Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 14 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau.
Atgoffwyd yr aelodau yn unol
â’r hyn a gymeradwywyd gan y Pwyllgor ar 19 Gorffennaf 2018, fe ddarperir
sgôr risgiau a lefel sicrwydd ar gyfer pob
archwiliad. Nodwyd y derbyniwyd adborth cadarnhaol ar y drefn newydd gan
aelodau a swyddogion.
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn
ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y prif faterion canlynol –
Trefniadau Diogelu
– Trais yn y Cartref
Mewn ymateb i sylw gan
aelod o ran pryd byddai’r rheolaethau mewn lle, nododd
y Rheolwr Archwilio bod rheolaethau mewn lle ond bod angen
adeiladu arnynt. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Refeniw
a Risg bod cynllun gweithredu mewn lle i ymateb
i’r gofyn deddfwriaethol bod holl staff y Cyngor
wedi cwblhau’r hyfforddiant.
Nododd aelod bod cyfrifoldeb ar reolwyr i sicrhau
bod staff yn cwblhau’r hyfforddiant. Mewn ymateb i sylw
gan yr aelod
o ran y rhesymau a roddir
pan ei fod yn anoddach i
weithwyr maes gwblhau’r hyfforddiant, nododd y Rheolwr Archwilio bod staff swyddfa efo mynediad rhwydd
i’r modiwl hyfforddiant felly roedd yn haws iddynt gwblhau’r modiwl o gymharu â gweithwyr maes.
Awgrymodd aelod
y dylai bod modd i weithwyr maes gael mynediad i’r hyfforddiant
o gartref. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod Modiwl Datblygu Staff yn parhau i
gael ei
ddatblygu ar hyn o bryd ac fe
fyddai yn y pendraw yn galluogi
holl staff i gael mynediad i’r
modiwl hyfforddiant. Atgoffodd yr aelodau
y cynhelir gwaith dilyniant ar yr
archwiliad ac fe
adroddir ar y canlyniadau.
Canolfan Hamdden
Arfon
Cyfeiriodd aelod at y ffaith bod pob aelod o staff yn gyfrifol am gwblhau gwiriadau stoc, awgrymodd y dylai bod aelod penodol o staff neu hyd yn oed
y rheolwr yn cwblhau’r gwiriadau. Mewn ymateb i’r
sylw, eglurodd y Rheolwr Archwilio bod staff yn gweithio ar
drefn rota felly nid oedd yn bosib
i aelod penodol
o staff gwblhau’r gwiriadau.
Cadarnhaodd bod pob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer cynnal
gwiriadau stoc.
Casglu Incwm
– Morwrol a Pharciau Gwledig
Tynnodd aelod sylw bod y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn nodi ei
fod yn ffyddiog
bod y ffigyrau a ddarparwyd
gan gwmni ‘Adra’, a oedd yn
casglu arian tâl mynediad i
Barc Glynllifon ar ran y Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig, yn gywir
er nad oedd
gwiriadau o niferoedd ymwelwyr na’r arian
a gesglir. Nododd yr aelod y dylid
derbyn tystiolaeth i gefnogi barn y swyddog.
Nododd y Pennaeth Cyllid yn yr
achos yma y byddai’r gost o gael swyddog yn
gwirio’r incwm a gesglir o ran tâl mynediad i’r parc
yn llawer uwch nag unrhyw incwm ychwanegol a fyddai’n cael ei
gasglu.
Nododd aelod yr angen i
dderbyn mwy o wybodaeth yng nghyswllt
y mater gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Archwilio bod yr archwiliwr wedi edrych ar anfonebau
chwarterol gan y cwmni a oedd yn
nodi faint o arian
a drosglwyddir i’r Cyngor a’i bod yn gyfforddus
efo’r sefyllfa. Pwysleisiodd nad
oedd yr incwm
a gesglir gan y cwmni ar ran y Cyngor yn sylweddol.
Eglurodd yr Uwch Reolwr Refeniw
a Risg bod yr archwiliwr yn ystod
yr archwiliad wedi edrych ar
y risg i’r Cyngor gyda risg yng
nghyswllt incwm yn fater sylfaenol
a fyddai wedi derbyn sylw.
Nododd aelod bod rhaid cael balans
o ran costau staff i wirio’r incwm a lefel yr incwm
a gesglir. Roedd rhaid byw efo’r
risg wrth wneud penderfyniad.
Nododd aelod ei fod yn
derbyn y risg ond efallai byddai
wedi bod o gymorth i gael ffigwr i gymharu.
Mewn ymateb i sylw gan
aelod, nododd y Rheolwr Archwilio y gellir gwneud archwiliad
sydyn o ran yr anfonebau a lefel incwm gan adrodd
yn ôl i’r
Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Plas y Don
Nododd aelod bod yr un themâu
yn amlygu eu hunain yn
gyson mewn archwiliadau ar Gartrefi Preswyl. Ychwanegodd aelod bod y Gweithgor Gwella Rheolaethau, yn ei gyfarfod ar
23 Hydref 2017, wedi trafod crynodeb o’r themâu a amlygwyd
mewn archwiliadau ar Gartrefi Preswyl
efo’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn bresennol.
Eglurodd y Rheolwr Archwilio bod gwelliant wedi bod yn sefyllfaoedd Cartrefi Preswyl. Atgoffodd yr aelodau
bod y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi egluro yng
nghyfarfod y gweithgor bod materion staffio yn ffactor gyda
phroblemau recriwtio staff yn enwedig yn
ardaloedd Dwyfor a
Meirionnydd.
Nododd aelod ei fod yn
croesawu’r gwelliant yn sefyllfaoedd Cartrefi Preswyl. Ychwanegodd os oedd tueddiadau bod angen edrych ar
y darlun ehangach a’i fod yn
fater a oedd angen sylw gan
yr Uwch Reolwyr
yn hytrach na Rheolwyr
y cartrefi.
Nododd aelod, oherwydd bod yr un materion
yn codi, y dylid gofyn i’r
Pwyllgor Craffu Gofal ystyried edrych ymhellach ar y themâu a oedd yn
cael eu hamlygu
mewn archwiliadau ar Gartrefi Preswyl.
Plas Hedd
Nododd aelod ei fod
yn allweddol bod staff yn cwblhau’r modiwl
e-ddysgu ‘Cam-drin Domestig’ o ystyried eu man gwaith. Mewn ymateb, nododd
y Rheolwr Archwilio mai un modiwl
hyfforddiant oedd dan sylw a’i
fod yn gyfran
fach o ran gwaith a phrofion ynghlwm â’r hyn a gyflawnir
gan staff cartrefi preswyl.
Nododd aelod y dylai bod fframwaith hyfforddiant efo amserlen benodol
mewn lle. Ychwanegodd ei fod yn cydnabod
bod staff yn y cartrefi preswyl yn hynod
brysur a’i fod yn anodd
rhoi amser i hyfforddiant. Mewn ymateb, tynnodd
y Rheolwr Archwilio sylw bod cam gweithredu cytunedig i ‘Sicrhau
bod pob aelod o staff yn cwblhau’r modiwl
e-ddysgu ‘Cam-drin Domestig’ gydag amserlen mewn lle.
Mewn ymateb i sylw
gan aelod yng nghyswllt y risg i’r Cyngor o ganlyniad i ddiffyg
mewn hyfforddiant, pwysleisiodd y Rheolwr Archwilio mai un modiwl hyfforddiant y cyfeirir ato yn
yr achos yma a bod ystod eang o hyfforddiant, megis diogelu a symud a thrin pobl,
i’w cwblhau gan staff.
Cyfeiriodd aelod at fwriad y Cyngor i sefydlu llwybr
gyrfa maes
gofal, gan nodi nad oedd
wedi ei wireddu
hyd yn hyn.
Nododd y byddai llwybr gyrfa maes gofal yn ysgogi unigolion
i weithio yn y maes ac fe
ddylid gofyn i’r Pwyllgor Craffu Gofal ystyried y mater.
Cefn Rodyn
Mewn ymateb i sylw gan
aelod parthed tymheredd yr oergell
feddyginiaeth, eglurodd y Rheolwr Archwilio bod tymheredd yr oergell
yn cael ei
gofnodi yn ddyddiol.
PENDERFYNWYD:
(i)
derbyn yr adroddiad
ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2018 hyd at 14 Medi 2018 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau
perthnasol;
(ii)
bod Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cwblhau archwiliad
sydyn o ran yr anfonebau a’r lefel
incwm yng nghyswllt tâl mynediad
i Barc Glynllifon
gan adrodd yn ôl i’r
Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf;
(iii)
gofyn i’r Pwyllgor Craffu Gofal ystyried:
Ø edrych ymhellach
ar y themâu oedd yn cael
eu hamlygu mewn archwiliadau ar Gartrefi Preswyl;
Ø edrych ar y sefyllfa o ran
sefydlu llwybr gyrfa maes gofal
er mwyn ysgogi
unigolion i weithio yn y maes.
Dogfennau ategol: