Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Thomas
Penderfyniad:
Penderfynwyd
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd i:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi y bydd angen penderfynu sut y bydd y Cyngor yn cyfarch yr
angen i leihau £96,000 o gyllideb y Canolfannau Iaith. Tynnwyd sylw i’r faith
fod gwaith arbennig yn cael ei wneud yn y canolfannau iaith.
Ychwanegwyd fod
ymgynghoriad mewnol wedi ei gynnal gyda’r staff, undebau ac mewn amrywiol
gyfarfodydd y Cyngor. Nodwyd cefndir y Canolfannau Iaith gan nodi eu bod wedi
ei gyllido gan grant gan Fwrdd yr Iaith gydag arian cyfatebol gan y Cyngor.
Mynegwyd pan ddiddymwyd Bwrdd yr Iaith fod Grant y Gymraeg mewn Addysg, gan
Lywodraeth Cymru wedi cyllido’r Canolfannau. Ychwanegwyd fod Llywodraeth Cymru
wedi dod a 11 o’r grantiau addysg o dan un pennawd Grant Gwella Addysg, a oedd
yn cynnwys Grant y Gymraeg. Mynegwyd fod y Grant Gwella Addysg ers 2014/15 wedi
bod yn derbyn gostyngiad blynyddol, ac wrth ystyried chwyddiant mae’r toriad
mewn termau real yn 34%, ond ychwanegwyd fod y Canolfannau Iaith dros y
blynyddoedd wedi eu gwarchod yn gyfan gwbl drwy’r holl doriadau. Mynegwyd yn 2018/19 fod 10% o doriad yn y
Grant Gwella addysg gan Lywodraeth Cymru a olygai diffyg o £61,000 yng
nghyllidebau’r Canolfannau Iaith. Nodwyd fod y Cyngor wedi llwyddo i bontio’r
diffyg hwn am eleni.
Tynnwyd sylw at y
Cyfnod Sylfaen sydd wedi gweld gostyngiad o 32% ers 2014/15 sydd yn cyfateb a
£1.2miliwn neud oddeutu 70 o gymorthyyddion dosbarth. Mynegwyd fod gwaith
arbennig o drochi plant yn yr iaith yn digwydd yn y Cyfnod Sylfaen yn ogystal.
Mynegwyd er bod y setliad gan Lywodraeth Cymru am eleni yn niwtral ychwanegwyd
mewn termau real fod toriad gan fod chwyddiant mewn cyflogau a Phensiynau. O
ganlyniad i hyn nodwyd fod angen ail strwythuro er mwyn bod yn gost effeithlon.
Mynegwyd mai
ymgynghoriad mewnol sydd wedi ei gynnal, gan ddilyn camau Adnoddau Dynol.
Nodwyd restr o fudiadau ac unigolion y maer Aelod Cabinet ac Adran Addysg wedi
derbyn gohebiaeth ganddynt mewn perthynas a’r Canolfannau Iaith sef Cymdeithas
yr Iaith Gymraeg, Cylch yr Iaith, Popeth Cymraeg, CYDAG, RHAG, Cynghorau Tref a
Chymuned, Canghennau Merched y Wawr ac nifer uchel o unigolion. Tynnwyd sylw at
y tri maes pryder oedd wedi codi yn yr ohebiaeth yma sef gwrthwynebu'r newid,
newid mewn demograffeg ac ansawdd yr addysg (pe bai newid i’r strwythur).
Nododd y Pennaeth Addysg a'r Swyddog Gwasanaethau
Corfforaethol Addysg y sefyllfa gyfredol gan nodi'r strwythur staffio sydd i’w
gweld yn y 5 Canolfan Iaith ar draws y sir, sef 4 canolfan gynradd ac un
uwchradd gan dynnu sylw at niferoedd y disgyblion sydd yn mynychu’r
canolfannau. Ymhelaethwyd ar y broses ymgynghori sydd wedi ei gynnal gan
bwysleisio nad proses ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ond yn hytrach mai
proses fewnol gyda’r staff ac undebau yn sgil y posibilrwydd o newid i’w
hamodau gwaith. Nodwyd yr opsiynau yr ymgynghorwyd arnynt gan nodi fod yr adran
wedi llunio meini prawf ar gyfer yr opsiynau.
Cafwyd crynodeb o
sylwadau’r Undebau a oedd yn nodi’r angen i athrawon fod yn arbenigol ar gyfer
trochi iaith yn effeithiol, yn gallu cynllunio gwersi byrlymus wedi eu
strwythuro’n ofalus ac yr angen i arwain y ganolfan yn absenoldeb y naill neu’r
llall. Ychwanegwyd gofynnodd yr Undeb am eglurdeb ar rai pwyntiau yng
nghyd-destun yr ail strwythuro gan awgrymu'r angen i dreialu'r gymhareb athro :
cymhorthydd i 16 o blant cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Mynegwyd fod Canolfan
Iaith Dolgellau, sydd cael ei staffio gydag Athro a Chymhorthydd ar hyn o bryd,
wedi anfon eu sylwadau yn unigol gan nodi eu bod yn gweithredu fel Opsiwn 2 er
16 o flynyddoedd ac yn llwyddiannus iawn. Mynegwyd eu bod yn llawn ac ar adegau
gyda mwy na’r capasiti ac yn gallu cyflawni gofynion y cwrs gydag Athrawes a
Chymhorthydd.
Tynnwyd sylw yn dilyn
yr ymgynghroiad ar y pedwar opsiwn fod ymgynghoriad pellach wedi ei
gynnal gan ddilyn proses Adnoddau Dynol ar un opsiwn a nodi’r isod:
Opsiwn dan Ystyriaeth
·
Pob
Canolfan yn parhau’n agored
·
Un
Arweinydd digyswllt ar gyfer yr holl Ganolfannau Iaith, gan allu addysgu yn
unrhyw un o’r Canolfannau Iaith yn ôl yr angen
·
Strwythur
Staffio o Athro a Chymhorthydd Lefel 4 ymhob Canolfan Iaith
·
Darpariaeth
ôl-ofal yn dod yn rhan o ddarpariaeth graidd pob Canolfan Iaith.
Cyflwynwyd crynodeb
o sylwadau’r undebau ar ran y staff y Canolfannau Iaith ar yr opsiwn dan
ystyriaeth gan nodi fod at rai materion addysgol yn cynnwys yr angen i ystyried
trefniadau yn ymwneud a nifer o blant a fyddai’n cael eu haddysgu mewn
dosbarth. Rhoddwyd sylwadau'r Undebau yn ymwneud a rôl a chyfrifoldebau
cyffredinol yr athro a rheolaeth y canolfannau, gan fynegi ystyriaeth taliadau
cyfrifoldeb CAD. Yn ychwanegol a hyn yr angen i ystyried yr heriau posib
ynglŷn â rôl yr Arweinydd i fod yn gyfrifol am ddarpariaeth Gynradd ac
Uwchradd ac unrhyw wahaniaethau oddi mewn y ddau gwricwlwm.
Mynegwyd fod
trafodaethau wedi ei gynnal yn y Pwyllgor Iaith, Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi ac yn y Cyngor Llawn a nodwyd y prif bryderon a oedd yn cynnwys pryder am
golli athrawon arbenigol, effaith cynyddu’r gymhareb athro : disgybl ar ansawdd
yr addysg ynghyd a diffyg tystiolaeth i ddangos na fyddai effaith negyddol ar y
ddarpariaeth. Pwysleisiwyd fod tri chynnig a fyddai’n cyfarch y pryderon:
Nodwyd na fyddai
opsiwn I na II yn cyfarch y diffyg cyllidol yn llawn, ac y byddai angen dod o
hyd i’r diffyg yn flynyddol yn benodol os yn mynd am opsiwn I. Gydag opsiwn II
nodwyd mai arian pontio am gyfnod y byddai ei angen.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Holwyd
sut oedd y gymhareb Athro : Disgybl y Canolfannau Iaith yn cymharu ar gymhareb
mewn ysgolion. Mynegwyd ers y toriadau i’r Grant fod y gymhareb yn uwch mewn
ysgol, a nodwyd fod Estyn wedi nodi fod ysgolion Gwynedd er y gymhareb uwch
wedi cadw safonau dysgu.
-
Pwysleisiwyd
nad Cyngor Gwynedd sydd yn penderfynu torri ar y grant i’r Canolfannau Iaith
ond Llywodraeth Cymru sydd yn torri grantiau. Mynegwyd fod y toriadau yma yn
gwneud i’r Cynghorwyr cwestiynu os yw’r Llywodraeth o ddifri am geisio cael
Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Ychwanegwyd fod angen pwyso ar y Gweinidog Addysg
a'r Gweinidog dros yr Iaith i ddod a’r toriadau i’r grant ysgolion i ben.
Mynegwyd fod yr Adran ac yr Aelod Cabinet wedi bod yn lobio ac yn cael sgyrsiau
cyson a’r Gweinidogion am y mater ond hyn yma dim sôn am unrhyw arian pellach.
Ategwyd ei fod yn dorcalonnus fod y Llywodraeth yn cynnig arian ychwanegol ar
un llaw ac yna yn torri grantiau ar y llaw arall.
-
Pwysleisiwyd
nad yw’r Cabinet yn fodlon cefnogi unrhyw opsiwn sydd yn caniatáu i un o’r
Canolfannau Iaith gael eu cau, gan nodi nad ydynt ,yn ogystal, am i’r lefel
ansawdd ddisgyn.
-
Trafodwyd
ôl-ofal gan nodi fod y gwaith ôl-ofal yn amrywio o’r Cynradd i’r Uwchradd.
Mynegwyd yn yr Uwchradd fod y gwaith ôl-ofal yn rhan o ddarpariaeth graidd y
Ganolfan. Ategwyd fod pryderon wedi codi am y diffyg cyswllt ôl-ofal gyda’r
disgyblion o fewn y Canolfannau Cynradd.
-
Trafodwyd
Canolfan Iaith newydd ym Mangor gan nodi fod arian wedi ei gymeradwyo ar gyfer
cais cyfalaf i adeiladu Canolfan newydd ond nid oes arian refeniw er mwyn ei
gyllido ar gyfer y dyfodol. Ychwanegwyd fod y cais am ganolfan newydd yn
pwysleisio ymrwymiad y Cyngor i’r Canolfannau Iaith.
-
Holwyd
pam nad oedd yr adran wedi adolygu’r ddarpariaeth ynghynt. Mynegwyd mai’r prif
reswm oedd llwyddiant o ran safonau a bod y plant yn rhugl ond nodwyd ei bod
wedi dod i’r amlwg y buasai wedi bod yn synhwyrol i’r adran fod wedi edrych ar
y Canolfannau Iaith ar hyd y blynyddoedd.
-
Holwyd
pam fod athrawon yn y Canolfanau Iaith yn cael lwfans CAD yn ychwanegol i’w
cyflogau, mynegwyd fod hyn oherwydd ei fod yn ychwanegiad hanesyddol ac
ychwanegwyd efallai fod angen edrych ar y mater hwn ymhellach.
-
Trafodwyd
Opsiwn II gan holi sut y bydda’i adran yn monitro’r effaith. Nodwyd y byddai
angen monitro‘r Canolfannau fel ysgolion ac yn cael ei drafod yn y cyfarfodydd
Herio Perfformiad y Cabinet a fydd yn cael ei drafod yn y Cabinet. Ychwanegwyd
ar hyn o bryd nad oes trefn monitro perfformiad pendant yn ei le.
-
Trafodwyd
opsiwn III gan fynegi fod angen ei ddiystyru er mai hwn yw’r unig opsiwn sydd
yn cyfarch y bwlch ariannol. Mynegwyd nad oedd yn ddoeth i newid y gymhareb
Athro : Disgybl heb gynllun peilot yn gyntaf.
-
Holwyd
penderfynu mynd am gynllun peilot faint o arian a fyddai ei angen er mwyn
pontio’r bwlch cyllidebol. Mynegwyd y byddai modd i’r Cyngor ddod o hyd i arian
er mwyn pontio'r bwlch dros dro ond bydd angen bod yn gwbl glir beth fydd ei
strwythur.
-
Mynegwyd
y byddai modd defnyddio rhai elfennau o opsiwn I yn benodol diddymu’r swydd
ôl-ofal gan ymgorffori’r ôl-ofal yn rhan o’r ddarpariaeth graidd y Canolfannau
Iaith ac i ddiddymu lwfans CAD I bob Athro. Amcangyfrifwyd y byddai hyn yn
arbediad o ryw £45,000 y flwyddyn.
-
Trafodwyd
cyfuno rhai elfennau Opsiwn I ac II, gan nodi os angen cynllun peilot y bydd
angen mesur am gyfnod o flwyddyn ac yna asesu effaith cymhareb athro : disgybl
ac os yw yn cael effaith ar ansawdd yr addysg a chyrhaeddiad y plant.
Awdur:Garem Jackson
Dogfennau ategol: