Star Kebabs, Stryd Fawr, Bangor
I ystyried y cais
Cofnod:
Ar ran yr eiddo: Mr
Mehmet Kabadayi a’i fab Emre Kabadayi
Eraill a wahoddwyd: Mr
Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu Gwynedd a Môn, Heddlu Gogledd Cymru)
PS2430 Dana Baxter
a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am newid amodau i drwydded mewn
perthynas â goruchwylwyr drysau a gytunwyd gan y Pwyllgor hwn yn dilyn
adolygiad o’r drwydded yn 2012 gan Heddlu Gogledd Cymru. Eglurwyd bod yr eiddo
wedi ei drwyddedu ar gyfer gwerthu lluniaeth hwyr y nos, 7 diwrnod yr wythnos
ac ar hyn o bryd yn amodol bod goruchwylwyr drysau, sydd yn gofrestredig gyda’r
Awdurdod Diwydiant Diogelwch yn bresennol ar yr eiddo o 23:00 nos Iau, Gwener a
Sadwrn hyd at amser cau’r eiddo: yn ogystal ar nos Sul cyn dydd Llun Gŵyl
y Banc.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd, wedi
cyfnod ymgynghori ar y cais, derbyniwyd
ymateb gan Heddlu Gogledd Cymru. Nid oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu’r bwriad i
gyflogi goruchwylwyr drysau o hanner nos ymlaen ar benwythnosau a nos Sul
Gŵyl y Banc. Er hynny, nid oedd yr Heddlu yn cefnogi bwriad yr eiddo i
agor hanner awr yn ychwanegol ar nos Iau.
Amlygwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi manylu ar yr angen i gael hanner awr
ychwanegol ar nos Iau yn ei ffurflen gais.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r
ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai
b) Wrth
ymhelaethu ar y cais, cadarnhaodd yr ymgeisydd
bod y cais am estyniad oriau lluniaeth hwyr
yn nos ar ddydd Iau yn gamgymeriad. Er iddo geisio am addasu oriau agor ar nos Fercher i 3:30am amlygodd y Cadeirydd
nad oedd hyn i’w drafod ac os byddai angen gwneud addasiad i oriau’r drwydded yna cynghorwyd yr ymgeisydd
byddai rhaid gwneud cais o’r newydd.
Yng
nghyd-destun goruchwylwyr drysau eglurodd nad
oedd angen goruchwylwyr drysau ar nos
Iau gan fod yr eiddo yn cau am hanner nos.
c) Yn
manteisio ar ei hawl i siarad, cadarnhaodd
Swyddog o’r Heddlu nad oedd yn gwrthwynebu lleihau oriau goruchwylwyr drysau ar y nos Iau. Amlygodd
bod problemau wedi bod yn y gorffennol
lle cyflwynwyd tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau adolygiad o’r drwydded eiddo gydag amodau ychwanegol mewn perthynas â Theledu Cylch
Cyfyng, a goruchwylwyr drysau. Wrth
gyflwyno eu cais am adolygiad, roedd gan yr Heddlu dystiolaeth o 18 o achosion
o drosedd ac anrhefn yn
gysylltiedig â’r eiddo yn hwyr y nos. Nodwyd bod yr Heddlu, yn Medi 2012 wedi erlyn deilydd
y drwydded am weithredu tu hwnt i oriau gweithgareddau trwyddedig oedd wedi eu cynnwys ar y drwydded.
Amlygwyd, mewn cais gan yr ymgeisydd i
amrywio'r drwydded ym Mawrth 2013, nodwyd yr Heddlu
fod yr amodau ychwanegol, mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng a goruchwylwyr drysau, wedi bod yn hynod effeithiol
gan sicrhau fod yr eiddo yn cydymffurfio gyda’r amcanion Trwyddedu, er yn ddiweddar i’r ymgeisydd fethu
a rhannu tystiolaeth oddi ar y system teledu cylch
cyfyng. Cafwyd eglurhad bod problemau llawr lwytho gwybodaeth a phwysleisiwyd
mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd oedd
darparu gwybodaeth ar gais yr Heddlu neu Swyddogion Trwyddedu. Amlygwyd yn glir yn amodau’r drwydded bod angen
storio lluniau am o leiaf 31 diwrnod.
ch) Wrth ystyried y cais ystyriwyd adroddiad y
Swyddog Trwyddedu, y ffurflen gais, y sylwadau ysgrifenedig
a ddaeth i law oddi wrth y partïon gyda diddordeb ynghyd â’r sylwadau llafar a gyflwynwyd gan yr holl bartïon yn
bresennol yn y gwrandawiad. Bu i’r Is-bwyllgor hefyd ystyried Polisi Trwyddedu'r Cyngor, arweiniad y Swyddfa Gartref
ynghyd ag egwyddorion Deddf Trwyddedu
2003
• Trosedd ac Anrhefn
• Diogelwch y Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans
Cyhoeddus
• Amddiffyn Plant rhag
Niwed
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais am wyriad fel y’i
diwygiwyd.
Gwiriwyd y drwydded fel
a ganlyn:
1. Ni fydd gofyn i’r eiddo ddarparu
goruchwyliwr drws wedi ei gofrestru gan yr Awdurdod Diwydiant Diogelwch (Security Industry
Authority – SIA) ar Ddydd Iau.
2. Bydd yr eiddo yn darparu goruchwyliwr
drws wedi ei gofrestru gan yr Awdurdod Diwydiant Diogelwch o
00:00 tan amser cau ar nos Wener a Sadwrn, yn ogystal â nos Sul cyn Gŵyl
Banc.
Rhoddwyd ystyriaeth
benodol i’r sylwadau canlynol:
Roedd 3 rhan i gais
gwreiddiol yr ymgeisydd:
1.
Estyniad amser mewn perthynas â darparu Lluniaeth Hwyr yn
Nos ar nos Iau i 03:30.
2.
Gwyriad fel nad oes gofyn i’r eiddo ddarparu goruchwyliwr
drws Awdurdod Diwydiant Diogelwch (Security
Industry Authority – SIA) ar ddydd Iau.
3.
Gwyriad fel bod darpariaeth goruchwyliwr drws Awdurdod
Diwydiant Diogelwch (Security
Industry Authority – SIA) ar nos Wener, Sadwrn a Sul
cyn Gŵyl Banc rhwng 00:00 ac
amser cau.
Yn y gwrandawiad fe gadarnhaodd yr ymgeisydd
bod y cais am estyniad oriau lluniaeth hwyr yn
nos ar ddydd Iau yn gamgymeriad. Yn yr amgylchiadau, tynnwyd y darn hwn o’r
cais yn ôl ac ni roddodd yr
Is-bwyllgor ystyriaeth bellach iddo. Amlygwyd hefyd fodd bynnag na fyddai’r Is-bwyllgor
wedi gallu ystyried y darn hwn o’r cais, nag unrhyw gais i ymestyn oriau o dan
gais ar gyfer gwyriad o dan adran 35 o’r Ddeddf Trwyddedu 2003, gan y byddai
cais o’r fath yn anghyfreithlon o dan adran 36(3) o’r un Ddeddf.
Yn sgil yr eglurhad bod dim cais am estyniad amser ar ddydd Iau, ac yn
sgil cadarnhad yr Heddlu bod dim
gwrthwynebiad i weddill y cais, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws
â’r amcanion trwyddedu.
Dogfennau ategol: