Symud a phrosesu dyddodion gweithio mwynau presennol ar gyfer cynhyrchu
agregau llechi.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd
Cofnod:
Gwaredu
a phrosesu dyddodion gweithio mwynau presennol ar gyfer cynhyrchu agregau
llechen.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar
gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer ehangu gweithgareddau ar y safle.
Eglurwyd bod y safle wedi bod yn gweithredu ers 2007. Nodwyd bod tomeni llechi
eithaf sylweddol o amgylch y safle a bwriedir tynnu llechi o’r tomeni fel agreg
eilaidd. Nodwyd bod y math yma o weithgaredd yn cwrdd ag amcanion cynaliadwyedd
Llywodraeth Cymru i wneud y gorau o agreg eilaidd yn hytrach na ffrwydro a
thyllu o’r newydd.
Nodwyd
bod safle’r cais o fewn tirwedd o ddiddordeb hanesyddol ac wedi ei ddynodi fel
Ardal Tirwedd Arbennig yn y CDLl.
Eglurwyd y byddai’r gwaith yn cael ei weithredu mewn 4 cam
er mwyn sicrhau nad oedd edrychiad allanol y safle yn newid, gyda gwaith tynnu
mwynau ac adfer gam wrth gam. Nodwyd y bwriedir defnyddio’r tomeni llechi i
sgrinio’r datblygiad oddi wrth 2 dŷ cyfagos. Ymhelaethwyd y codir bwnd 3
medr o uchder, gyda’r gwaith prosesu, sef y malurio a'r sgrinio, yn cael ei gynnal tu ôl i’r bwnd.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan drigolion lleol ac
nad oedd Grŵp Cyswllt y chwarel yn gwrthwynebu’r bwriad.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Nododd yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
nad oedd gwrthwynebiad yn lleol i’r bwriad.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais.
Nododd aelod
efallai bod bwnd 3 medr o uchder yn rhy isel ac a ddylai fod yn uwch wrth y
malwr. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff
byddai’r tomeni llechi ar y safle yn sgrinio’r gwaith, ond petai angen cynyddu
uchder y bwnd fe drafodir y mater gyda’r ymgeisydd.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Cychwyn y datblygiad ymhen pum mlynedd,
2. Cydymffurfio â chynlluniau'r cais,
3. Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir o
fewn Gwedd 4 y gwaith,
4. Caniatâd 25 mlynedd,
5. Copi o'r caniatâd ar gael yn swyddfa'r
safle,
6. Y safle i'w adfer wedi hynny yn unol â'r
cynllun gweddau ar gyfer y gwaith sydd wedi'i ddangos ar gynlluniau'r cais ac
yn unol â'r fethodoleg a gyflwynwyd gyda'r cais ar gyfer stripio pridd a'i
drin,
7. Adolygu gweithrediadau'r safle, gweddu ac
adfer mewn cyfnodau pum mlynedd,
8. Lefelau sŵn yn yr eiddo sensitif
agosaf,
9. Rheoli sŵn yn unol â'r Cynllun Rheoli
Sŵn a gyflwynwyd i gefnogi'r cais a diwygiadau yn unol â sylwadau CNC,
10. Cyn hysbysu'r ACM o unrhyw weithrediadau sy'n
ddarostyngedig i'r cyfyngiadau sŵn dros dro o 67db am ddim mwy nag wyth
wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,
11. Monitro sŵn ar gais ysgrifenedig yr ACM,
12. Larymau bagio sŵn gwyn i'w gosod ar bob
offer a pheiriant a ddefnyddir ar y safle a dim larymau bagio i'w defnyddio ar
y safle ar ôl 19.00awr;
13. Prosesu ddim ond o fewn Ardal A fel y nodir ar
gynlluniau'r cais a bod gweithrediad y mathrwr wedi'i sgrinio bob amser gan
fwnd o 3m o uchder fan leiaf;
14. Y Mathrwr i'w weithredu rhwng 10.00awr a
15.00awr yn unig;
15. Allbwn i barhau yn bedwar llwyth y dydd rhwng
08.00 a 16.00 awr;
16. Mynediad wedi'i gyfyngu i'r briffordd Dosbarth
3 fel y nodir ar gynlluniau'r cais gyda'r allbwn wedi'i gyfyngu i bedwar llwyth
HGV y dydd,
17. Oriau gweithio yn y safle wedi'u cyfyngu
i;
18. 07.30 - 18.00 dydd Llun i ddydd Gwener &
07.30 - 13.00 dydd Sadwrn,
19. Rheoli llwch yn unol â'r Cynllun Rheoli Llwch
a gyflwynwyd i gefnogi'r cais,
20. Gofyniad am fonitro ansawdd aer ar gais yr
ACM,
21. Bowseri dŵr yn cael eu cynnal ar y safle
i wlychu'r arwynebau sy'n cael eu defnyddio gan gerbydau cludo,
22. Amodau mwynau safonol ar gyfer storio tanwydd,
diogelu cyrsiau dŵr lleol a chydymffurfiaeth â'r Cynllun Atal Llygredd a
gyflwynwyd a diwygiadau yn unol â sylwadau CNC,
23. Hysbysiad ysgrifenedig cyn dechrau unrhyw
stripio a storio pridd/swbstrad o fewn Gwedd 4 y gwaith ynghyd â chadarnhad
drwy gyfeirio at gynllun i raddfa o leoliad a chyfaint y deunyddiau sy'n cael
eu storio yn y safle,
24. Holl briddoedd a gorlwyth i'w ddefnyddio yn y
gwaith adfer a ni fydd dim yn cael ei waredu oddi ar y safle heb gael caniatâd
gan yr ACM ymlaen llaw,
25. Cofnodi archeolegol a briff gwylio'n unol â'r
adroddiad GC394 diwygiedig,
26. Cyflwyno Cynllun Rheoli Cadwraeth o fewn chwe
mis o ddyddiad cychwyn y caniatâd,
27. Mesurau lliniaru i ystlumod yn unol ag adran
5.6.2 yr Adroddiad Ecolegol (Asesiad Effaith Ecolegol, Hydref 2016) a gwaredu
mewnlenwi o doriad gerllaw'r ffordd gludo sy'n gwasanaethu Gwedd 4 a gwagle'r
chwarel,
28. Mesurau i sicrhau nad yw Hawl Tramwy Cyhoeddus
Rhif 46 yn cael ei gyfaddawdu yn ystod gweddau adeiladu a gweithredol y
datblygiad,
29. 'Nodyn i'r Ymgeisydd' ar faterion a fyddai fel
arall yn syrthio dan gylch gwaith Dŵr Cymru (Ymateb i'r Ymgynghoriad
Atodiad 1), Cyfoeth Naturiol Cymru (Ymateb i'r Ymgynghoriad Atodiad 2),
Llywodraeth Cymru a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Gwynedd.
30. Nodyn i'r ymgeisydd bod y cais
wedi ei asesu'n unol â saith amcan
cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Dogfennau ategol: