skip to main content

Agenda item

Cais ol-weithredol i ymestyn safle carafanau teithiol ynghyd â chadw adeilad toiledau, llwyfan pren, ac ymgymryd â chynllun tirlunio

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

      Cais ôl-weithredol i ymestyn safle carafanau teithiol ynghyd a chadw adeilad         toiledau, llwyfan pren ac ymgymryd â chynllunio tirlunio

 

a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais wedi ei ohirio yng nghyfarfod 16 Ebrill 2018 o’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn ail ymgynghori ac ail asesu’r cais yn sgil derbyn cynlluniau diwygiedig. Amlinellwyd mai cais ôl gweithredol ydoedd i ymestyn safle carafanau teithiol presennol, ynghyd a chadw adeilad toiledau, ‘hook ups’ trydanol, ac ymgymryd â chynllun tirlunio a phlannu coed ar hyd ffin ogleddol a gorllewinol y safle. Ategwyd bod y cais yn cynnwys lleoli 10 carafán deithiol ychwanegol ar yr eiddo fyddai’n ychwanegiad i’r 10 carafán deithiol a ganiatawyd mewn cais ôl-weithredol yn 2016. Nodwyd bod y bwriad hefyd yn cynnwys man storio ychwanegol ar gyfer 20 carafán deithiol, a gyda chaniatâd presennol eisoes i storio 10 carafán deithiol byddai cyfanswm y  man storio ar gyfer 30 carafán deithiol.

 

Adroddwyd bod y safle yn gorwedd mewn man amlwg o fewn yr Ardal o Dirwedd Arbennig, ac yn weladwy o’r ffordd sirol gyfochrog a’r llwybr cyhoeddus sydd yn rhedeg ar hyd ffin ogleddol y safle. Nodwyd bod y safle yn amlwg weladwy o’r ffordd sirol sydd yn rhedeg i lawr o Lanbedrog i Fynytho.

 

Cyfeiriwyd at bolisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol sydd yn caniatáu cynigion am estyniadau i safleoedd teithiol presennol  neu leiniau ychwanegol os cydymffurfir a’r cyfan o’r meini prawf a nodir. Amlygwyd mai nod y polisi yw hwyluso gallu sefydlu safleoedd teithio a gwersylla o ansawdd uchel mewn lleoliadau priodol.

 

Er na fyddai’r bwriad yn groes i holl ofynion Polisi TWR 5 ni ystyriwyd ei fod yn cwrdd â phrif amcan y polisi sydd yn gofyn bod safleoedd yn anymwthiol yn y tirlun ac felly ystyriwyd y bwriad yn groes i bolisi TWR 5.

 

Nodwyd bod y cais yn gofyn am  gynyddu darpariaeth storio carafanau teithiol i 30 ond bod y Gwasanaeth Cynllunio o’r farn bod lleoliad y safle estynedig yn ymwthiol yn y dirwedd leol ac yn amlwg weladwy o Lon Pin ei hun ac nid yw’r dirffurf na’r tirlunio presennol yn ddigonol i gymhathu’r unedau i’r safle. Er bod cynlluniau yn dangos y bwriad i atgyfnerthu’r tirlunio presennol nid oedd sicrwydd y byddai’r plannu’n cael ei gario allan i’r graddau fyddai’n angenrheidiol i sgrinio’r datblygiad.

 

Cyfeiriwyd at y pryderon a’r gwrthwynebiadau oedd wedi eu derbyn yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl. Amlygwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd y cynnydd arwyddocaol yn y nifer o unedau teithiol fyddai’n treblu capasiti’r safle ac yn debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn y llif traffig ar hyd y ffordd wledig. Tybiwyd na fyddai’r ffordd yn addas ar gyfer y nifer o gerbydau fyddai yn tynnu carafanau nac ar gyfer mwy o symudiadau gan nad oes llawer o gyfleoedd pasio ar y ffordd. Ategwyd  bod y ffordd yn darparu mynediad at feysydd carafanau teithiol eraill, ynghyd a chaeau ffermydd lleol ac o ganlyniad yn ymdopi gyda chanran uchel o beiriannau a cherbydau mawr eraill.

 

Ystyriwyd y byddai’r cais yn amharu ar fwyniant trigolion cyfagos o’u heiddo, nid yn unig oherwydd y cynnydd mewn traffig, ond hefyd bwrlwm a sŵn ychwanegol. Ni ystyriwyd y byddai’r cynllun tirlunio a phlannu coed yn goresgyn y broblem yma.

 

b)      Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan asiant yr ymgeisydd;

·         Mai carafanau tymhorol ydynt ac am gyfnod byddant yn cael eu cadw ar y safle cyn eu cludo i’r storfa. O ganlyniad ni fydd ymyrraeth mewn trafnidiaeth

·         Storfa flaenorol yn rhy fach

·         Tri chyfarfod safle wedi eu cynnal gyda swyddogion gyda diwygiadau wedi eu cytuno. Os bwriad oedd gwrthod yna dylai hyn fod wedi ei wneud yn eglur i’r ymgeisydd cyn iddo dalu am wasanaeth yr asiant. Nodwyd bod hyn yn annerbyniol.

·         Bod yr ymgeisydd  yn fodlon addasu maint yr adeilad

·         Bod y safle yn weladwy o bell yn unig. Tyfiant arfaethedig gyda bwriad i blannu mwy os byddai angen – gellid rheoli hyn drwy osod amod tirlunio

c)         Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

(ch)      Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfarfodydd oedd wedi eu cynnal wrth drafod y cais, nodwyd mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw ystyried costau wrth gyflwyno cais. Nid oedd awgrym o gam arwain yr ymgeisydd a bod pryderon am y bwriad wedi bod yn gyson yn ystod trafodaethau ac fod yr argymhelliad i wrthod wedi bod yn gyhoeddus ers cyn gohirio’r cais yn Ebrill eleni.

 

Ategwyd bod y safle yn gweithredu yn groes i’r drwydded, heb ganiatâd cynllunio a’r cais yn groes i bolisïau a rheoliadau cynllunio. Pwysleisiwyd bod y rhesymau dros wrthod yn rhai cadarn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chadw yr ystafelloedd ymolchi (yn dilyn gwariant  ar welliannau), amlygodd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod angen cynnal trafodaethau pellach gyda’r swyddogion gorfodaeth i drafod yr agwedd yma o’r bwriad.

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Gwrthod

 

1.    Byddai’r datblygiad, oherwydd ei leoliad, gosodiad a gwedd yn y dirwedd, yn sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad agored gan gael effaith niweidiol ar y dirwedd a mwynderau gweledol yr Ardal o Dirwedd Arbennig. Ymhellach ni fyddai’r bwriad wedi ei leoli mewn lleoliad ymwthiol ac sydd wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Mae’r bwriad felly yn groes i bolisi strategol PS 19 a pholisïau AMG 2, PCYFF 2 a TWR 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor Gwynedd

2.    Creu cynnydd annerbyniol yn y lefel o drafnidiaeth ar hyd ffordd gul a throellog sydd heb lawer o fannau pasio gan greu sefyllfa a fyddai yn debygol o fod yn niweidiol i ddiogelwch ffyrdd yn groes i Bolisi TRA 4

3.    Amharu ar fwyniant trigolion cyfagos o’u heidio oherwydd cynnydd annerbyniol mewn lefel trafnidiaeth, aflonyddwch a sŵn yn groes i Bolisi PCYFF 2.

 

Dogfennau ategol: