Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.
Cofnod:
Cyflwynodd y Rheolwr
Archwilio adroddiad oedd yn manylu ar drefniant arfaethedig o ddarparu lefel
sicrwydd archwiliadau er mwyn adlewyrchu dull yr Awdurdod o asesu a mesur ei
risgiau. Eglurodd y byddai sgôr risg a ddarperir yn seiliedig ar farn yr
Archwiliwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd Archwilio perthnasol a’r Rheolwr
Archwilio, ac yn syrthio i un o bedwar categori/lefel risg, sef - Uchel Iawn
(20-25), Uchel (12-16), Canolig (6-10) ac Isel (1-5).
Nododd yn hanesyddol
rhoddwyd categori barn ar archwiliadau yn amrywio o gategori barn ‘A’ i ‘Ch’.
Eglurodd o dan y trefniant arfaethedig fe nodir lefel sicrwydd ar gyfer pob
archwiliad. Ymhelaethodd y byddai’r lefel sicrwydd a ddarperir yn seiliedig ar
werthusiad o’r amgylchedd reolaeth fewnol ac ar y nifer o risgiau a adnabuwyd
ynghyd â’u sgôr risg. Nododd y byddai lefelau sicrwydd cyffredinol archwiliadau
yn syrthio i un o bedwar categori, sef:
UCHEL |
Gellir
datgan sicrwydd o briodoldeb gan y gellir dibynnu ar y rheolaethau mewnol
mewn lle i gyflawni amcanion. |
DIGONOL |
Mae
rheolaethau mewn lle i gyflawni amcanion ond bod agweddau lle gellir tynhau
ar y trefniadau i liniaru’r risgiau ymhellach. |
CYFYNGEDIG |
Er
bod rheolaethau mewn lle, mae angen gwella cydymffurfiaeth â’r rheolaethau
a/neu gyflwyno rheolaethau newydd i leihau’r risgiau mae’r gwasanaeth yn
agored iddynt. |
DIM SICRWYDD |
Ystyrir
bod y rheolaethau mewn lle yn annigonol gyda methiant i gyflawni amcanion. |
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Byddai’r trefniant arfaethedig
yn rhoi mwy o wybodaeth i aelodau a’i fod yn gam gwerthfawr ymlaen;
·
Oedd ffigwr ynghlwm â’r hyn a nodir yn y diffiniad o
effaith fel ‘ar nifer fawr o drigolion’?
·
O’r farn ei fod yn gam positif ymlaen. A fyddai’r
Pwyllgor yn derbyn crynodeb o ran beth oedd wedi ei wneud?
·
A fyddai sgôr risg archwiliadau yn cael eu trafod
efo’r swyddogion perthnasol yn yr Adrannau cyn i’r adroddiad ddod gerbron y
Pwyllgor?
·
A fyddai llinell amser o ran gwybodaeth hanesyddol
a cherrig milltir yn cael eu nodi yn yr adroddiadau?
·
Bod angen diwylliant lle nad oedd angen i
archwilwyr amddiffyn y sgôr a ddyfarnwyd i archwiliad. Gobeithio y byddai swyddogion
yn gweld archwiliad fel rhywbeth positif yn hytrach na rhywbeth negyddol;
·
Faint o rybudd oedd gwasanaethau yn derbyn o ran
cynnal archwiliad?
·
Beth oedd y sefyllfa o ran archwiliadau canolfannau
hamdden yn dilyn sefydlu’r cwmni hamdden newydd?
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod amcan bras o
1,000oedd i 10,000oedd o drigolion yn cael ei ystyried fel ‘nifer fawr o
drigolion’. Er hynny, pwysleisiwyd fod risg a oedd yn derbyn sgôr effaith ‘5 –
Catastroffig’ yn cael ei ddiffinio fel effaith catastroffig ar unrhyw drigolyn;
·
Byddai’r Pwyllgor
yn derbyn crynodeb o’r adroddiadau archwilio ac fe nodir lefel sicrwydd yr
archwiliad. Teimlir y byddai’r sgôr risg yn fwy defnyddiol i swyddogion o
gymharu â nodi categori barn;
·
Rhoddir cyfle i
swyddogion perthnasol yn yr Adrannau ymateb i adroddiad archwiliad drafft. Pe
na fyddai’r swyddogion yn cydweld â swyddogion archwilio mewnol bydd gofyn i’r
archwilwyr fod yn bendant ac amddiffyn sgôr a ddyfarnwyd i’r archwiliad;
·
Bod Cynllun Archwilio
Mewnol yn wahanol ar gyfer pob blwyddyn felly nid oedd yn bosib cymharu
blwyddyn wrth flwyddyn. Gwneir gwaith dilyniant ar bob cam gweithredu yn
hytrach na’r drefn hanesyddol o gynnal dilyniant ar adroddiadau categori barn
“C” yn unig;
·
Mai mater i’r Adran oedd
penderfynu os oedd sgôr risgiau penodol yn dderbyniol iddynt neu os oedd angen
gweithrediad i leihau’r risg;
·
Bod archwiliadau
wedi eu nodi yng Nghynllun Archwilio Mewnol am y flwyddyn. Mewn rhai achosion
roedd angen trafodaeth cyn yr archwiliad gyda swyddogion perthnasol i dderbyn
gwybodaeth o ran y cefndir ar gyfer paratoi nodyn briffio. Yr unig eithriad o
ran archwiliadau dirybudd oedd archwiliadau canolfannau hamdden, a hynny ar
gais yr Adran Economi a Chymuned.
·
Nodir yn y cytundeb o ran sefydlu’r cwmni hamdden
newydd, ‘Byw’n Iach Cyf’, bod disgwyliad bod y cwmni yn rhoi cytundebau am
ddarparu cefnogaeth benodol i’r Cyngor ond bod gan y cwmni’r hawl i gytundebu
yn allanol. Byddai cytundeb lefel gwasanaeth rhwng y Gwasanaeth Archwilio
Mewnol a Byw’n Iach Cyf.
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad.
Dogfennau ategol: