Agenda item

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn drwy ei amryfusedd nad oedd yr eitem ganlynol wedi ei gynnwys ar y rhaglen.

 

Tanddaearu gwifrau trydan

 

Croesawyd Alan Jones (SP Energy Networks) i’r cyfarfod. Rhoddodd gyflwyniad ar  gynllun tanddaearu gwifrau trydan yn yr AHNE gan nodi y cynhelir cyfarfodydd diweddaru efo swyddogion yr AHNE bob 6 mis. Manylodd ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod y cyfnod 2010-15 yn Aberdesach, Rhiw a Llithfaen a’r gwaith a gwblhawyd ac oedd yn symud yn ei flaen ers 2015 ym Mynydd Cilan, Comin Mynytho, Sarn Bach, Dwyros a Bryncynan. Nododd bod cyllideb o £8 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y 3 AHNE a’r Parciau Cenedlaethol yn y gogledd am y cyfnod 2015-22 a bod angen adnabod prosiectau ar gyfer y dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau yng nghyswllt tirlithriad o ganlyniad i erydiad dŵr yn dilyn cwblhau gwaith tanddaearu yn Nant Gwrtheyrn a diogelwch y gwaith adfer, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n edrych i mewn i’r mater.

 

Holodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn am y gwaith tanddaearu ar Gomin Mynytho. Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’r gwaith yn mynd yn ei flaen unwaith ceir hawl gan y tirfeddiannwr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt pwy oedd yn penderfynu o ran y safleoedd y gwneir gwaith tanddaearu gwifrau trydan, eglurodd cynrychiolydd SP Energy Networks bod swyddogion yr AHNE yn cynnig safleoedd posib a’i fod ef yn ystyried ymarferoldeb tanddaearu gwifrau trydan yn y safleoedd posib. Ymhelaethodd bod gweithredu ar safleoedd oedd yn ymarferol bosib i wneud y gwaith yn ddibynnol ar dderbyn hawl gan y tirfeddiannwr. Eglurodd bod tirfeddiannwr yn derbyn taliad way-leave am wifrau trydan uwchben y tir oherwydd eu heffaith ar waith amaethyddol o ddydd i ddydd a bod taliad llai ar gyfer gwifrau trydan wedi eu tanddaearu. Eglurodd ymhellach bod tirfeddiannwr yn gallu rhoi rhybudd i derfynu’r hawl os nad oedd hawddfraint ar y tir yn weithredol. Nododd mai anghyffredin oedd y defnydd o hawddfraint ar dir gan ei fod yn broses anoddach.

 

Holodd aelod faint oedd cyfanswm hyd gwifrau trydan uwchben y tir yn yr AHNE. Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks mai cyfran fechan o’r rhwydwaith cyflawn oedd uwchben y tir. Ychwanegodd y canolbwyntir ar yr ardaloedd mwyaf ymarferol o ran tanddaearu gwifrau trydan.

 

Tynnodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn sylw bod erthygl wedi ei gynnwys yng nghylchgrawn ‘Llygad Llŷn’ ar y gwaith a gwblhawyd yng Nghilan.

 

Cyfeiriodd aelod at newidydd trydan nad oedd bellach yn weithredol ger cyn waith carthffosiaeth Nefyn a holodd o ran ei dynnu oddi yno. Nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n edrych i mewn i’r mater.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd SP Energy Networks am ei gyflwyniad.

 

Nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n cysylltu efo Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn o ran safleoedd posib ar gyfer tanddaearu gwifrau trydan.

 

Pencampwr Cefn Gwlad

 

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y Cynghorydd Angela Russell wedi ei phenodi yn Bencampwr Cefn Gwlad gan Gyngor Gwynedd. Ymhelaethodd y byddai yn ei rôl yn hyrwyddo materion cefn gwlad. Eglurodd bod y Pencampwr yn derbyn gwahoddiad i gyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor fel sylwedydd ond bod opsiwn i addasu’r cyfansoddiad fel bod y Pencampwr yn aelod llawn o’r Cyd-Bwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y broses benodi, nododd Rheolwr Cefn Gwlad a Mynediad mai’r Aelod Cabinet Amgylchedd oedd yn gyfrifol am y penodiad a bod y Cynghorydd wedi ei dewis gan ei bod yn Bencampwr Bioamrywiaeth yn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD addasu cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor i gynnwys Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd yn aelod llawn o’r Cyd-Bwyllgor.