skip to main content

Agenda item

Adeiladu cwt glan mor newydd heb gydymffurfio ac amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0537/39/L dyddiedig 3 Gorffennaf 2015

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts

 

Dolen i'r  dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Adeiladu cwt glan môr newydd heb gydymffurfio ac amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0537/39/L dyddiedig 3 Gorffennaf 2015

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i gadw gwaith o ddymchwel y cwt glan môr gwreiddiol ac adeiladu cwt glan môr newydd yn ei le heb gydymffurfio â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar y 3 Gorffennaf 2015.

 

Saif y cwt ymysg rhes o gytiau glan y môr eraill ar draeth Borth Fawr yn Abersoch ar safle arfordirol o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn (AHNE), ger Arfordir Treftadaeth ac o fewn dynodiad Ardal Rheoli Newid Arfordirol.

 

          Nodwyd bod y cais yn ymwneud â chadw cwt glan môr sydd yn fwy na’r hyn a ganiatawyd  ac yn sylweddol fwy na’r hyn oedd yn bodoli ar y safle yn wreiddiol. Ategwyd bod llwyfan pren yn ymestyn allan 4.9 medr i flaen y cwt, gyda lle storio caeedig oddi tano. Tra bod y cwt a ganiatawyd yn wreiddiol yn ymestyn i’r un uchder a’r cytiau cyfochrog, nodwyd bod crib to'r cwt a adeiladwyd yn mesur 0.9 medr yn uwch na’r cytiau naill ochr a’r llall. Amlygwyd bod drws dur o fath ‘roller shutter’ wedi ei osod ar y blaen yn rhoi ymddangosiad diwydiannol i’r cwt ac oherwydd ei faint a’r cyfuniad o’i ddyluniad a gorffeniad allanol, ymdebygir y cwt i adeilad diwydiannol yn hytrach na chwt glan môr traddodiadol.

 

          Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn AHNE ystyriwyd polisi AMG 1. Gan fod y cwt yn cymryd lle un blaenorol, ac ymysg rhes o gytiau tebyg, ni ystyriwyd y byddai egwyddor cyfnewid cwt glan mor yn effeithio’n sylweddol ar osodiad na golygfeydd arwyddocaol i mewn i’r AHNE. Serch hynny, nodwyd bod Swyddog AHNE yn pryderu nad yw’r cwt yn unol â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Nid yw’r defnydd o ddrws ‘roller shutterynddo’i hun yn rheswm digonol i gyfiawnhau gwrthod y cais presennol, a gellid gosod amod yn gorfodi i’r llwyfan pren gael ei orchuddio gyda phren pe bai angen. Er hynny, gyda’r ymdeimlad o naws diwydiannol i edrychiad a gorffeniad presennol yr adeilad ystyriwyd  bod y datblygiad yn ei ffurf bresennol yn groes i bolisi AMG 1 ac egwyddorion polisi PS 19 CDLL.

 

          Amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd ac nad oedd bwriad ganddo i gyfaddawdu.

 

          Wedi asesu’r bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol, ac ystyried yr ymatebion a’r sylwadau a gyflwynwyd, ystyriwyd bod y cwt glan môr a adeiladwyd yn annerbyniol o ran maint, crynswth a dyluniad; yn anghymesur â chymeriad ac edrychiad traddodiadol cytiau glan môr, gyda dyluniad yn debycach i adeilad diwydiannol. Nodwyd os caniateir gadael i gytiau glan môr mwy a mwy cael eu datblygu, bydd eu heffaith yn difetha naws a chymeriad ardal glan môr Abersoch, a’r AHNE sydd yn ddynodiad o bwysigrwydd cenedlaethol. 

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y dyluniad wedi ei gymeradwyo.

·         Nad oedd yn niweidiol i’r ardal; roedd yn ychwanegu amrywiaeth a chymeriad at y rhes o gytiau glan y môr.

·         Nad oedd yr addasiadau yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau newid

·         Mai prif addasiad yw dyfnder y cwt sydd yn creu effaith weledol isel

·         Nad oedd yr AHNE yn gwrthwynebu uchder a dyfnder y cwt

·         Bod y cladio yn fodern ac yn gyffredinol – yr ymgeisydd yn barod i newid y lliw

·         Nad oedd un wythnos o rybudd ar gyfer cyfarfod yn ddigonol

·         Ei fod yn cynnig i ohirio'r penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio y cais er mwyn cynnal trafodaethau pellach

 

(ch)   Mewn ymateb nododd y Rheolwr Cynllunio bod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal a bod yr asiant wedi cadarnhau nad oedd bwriad gan yr ymgeisydd i gyfaddawdu

 

(d)     Tynnwyd y cynnig yn ôl a chynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

(dd)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod amodau wedi eu gosod am resymau penodol

·         Bod rhaid ymateb yn bendant a chryf i dor amod

·         Byddai caniatáu yn debygol o osod cynsail i unrhyw un addasu uchder

 

(e)     Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyflwyno y cais i bwyllgor gan fod mwy na tri                           gwrthwynebiad wedi ei dderbyn, nodwyd bod y cais wedi ei gyflwyno cyn mabwysiadau               newidiadau i’r Cynllun Dirprwyo.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

          Rheswm: Maint, uchder, crynswth a dyluniad diwydiannol y datblygiad yn cael effaith niweidiol annerbyniol ar fwynderau gweledol a chymeriad yr AHNE yn groes i bolisïau PCYFF 3, PS 19 a AMG 1 Cyn llun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2026.

 

Dogfennau ategol: