Agenda item

Creu maes parcio newydd gan gynnwys gwaith draenio, gwaith tyrchio, arwyddion ynghyd a golau stryd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Creu maes parcio newydd gan gynnwys gwaith draenio, gwaith tyrchio, arwyddion ynghyd â       golau stryd

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, ar gyfer creu maes parcio newydd, gan gynnwys gwaith cysylltiedig, ar lain wag presennol ar Barc Bryn Cegin, Llandygai (Llain 1). Bwriad y cynllun yw darparu cyfleusterau Parcio a Rhannu fel rhan o gynllun ehangach i osod cyfleusterau mewn lleoliadau strategol ar draws gogledd Cymru i liniaru’r effeithiau trafnidiaeth tebygol yn ystod cyfnod adeiladu gorsaf bŵer Wylfa Newydd.  Bydd y safle’n darparu llefydd parcio i thua 178 car gyda 12 man parcio ar gyfer yr anabl,  11 man gwefru ceir trydan, mannau cadw beiciau a beiciau modur ac arosfan bysiau.

 

Adroddwyd y byddai’r cyfleuster yn 0.955ha o arwynebedd wedi’i leoli ar Safle Busnes Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin oddeutu 1km i’r de o ffin ddatblygu Canolfan Is Ranbarthol Bangor fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLL). Ategwyd ei fod yn rhan o safle sydd wedi ei warchod fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol.  Gwarchodir Parc Bryn Cegin fel Safle Busnes Strategol Rhanbarth ar gyfer busnesau yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 & B8 gan bolisi CYF 1 y CDLL. Dengys bod cyfiawnhad gorbwysol ar gyfer y datblygiad ac oherwydd pwysigrwydd strategol y cynllun a’r manteision trafnidiaeth ac economaidd a ddeilliai ohono, bod cyfiawnhad cryf dros orbwyso’r dynodiad yn yr achos penodol hwn.

 

Amlygwyd bod dau bolisi penodol o fewn y CDLL oedd yn berthnasol i’r cynnig hwn - polisi strategol PS 12 (Wylfa Newydd - cyfleusterau parcio a theithio a pharcio a rhannu) a PS 9

(Wylfa Newydd a Datblygiad Perthynol).

 

Adroddwyd bod tri eiddo preswyl Rhos Isaf yn cefnu ar y safle ac y byddai’r datblygiad i’w weld o gefnau’r eiddo hynny. Er hynny, byddai’r safle parcio ar lefel is na’r tai presennol a bwriad i osod sgrin goed newydd rhwng y lleoliadau. O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, ategwyd y byddai’r ardal parcio yn llai newidiol na defnydd diwydiannol.

 

Nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth nac Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun o safbwynt ei effaith ar drafnidiaeth.

 

Amlygwyd sylwadau hwyr a dderbynwyd gan Wasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ac yr ystyrir fod y bwriad yn cwrdd gyda pholisïau perthnasol gyn belled fod amod priodol yn cael ei osod ar unrhyw ganiatâd.

 

O ganlyniad i’r asesiadau, ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y safle ac yn debygol o fod o bwysigrwydd strategol i’r sir.  Ategwyd na ystyriwyd fod y bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau a gyflwynwyd gan yr Aelod Lleol yn nodi nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais; ei fod yn croesawu'r fenter rhannu ceir a bod angen ar y cyfleuster yn lleol; nad oedd diddordeb wedi ei ddangos i’r safle ar gyfer defnydd diwydiannol.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Nad oedd sicrwydd o ddatblygiad Wylfa Newydd - bod hyn yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl.

·         Beth fydd effaith hir dymor colli safle sydd wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd diwydiannol? A fydd hyn yn rhwystr i ddatblygwyr eraill?

·         Bod diddordeb lleol yn y mater - dylai’r cais fod wedi ei drafod yng Nghaernarfon a chael ei we ddarlledu

·         Bod angen ar y bwriad yn lleol

·         Angen cadarnhau pryd fydd y maes parcio ar gael i’r gymuned leol gan mai lliniaru trafnidiaeth i Wylfa Newydd  oedd prif fwriad y cais

·         Angen sicrwydd bod sylwadau Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd yn cael eu hystyried a’r amod yn cael ei chynnwys

 

(ch)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynllun diogelwch y safle gan ystyried ei fod wedi ei leoli mewn ardal agored ac anghysbell, ac os oedd Teledu Cylch Cyfyng yn rhan o’r cynllun hwnnw, nododd y swyddogion nad oedd gwybodaeth ganddynt ar y mater ond y buasent yn cysylltu gyda’r ymgeisydd i holi am wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

Amodau:

            1.         Amser

            2.         Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

            3.         Rhaid cyflwyno cynllun draenio cyn dechrau’r datblygiad

            4.         Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad amgylcheddol

            5.         Rhaid gweithredu’r tirlunio yn y tymor plannu nesaf ar ôl cwblhau’r datblygiad ac   mae’n rhaid ei gynnal wedi hynny

            6.         rhaglen waith archeolegol addas

 

Dogfennau ategol: