Cyflwyno, er
gwybodaeth, datganiadau ariannol statudol y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar
archwiliad) ar gyfer 2017/18.
Cofnod:
Gosodwyd cefndir a
chyd-destun i’r adroddiad gan y Pennaeth Cyllid. Tynnwyd sylw mai cyfrifon
drafft heb eu harchwilio a gyflwynir er gwybodaeth, gyda’r fersiwn terfynol i’w
gyflwyno er cymeradwyaeth y Pwyllgor, yn ei rôl ‘llywodraethu’, yng nghyfarfod
27 Medi 2018. Eglurwyd bod y Pwyllgor Pensiynau efo rôl weithredol, gyda’r
Bwrdd Pensiwn yn craffu gweithrediad yn fanwl. Adroddwyd bod aelodau’r Pwyllgor
Pensiynau a’r Bwrdd Pensiwn wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r Datganiad mewn
cyfarfod ar y cyd ar 16 Gorffennaf 2018.
Manylodd y Rheolwr
Buddsoddi ar gynnwys Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn.
Mewn ymateb i sylw gan
aelod bod ysgolion tu allan i Wynedd yn gyrff a oedd yn gyflogwyr gweithredol
yn y Gronfa Bensiwn, eglurodd y Pennaeth Cyllid bod staff gweinyddol mewn
ysgolion penodol yn gyfranwyr i’r Gronfa, gyda’r cyrff a oedd yn rhan o’r
Gronfa yn dilyn ôl-troed yr hen Sir Gwynedd gan gynnwys Cynghorau Ynys Môn a
Conwy. Ymhelaethodd bod rhai cyflogwyr tu hwnt i’r ffin yn aelodau o’r Gronfa,
gyda rhai cyrff eraill a gymeradwywyd yn rhan o’r Gronfa efo amodau.
Nododd aelod bod y
sefyllfa o ran y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd dal yn
annaroganadwy, ond bod sefyllfa’r Gronfa wedi gwella. Mewn ymateb i’r sylw,
nododd y Pennaeth Cyllid bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi
effeithio ar y gyfradd cyfnewid arian. Ymhelaethodd bod asedau’r Gronfa yn yr
Unol Daleithiau o America wedi eu prisio mewn punnoedd; gyda gwerth y bunt yn
lleihau, roedd gwerth asedau’r Gronfa yn uwch ar ôl cyfnewid o ddoleri i
bunnoedd. Nododd bod ansicrwydd yn parhau, ond bod gweithrediad ac amcanion y
Gronfa Bensiwn yn faterion hirdymor, gan dalu buddion pensiwn allan cyfnod hir
ar ôl casglu’r cyfraniadau.
Nododd aelod nid yn
unig bod y Gronfa yn buddsoddi dramor, roedd rhan fwyaf o gwmnïau mawr y
Deyrnas Unedig yn gwneud eu busnes yn rhyngwladol a bod asedau busnes wedi
cynyddu, gan gyfrannu at y cynnydd o £300m, sef 20% yng ngwerth y Gronfa yn
2017/18. Ategodd sylw’r Pennaeth Cyllid, gan nodi bod y Gronfa yn buddsoddi am
gyfnod hir gyda phrisiad teir-blynyddol. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd
y Pennaeth Cyllid bod ‘Nodyn 16b - Dadansoddiad o fuddsoddiadau’ yn dangos
dadansoddiad daearyddol o fuddsoddiadau tramor y Gronfa.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod os oedd diffyg yn y Gronfa Bensiwn fel rhai cronfeydd eraill, nododd
y Pennaeth Cyllid bod prisiad teir-blynyddol y Gronfa yn gosod rhagdybiaethau
darbodus, gyda’r prisiad diwethaf yn nodi bod y Gronfa yn cyfarch 92% o’r
ymrwymiadau i’r dyfodol, a oedd yn sefyllfa llawer gwell na rhai cronfeydd, a
oedd wedi eu cyllido tua 60%. Eglurodd bod barn yn gallu gyrru’r rhagdybiaethau
actiwaraidd sy’n adnabod os oes diffyg, roedd Adran Actwari Llywodraeth San
Steffan wedi cymharu tebyg wrth debyg yn 2017, a pe ddefnyddir rhagdybiaethau
safonol Actwari’r Llywodraeth byddai’r Gronfa wedi ei chyllido 109%. Cadarnhaodd
bod y Gronfa, wrth gymharu tebyg wrth debyg o ran rhagdybiaethau actiwaraidd, o
fewn y 10 gorau o’r 89 o gronfeydd pensiwn yng Nghymru a Lloegr.
Nododd aelod mai dyma
oedd ei ail gyfle i gael ystyried y Datganiad. Hysbysodd y Pwyllgor bod y Bwrdd
Pensiwn wedi llongyfarch y Gronfa Bensiwn am y gwaith, a bod y Bwrdd wedi
craffu’r Datganiad yn drylwyr.
Nododd y Pennaeth
Cyllid ei ddiolch i’r swyddogion am lwyddo i lunio’r Datganiad yn wyneb straen
sylweddol gydag absenoldebau staff. Eglurodd y disgwylir newidiadau yn sgil
archwiliad gan gwmni Deloitte, ond byddai’r darlun cyffredinol o ran gwerth y
Gronfa ar ddiwedd 2017/18 yr un fath.
PENDERFYNWYD derbyn a
nodi Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) am
2017/18.
Dogfennau ategol: