Agenda item
Cais llawn i godi 4
tŷ deulawr newydd i gymeryd lle 4 byngalo fel a ganiatwyd yn flaenorol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones
Cofnod:
Cais llawn i godi 4 tŷ deulawr
newydd i gymryd lle 4 byngalo fel a ganiatawyd yn flaenorol.
Roedd
yr aelodau wedi ymweld ar safle
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd.
(a)
Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei
ohirio ym Mhwyllgor Mai 14eg, 2018 oherwydd anawsterau cofrestru i siarad
ynghyd ag awgrymiad y dylid cynnal ymweliad safle.
Nodwyd
bod y cais yn llecyn o dir gwag o fewn stad breswyl ehangach sydd wedi ei
rhannol ddatblygu. Eglurwyd bod y tir
wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Rhostryfan ac o fewn ardal adeiledig
sydd yn cynnwys tai preswyl ar ffurf tai unigol, tai teras, tai pâr gydag
amrywiaeth mewn dyluniad yn ogystal â maint tai cyfagos gan gynnwys tai unllawr
a deulawr. Ategwyd bod y fynedfa bresennol i’r safle oddi ar ffordd gyhoeddus
gyfagos gyda ffordd stad safonol yn arwain at dai’r stad. Nodwyd bod y tir yn
codi mewn lefel uchder o’r ffordd fynediad tuag at ran uchaf y stad ei hun.
Mynegwyd bod trafodaethau ffurfiol wedi eu cynnal ynglŷn â’r bwriad drwy
drefn y gwasanaeth cyn cyflwyno cais. Nodwyd hefyd bod hanes cynllunio hirfaith
yn ymwneud a’r safle ar ffurf ceisiadau
hanesyddol ar gyfer datblygiadau preswyl yn ogystal â cheisiadau diweddar yn
ymwneud a thai unigol sydd eisoes wedi eu codi o fewn y stad.
Cyfeiriwyd
at y sylwadau a dderbyniwyd gan gymdogion i’r safle yn pryderu am effaith y
datblygiad ar eu mwynderau yn ogystal â’r effaith ar yr ardal yn gyffredinol.
Ystyriwyd yr holl faterion cynllunio perthnasol, y polisïau a chanllawiau lleol
a chenedlaethol, hanes cynllunio’r safle a’r hawl ‘byw’ sydd yn parhau i godi 4
byngalo ar y safle yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o’r
ymgynghoriad cyhoeddus. O ganlyniad, roedd y bwriad o godi 4 tŷ deulawr
gydag adnoddau cysylltiol yn dderbyniol.
a)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod
cais am dai deulawr wedi ei wrthod yn y gorffennol
·
Bod
y lluniau oedd yn cael eu harddangos yn gamarweiniol. Nid oeddynt yn
adlewyrchu’r gwahaniaeth yng ngraddiant y safle
·
Byddai
tai deulawr yn creu effaith o golli golau haul naturiol ar dai cyfagos
·
Bod
plot rhif 4 yn goredrych ar dai presennol – nid yw hyn yn dderbyniol
·
Bod
tai yn fwy o ran maint na byngalos ac o ganlyniad yn cael effaith sylweddol ar
fwynderau cyfagos
·
Nad
oedd gwrthwynebiad i fyngalos
b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Nad
oedd ganddo wrthwynebiad i fyngalos
·
Bod
nifer y llofftydd yr un fath – mwy o elw i wneud o adeiladu tŷ na byngalo
·
Bod
mwy o alw am fyngalos
·
Bod
angen i’r Cyngor sicrhau eu bod yn diwallu anghenion lleol
·
Bod
angen am gymysgedd priodol o dai ar y safle
·
Bod
y lôn i’r safle yn gul a ddim yn gallu ymdopi gydag ychwanegiad traffig
·
Nad
yw’r lôn wedi ei mabwysiadu gan y Cyngor
·
Bod
problemau dŵr yn llifo ar y safle
·
Bod
tri thŷ heb eu gwerthu ar y safle, pam felly adeiladu 4 arall
ch) Cynigwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais yn groes i’r argymhelliad ar sail effaith y
datblygiad ar fwynderau preswyl
c)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod
y graddiant yn sylweddol o fewn y safle ac felly byddai rhai o’r tai yn uwch na
thai cyfagos ac felly yn creu effaith ymwthiol
·
Bod
mwy o alw am fyngalos yn yr ardal
·
Bod
y Cyngor Cymuned wedi gwrthod y cais
·
Bod
y safle yn fach ac felly angen ystyried y datblygiad fel gorddatblygiad
·
Bod
angen peidio gosod ffenestri fyddai yn achosi goredrych ar ddau dŷ sydd
eisoes mewn bodolaeth
·
Bod
angen ystyried pryderon diogelwch ffyrdd
·
Rhaid
gwrando ar ddymuniadau pobl leol
·
Bod
mwy o elw mewn adeiladu tai na byngalos
dd) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth oedd wedi ei nodi yn y Cynllun Datblygu
Lleol fel cymysgedd o dai addas ar gyfer
y safle, amlygwyd bod y cais wedi bod yn fyw ers 2000 ac nad oedd polisi yn
ymwneud a chymysgedd yn y cyfnod hwnnw. Mewn ymateb i sylw pellach bod y byngalos
felly yn rhan o gynllun mwy a bod y cymysgedd wedi ei ystyried yn flaenorol, nodwyd bod rhaid
edrych ar y cais ar ei haeddiant ei hun.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod angen
tystiolaethu dros y pryderon. Ni fyddai pryderon trafnidiaeth ddim gwahanol
rhwng adeiladu pedwar tŷ a phedwar byngalo. O ran yr angen, anodd fyddai
tystiolaethu rhwng yr angen am dai neu fyngalos oherwydd bod Uned Strategol Tai
y Cyngor wedi nodi fod galw uwch am dai deulawr yn gyffredinol yn yr ardal, er
bod galw digonol am dai unllawr yn ogystal.
Ategodd y Swyddog Monitro bod rhesymau priodol wedi eu hadrodd, ond bod
angen tystiolaeth i gefnogi rheolau gwrthod.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais oherwydd ei effaith
ar fwynderau cyfagos ar sail y byddai’n ddatblygiad ymwthiol ac y byddai’n creu
elfen annerbyniol o or-edrych i dy cyfochrog
Dogfennau ategol: