gallu caniatáu estyniadau bychan i arwynebedd y safle a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg.  Un o’r meini prawf ydoedd nad yw’r gwelliannau yn cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar safleoedd oddi mewn ir AHNE na’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig.  Roedd y cais yn un i gynyddu’r niferoedd o unedau ar y safle drwy ychwanegu 4 uned.  Nodwyd nad oedd y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion y polisi o safbwynt safleoedd oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig.  Drwy ail-leoli 3 carafán sefydlog i’r cae chwarae presennol, golygai y byddai’r gwrych ar ochr deheuol safle’r cae chwarae yn cael ei golli er creu lón newydd ac yn gwneud safle’r cae chwarae yn llawer mwy agored a gweledol sensitif na’r hyn ydyw.  Byddai ymestyn y safle yn gwneud y safle yn fwy amlwg yn y dirwedd a lle ceir  llwybrau cyhoeddus yn rhedeg yn agos iawn.  Ni ystyrir felly byddai’r bwriad yn ei ffurf bresennol yn gwella gosodiad y safle yn y dirwedd o’i amgylch.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, byddai ymestyn y safle yn ei wneud yn fwy amlwg yn y dirwedd ac er bod y cais yn dangos bwriad i ymgymryd á thirlunio ar hyd terfynau gorllewinol a deheuol byddir yn cymryd amser i aeddfedu. 

 

Derbyniwyd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth yn datgan pryder am y fynedfa ac y byddai’r bwriad yn cynyddu’r defnydd o fynedfa sydd eisoes yn is-safonol.  Byddai’r cynnydd heb welliannau i’r fynedfa yn annerbyniol.

 

Oherwydd nad ydoedd polisi TWR 3 yn caniatáu cynnydd mewn niferoedd carafanu sefydlog ar safleoedd presennol oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig, ac ni ystyrir y byddai ymestyn y safle yn gwella ei osodiad yn y dirwedd, ynghyd á pryderon diogelwch ffyrdd, argymhellwyd i wrthod y cais.

 

(b)     Nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

 

·         Nad yw’r sefyllfa yn amlwg glir a derbyniwyd caniatád yn 1962 i gadw’r safle yn gyfreithiol

·         Derbyniwyd llythyr gan y Cyngor yn egluro sut fath o ddyluniad ddylai fod ar y fynedfa ac roedd y perchnogion wedi cydymffurfio â hyn

·         Cydnabuwyd bod angen a modd i wella’r fynedfa

·         Gofynnir am gynnydd yn niferoedd y carafanau oherwydd derbyniwyd ymweliad gan y  Swyddog Gorfodaeth (Trwyddedu) a oedd yn pryderu bod y carafanau rhy agos at ei gilydd.  Esboniwyd, ar un adeg pan oedd carafanau yn llai o faint roedd dyluniad y safle  yn dderbyniol ond ar hyd y blynyddoedd wrth adnewyddu gyda charafanau newydd a mwy modern ymddengys bod eu harwynebedd yn fwy ac yn naturiol felly yn creu llai o le rhyngddynt.  Pwysleiswyd nad oedd hyn yn unigryw i’r maes yma yn unig.

·         Bod y perchnogion yn fodlon cydymffurfio, a’r unig le i adleoli’r carafanau ydoedd y maes peldroed ar y safle ac nad oedd ganddynt opsiwn arall

·         Er mwyn gwneud hyn, rhaid buddsoddi ee carthffosiaeth 

·         Teimlwyd bod 3 carafan yn creu sefyllfa llawer mwy amlwg ac y byddai rhoi 7 ar y tir dan sylw yn llai amlwg yn amodol i’r gwrychoedd aeddfedu

·         Awgrymwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio i dderbyn ymateb pellach gan yr ymgeisydd a chynnal ymweliad safle 

 

(c)     Mewn ymateb,  eglurodd y Rheolwr Cynllunio bod asiant yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r pryderon a’r ystyriaeth bwysicaf ydoedd nad oedd y cais yn cydymffurfiol á Pholisi TWR3.  O bosib, efallai y gellir goresgyn pryder diogelwch ffyrdd ond ni ellir goresgyn pryderon ynghylch cynnydd o 4 carafán.  Roedd y swyddog o’r farn na fyddai ymweliad safle o unrhyw fudd oherwydd nad ydoedd yn goresgyn y pryderon ynghylch polisi TWR3.  Roedd dwy apêl mewn achosion cyffelyb wedi eu cyflwyno ar hyn o bryd a disgwylir am benderfyniad.  Tynnwyd sylw’r Pwyllgor Cynllunio at y ffaith pe byddai’r Pwyllgor yn ystyried caniatáu y cais byddai’n rhaid cyfeirio’r cais i gyfnod o gnoi cil.    

 

(ch)   Cynigwyd, eiliwyd a phleidleiswyd i wrthod y cais.

 

(d)     Nododd Aelod bwysigrwydd i drafod gyda’r perchnogion y safle ynghylch adleoli’r carafanau o safbwynt iechyd a diogelwch. 

 

            Penderfynwyd:          Gwrthod am y rhesymau canlynol: 

 

1.         Mae’r bwriad yn golygu cynyddu nifer carafanau sefydlog ar safle carafanau sefydlog presennol oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig.  Nid yw polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog neu’r unedau siale ar safleoedd presennol oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig.  Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).

 

2.       Ni ystyrir y byddai ymestyn y safle yn gwella ei osodiad yn y dirwedd o’i amgylch ac ni fyddai ychwaith yn cynnal, gwella nag adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig.  Ystyrir fod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisïau TWR 3 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).

 

3.       Byddai’r datblygiad arfaethedig yn creu cynnydd mewn trafnidiaeth fyddai’n defnyddio mynedfa is-safonol er niwed sylweddol i ddiogelwch ffyrdd.  Mae'r bwriad felly yn groes i bolisi TRA 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017)

 

Dogfennau ategol: