Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr
W.Gareth Roberts, Dilwyn Morgan a Gareth Thomas
I dderbyn yr adroddiadau
isod (ynghlwm):-
(A) Gwasanaethau Anabledd Dysgu
(B) Gwasanaethau
Plant
(C) Gwasanaeth Addysg
Cofnod:
Cyflwynwyd -
adroddiadau’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, yr Aelod Cabinet Plant
a Theuluoedd a’r Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar y gwasanaethau cyfredol ym
maes Awtistiaeth a’r cynlluniau i’w datblygu dros y blynyddoedd nesaf.
Gan fod y gwaith yn digwydd ar draws nifer o wasanaethau ac yn cael eu
cynllunio a’u cynnal gan 3 o adrannau’r Cyngor, cyflwynwyd adroddiadau ar wahân
gan y 3 adran.
Ymhelaethodd yr Aelodau Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr
adroddiadau, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.
(A) Gwasanaethau
Anableddau Dysgu
Codwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-
·
Mynegwyd pryder nad oedd
anghenion oedolion sydd ag awtistiaeth, ond heb anableddau dysgu, yn cael eu
cyfarch a bod awtistiaeth yn cael ei drafod o dan y gwasanaethau anabledd
dysgu. Nid oedd gan y mwyafrif o bobl sydd
ag awtistiaeth anableddau dysgu ac ‘roedd symudiad bellach i edrych ar
awtistiaeth fel cyflwr yn hytrach nag anabledd.
Hefyd, ‘roedd gan bawb gyfraniad i’w wneud, ac ‘roedd yn bwysig hybu
sgiliau pob unigolyn. Yn wyneb y ffaith
bod y Bil Awtistiaeth yn mynd drwy Senedd Cymru ar hyn o bryd, byddai’n rhaid
i’r Cyngor gymryd anghenion pobl ag awtistiaeth o ddifri’ ac mewn ffordd
wahanol i’r ffordd y gwnaethpwyd hynny hyd yma.
Mewn ymateb, nodwyd bod y Gwasanaeth Anabledd Dysgu yn cymryd yr
anghenion hyn o ddifri’. Cadarnhawyd nad
oedd awtistiaeth yn wasanaeth ar wahân o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant ar hyn o bryd ond y credid ei fod wedi ei leoli lle mae’r arbenigedd i
ddelio gydag achosion eithaf cymhleth yn bodoli o fewn yr adran ar hyn o bryd a
bod y rôl o gydlynu ar draws yr adran a’r cyswllt hefo adrannau eraill yn
digwydd yn y fan honno.
·
Nodwyd bod yna ddiffyg cefnogaeth ar gyfer pobl
sydd â chyflyrau llai dwys a llai hirdymor a phwysleisiwyd pwysigrwydd cefnogi
oedolion cyn iddynt fynd yn ynysig neu i sefyllfa lle mae angen cymorth
proffesiynol a meddyginiaeth arnynt.
Nodwyd hefyd bod ymyrraeth gynnar yn arbed arian yn y pen draw a
chyfeiriwyd yn ogystal at ddiffyg arbenigwyr iechyd meddwl yn y Gwasanaeth
Iechyd.
·
Mynegwyd y farn y dylai’r Cyngor gyflogi swyddog
awtistiaeth fyddai’n bwynt cyswllt i deuluoedd ac yn gallu cydweithio gyda’r
trydydd sector. Awgrymwyd hefyd y dylid
cynnwys gwybodaeth ar y wefan ynglŷn â pha adnoddau, grwpiau sydd ar gael. Mewn ymateb, nodwyd y penodwyd gweithiwr
cefnogol drwy’r Prosiect IAS fydd yn gweithio yng Ngwynedd. Hefyd, fel y byddai’r gofynion yn newid a mwy
o ddata yn dod trwodd ynglŷn â’r hyn sydd angen i’r Cyngor ei wneud,
byddai’r adran yn parhau i ystyried beth yn union sydd angen ei ddarparu. Gallai hynny, yn y pen draw, arwain at yr
angen am swyddog cydlynu neu debyg, ond nid oedd y Cyngor wedi cyrraedd y pwynt
hynny eto.
(B) Gwasanaeth
Plant
Manteisiodd yr Aelod Cabinet ar y cyfle i ddiolch
i’r Cynghorwyr Beth Lawton ac Angela Russell am eu cyfraniad i’r cyfarfodydd
herio perfformiad ac i’r Cadeirydd am ei ran yn yr adroddiad ar yr archwiliad
diweddar o’r gwasanaeth.
Codwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-
·
Nodwyd mai un o’r
diffygion ar hyn o bryd oedd bod diffyg adnoddau yn golygu nad oedd cysondeb ar
draws Gogledd Cymru i ffurf y gwasanaeth Niwroddatblygiadol a sefydlwyd ar
gyfer plant ag awtistiaeth ar draws Cymru a bod y rhestrau aros yn hirach. Trosglwyddwyd rhywfaint o adnoddau o’r
gwasanaethau ar gyfer plant anabl i’r gwasanaeth newydd oedd yn cael effaith ar
Derwen, ac ‘roedd unrhyw ymyrraeth yn ddibynnol ar gyllid grant byr dymor. Diffyg arall oedd mai staff gwasanaeth iechyd
yn unig oedd wedi eu cyflogi / secondio i’r gwasanaeth Niwroddatblygiadol ac
mai ychydig iawn o amser oedd gan Addysg i gyfrannu i’r drefn. Nid oedd gweithiwr cymdeithasol yn rhan o’r
gwasanaeth, a olygai nad oedd teuluoedd yn cael asesiad gofalwyr a gwasanaethau
cefnogol, ayb, ac ‘roedd yna grŵp o blant a phobl ifanc ag awtistiaeth nad
oeddent yn cael llawer o wasanaeth oddi allan i’r diagnosis. ‘Roedd diffyg hefyd o ran yr adnoddau yn
amser seicolegwyr clinigol o fewn y gwasanaethau, gyda’r amser aros yn fwy na
blwyddyn mewn rhai rhannau ar draws Gogledd Cymru. Hefyd, ‘roedd yna ddiffyg amlwg o ran
adnoddau i ddatblygu adnoddau egwyl fer ymhellach gan fod y gwasanaeth eisoes
wedi derbyn lleihad yn eu cyllid drwy’r broses Her Gwynedd.
·
Nodwyd na allai’r Cyngor fforddio torri mwy o
wasanaethau ar gyfer plant a’u teuluoedd oherwydd bod y problemau’n hir dymor a
dyma’r garfan fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
·
Pwysleisiwyd bod swydd y
Rheolwr
Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn swydd allweddol o fewn y gwasanaeth, ac er
sicrhau dilyniant, erfyniwyd am gadw’r swydd ar ôl i Iona Griffiths, y deilydd
presennol, ymddeol ddiwedd y mis.
·
Llongyfarchwyd a
diolchwyd i staff Derwen am eu gwaith gwych.
(C) Gwasanaeth
Addysg
Codwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-
·
Holwyd a oedd lle i godi ymwybyddiaeth ysgolion o
awtistiaeth fel y gellid ymyrryd yn yr ysgolion eu hunain lle mae plant yn isel
ar y sbectrwm. Mewn ymateb, nodwyd bod
rhaglen hyfforddiant yn cael ei datblygu ar gyfer yr ysgolion a’i fod yn rhan
o’r strategaeth newydd ynglŷn ag anghenion ychwanegol a chynhwysiad.
·
Holwyd beth fyddai dyfodol y Ganolfan Awtistiaeth
ar safle Ysgol Coed Mawr yn sgil cau’r ysgol honno fel rhan o’r cynllun i
foderneiddio addysg yn ardal Bangor.
Mewn ymateb, eglurwyd y gobeithid dod o hyd i leoliad arall ar gyfer y
ganolfan o fewn adeilad ysgol arall ym Mangor.
Gan na ellid cadarnhau’r sefyllfa’n bendant ar y funud, cytunodd yr
Aelod Cabinet i godi’r mater a dod â’r ateb yn ôl i aelodau lleol ardal
Bangor. Mynegwyd pryder nad oedd yr
aelodau’n gwybod am yr uned yng Nghoed Mawr ac felly na fu’n bosib’ iddynt ystyried ei phwysigrwydd wrth
ystyried y cynllun ar gyfer ysgolion ardal Bangor.
·
Canmolwyd y weledigaeth o roi’r plentyn yn ganolog,
ond holwyd sut oedd modd cysoni hynny ar draws yr ysgolion fel bod pob plentyn
yn cael yr un cyfle. Mynegwyd pryder bod
sawl teulu sy’n mynd drwy’r broses yn sôn am brofiad tra gwahanol - rhai’n
methu cael mynediad i’r gwasanaeth oherwydd nad oedd yr ysgol yn derbyn bod
problem ac eraill ar restr aros a ddim yn cael cefnogaeth oherwydd nad oeddent
wedi cael y diagnosis. Mewn ymateb,
nodwyd bod dyletswydd ar y cydlynydd a’r pennaeth i adnabod y plant gyda
chymorth y seicolegydd addysg a gweithio drwy’r broses honno. Roedd yna broses o raddoli ac o adnabod yn yr
uwchradd hefyd yn ogystal â rhaglen hyfforddiant benodol a chynhwysfawr. O ran cysoni a monitro, roedd y gwasanaeth
wedi creu rhaglen fonitro fyddai’n ffordd o rannu ymarfer da ac roedd 4 swyddog
ansawdd yn gyfrifol am gysoni ansawdd y gwasanaeth mae’r adran a’r ysgolion yn
ei roi i’r disgyblion.
·
Holwyd sut roedd
llwyddiant yn cael ei fesur. Mewn
ymateb, nodwyd y defnyddid Estyn o ran monitro’r ysgolion o ran y darpariaethau
a bod cynnydd y disgyblion eu hunain yn cael ei fesur yn erbyn y Therapeutic
Outcomes Measurement, sy’n edrych ar sgiliau meddal, ac yn cael ei adrodd i’r
Bwrdd Rheoli.
·
Holwyd a fyddai modd
trefnu hyfforddiant i rieni drwy Skype.
Mewn ymateb, nodwyd, er y gellid trefnu hyfforddiant cyffredinol drwy
Skype, bod y math o hyfforddiant a ddarperir i rieni yn fwy dwys na hynny fel
rheol ac na fyddai’n addas i’w wneud drwy Skype.
·
Nodwyd bod y diffyg
dilyn i fyny a chefnogaeth i rieni ar ôl y diagnosis yn disgyn ar y seicolegwyr
ysgol a’r athrawon arbennig a bod angen gofyn i’r Bwrdd Iechyd lle mae’r
gefnogaeth i rieni. O safbwynt y
plentyn, nodwyd mai holl sail y strategaeth newydd oedd bod y Gwasanaeth Addysg
yn ymyrryd yn gynnar drwy edrych ar anghenion y plentyn, yn hytrach na’r
cyflwr, ac yn paratoi cynllun datblygu unigol sy’n cyfarch anghenion y plentyn,
ac nid y diagnosis. Mewn ymateb i sylw
nad oedd hynny’n digwydd ymhob achos ar lawr gwlad, eglurwyd bod hon yn strategaeth
newydd iawn ac arloesol. Roedd yn mynd i
gymryd amser i gysoni’r gwasanaeth ar draws y sir gyfan, ond dyna oedd nod y
gwasanaeth.
·
Gofynnwyd am adroddiad
mwy cynhwysfawr i’r pwyllgor yn manylu ar niferoedd y plant sy’n derbyn addysg
yn all-sirol, faint o blant sydd ddim yn mynychu ysgol ac sydd ag awtistiaeth /
heb awtistiaeth ynghyd â gwybodaeth am yr ysgolion arbennig.
·
Holwyd a oedd yna restr aros i weld seicolegydd
addysg. Mewn ymateb, nodwyd, er bod
rhaid gweld seicolegydd clinigol i gael y diagnosis, nad oedd rhaid gweld
seicolegydd addysg i gael y ddarpariaeth o dan y drefn newydd. ‘Roedd yr ysgolion yn hoffi’r drefn newydd
gan ei bod yn haws iddynt godi materion o ran eu hysgol eu hunain, ond ‘roedd rhieni
wedi arfer gyda’r hen drefn o gael gweld seicolegydd addysg ac nid oeddent bob
amser yn deall bod addysg yn wahanol i iechyd.
Nodwyd hefyd bod gan y Cyngor dîm cyflawn ac eithaf ifanc o seicolegwyr
addysg oedd yn gallu cynnal asesiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
·
Mewn ymateb i ymholiad,
cadarnhawyd bod yna gydweithio da yn y maes awtistiaeth rhwng y 3 adran. Roedd camau breision ar droed o ran y
cydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd hefyd, gyda’r prosiect Alltwen yn gatalydd i
hynny gyda llawer o drafod ac edrych ar y problemau o ochr y defnyddiwr.
Dogfennau ategol: