Agenda item

Defnyddio tir ar gyfer gweithgaredd saffari beic quad yn ychwanegol at weithgareddau segway, saethu paent (gemau sgarmes) a byw gwyllt presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Ll Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Defnyddio tir ar gyfer gweithgaredd saffari beic cwad yn ychwanegol at weithgareddau segway, saethu paent (gemau sgarmes) a byw gwyllt presennol.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd oedd yn cynnwys awgrym i ohirio'r penderfyniad

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais a nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn coedlan bresennol ar gyrion pentref Llanystumdwy gyda mynediad at y safle ar hyd ffordd ddi-ddosbarth bresennol. Nodwyd bod gan y safle fynediad a maes parcio neilltuol. Eglurwyd bod y llecyn wedi ei greu fel man ymgynnull gyda derbynfa ar gyfer gweithgareddau’r safle ymhellach i mewn  i’r goedlan gyda mynediad yn cael ei reoli tuag at lwybrau parhaol sydd yn arwain trwy’r goedlan at fannau cynnal gweithgareddau

 

Ategwyd bod y bwriad fel ag y cyflwynwyd yn ymwneud a chynnal saffari beiciau cwad ar hyd llwybrau presennol y safle fel gweithgaredd ychwanegol i’r hyn a geir yn bresennol. Nodwyd bod y datblygiad arfaethedig yn cynnig,

-       6 person yn defnyddio hyd at 6 beic mewn nifer ar un adeg

-       Beiciau a ddefnyddir yn faint 350cc a 50cc

-       Cyfyngu cyflymder y beiciau i 12-15 milltir yr awr

-       UN gweithgaredd a weithredir ar y llwybrau ar un adeg e.e., dim ond y beiciau a dim beiciau a segways.

 

Amlygwyd bod effaith sŵn, fydd yn deillio o’r defnydd bwriedig, wedi ei gynnwys fel pryder mewn nifer o lythyrau o wrthwynebiad a dderbyniwyd. Mewn ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad cyhoeddus roedd gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi nodi y byddai angen cynnal asesiad sŵn trylwyr mewn perthynas â’r bwriad cyn penderfynu ar y cais. Cadarnhawyd bod Gwarchod y Cyhoedd wedi derbyn adroddiad gan yr ymgeisydd a bod casgliadau yr adroddiad hwnnw yn dderbyniol. Roedd y gwasanaeth yn argymell caniatáu’r datblygiad yn ddarostyngedig i amodau lefelau sŵn.

 

O ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn ymateb i ddau brif ffrwd o bryderon - pryderon sŵn a gôr ddatblygu

·         Ei fod yn berchen y safle ers 16 mlynedd

·         Nad oedd bwriad ganddo greu gofid i’w gymdogion

·         Ei fod wedi cyflogi ymgynghorwr sŵn i asesu gweithgareddau'r beiciau cwad a bod yr arbenigwr hwnnw wedi ymweld â’r cymdogion hynny oedd wedi amlygu pryder, i gwblhau asesiad sŵn.

·         Yng nghyd-destun gorddatblygiad, dywedodd nad oedd bwriad datblygu dim yn ychwanegol ac mai’r llwybrau cyfredol fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y gweithgareddau newydd

·         Bod y cwmni yn cyflogi 10 gyda bwriad o gyflogi dau ychwanegol petai’r cais yn cael ei ganiatáu

·         Bod dros 6.5 mil o bobl yn ymweld a’r safle yn flynyddol

·         Ei fod wedi trawsffurfio darn o goedlan flêr yn fusnes lleol llwyddiannus

 

c)      Cynigiwyd a eiliwyd gohirio y cais er mwyn cynnal ymweliad safle

        

ch)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Angen sicrhau bod yr asesiad sŵn wedi asesu sŵn chwe beic cwad ac nid un ar ben ei hun

·         Bod angen i’r aelodau gael copi o’r asesiad sŵn

·         Bod angen gwahodd Swyddog Gwarchod y Cyhoedd i’r Pwyllgor nesaf i rannu sylwadau

·         Bod angen ystyried yr amodau sydd eisoes yn bodoli ers cyflwyno cais 2012

·         A yw’r amseroedd agor presennol yn cyd-fynd â’r amodau gwreiddiol?

 

PENDERFYNWYD gohirio cymryd penderfyniad ar y cais a gofyn i’r Gwasanaeth Cynllunio drefnu ymweliad a’r safle.

 

Dogfennau ategol: