skip to main content

Agenda item

Rhannu annedd presennol i greu dwy uned wyliau ar osod gan gadw annedd deulawr ynghyd â chodi lefel y to 600mm (rhannol ol-weithredol) - cynllun diwygiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Rhannu annedd presennol i greu dwy uned wyliau ar osod gan gadw annedd deulawr ynghyd a chodi lefel y to 600mm (rhannol ôl-weithredol) – cynllun diwygiedig

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer rhannu annedd pedwar llawr a dderbyniodd ganiatâd cynllunio yn 2010 (C10A/0126/20/LL) ond sydd hyd yma heb ei gwblhau, er mwyn creu dwy uned wyliau ar y lloriau gwaelod gan gadw annedd ar y ddau lawr uchaf. Ategwyd bod bwriad codi lefel to’r adeilad 0.6m o’i gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Byddai’r newidiadau’n creu dwy fflat gyda dau lofft en-suite pob un, a dau ofod cegin / lolfa ac y byddai gan y tŷ deulawr ar y lloriau uchaf bedair llofft a modurdy integredig.

 

Cyfeiriwyd at bolisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn caniatáu cynigion ar gyfer datblygiadau newydd cyn belled na fyddent yn cael effaith niweidiol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau meddianwyr eiddo lleol neu ar yr ardal yn gyffredinol. Eglurwyd bod yr adeilad eisoes wedi derbyn caniatâd am ddefnydd anheddol ac nad oedd newid yn arwynebedd y llawr mewnol o’r hyn a ganiatawyd eisoes. Wedi cwblhau’r tŷ gellid ei ddefnyddio gan nifer sylweddol o bobl o fewn yr un teulu ac o ystyried mai math o ddefnydd anheddol yw defnydd gwyliau, ni ystyriwyd bydd newid dau ran o’r tŷ at ddefnydd anheddol amgen yn dwysau defnydd y safle mewn modd fyddai yn niweidiol i fwynderau cymdogion.

 

Amlygwyd na fyddai codi uchder yr adeilad 0.6m yn creu niwed arwyddocaol i fwynderau cymdogion o safbwynt cysgodi na’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatáu ac ni ystyriwyd bod patrwm datblygu cyson i’r stryd a fyddai’n golygu bod yr uchder yn anghyson gyda chymeriad y strydwedd. Ystyriwyd bod y deunyddiau a ddangoswyd yn dderbyniol ac y gellid sicrhau cysondeb gyda’r datblygiad oedd eisoes wedi ei ganiatáu drwy amodau priodol.

 

Nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad  i’r bwriad ac, o ystyried y datblygiad a ganiatawyd eisoes ar y safle ni fyddai unrhyw niwed arwyddocaol newydd i ddiogelwch y briffordd. Ystyriwyd bod y cynnig yn unol â pholisïau TRA 2 a TRA 4 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Ategwyd y byddai datblygiad o unedau gwyliau yn yr adeilad hwn yn dderbyniol o safbwynt y polisïau perthnasol ac ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith niweidiol andwyol ychwanegol ar fwynderau’r ardal, trigolion cyfagos na’r hyn a ganiatawyd eisoes. Yn ogystal, ystyriwyd bod lleoliad, dyluniad, gorffeniad a ffurf y datblygiad yn dderbyniol ac yn cydweddu a chyd-destun ei leoliad.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

        

(c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         A oedd yr elfennau goredrych wedi ei asesu?

·         Pryder bod eiddo lleol yn cael ei drosi i dai Haf

 

ch)    Mewn ymateb i sylw, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio na fyddai colled o annedd presennol gan fod un o’r fflatiau yn parhau fel uned byw.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

Amodau

 

1.    5 mlynedd

2.    Gwaith yn unol â’r cynlluniau

3.    Tynnu hawliau PD

4.    Amod defnydd gwyliau / cofrestr

5.    Deunyddiau, gan gynnwys to llechi naturiol

6.    Dim carafanau o fewn cwrtil wedi cwblhau’r datblygiad

7.    Gwydr afloyw mewn ffenestri na ellid eu hagor yn nhri llawr uchaf yr edrychiad gogledd ddwyrain

8.    Sgrin afloyw 1.8m o uchder ar ddwy ochr y tri balconi i’w osod cyn preswylio yn yr unedau ac i’w gadw wedi hynny

9.    Amodau Dwr Cymru o’r caniatâd blaenorol

10.  Amodau priffyrdd o’r caniatâd blaenorol

Dogfennau ategol: