skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Cofnod:

Tywysodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Mewn ymateb i argymhellion Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, yn eu hadroddiad ar drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd a chydymffurfiaeth â’r Côd Diogelwch Morol, byddai Cabinet y Cyngor yn cael eu penodi’nDdeilydd Dyletswydd’ a Chapten M. Forbes (Harbwr Feistr Conwy) ynBerson Dynodedig’.

·         Bod archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau i fod i ail-ymweld â’r gwasanaeth a rhoi cyflwyniad i’r Pwyllgor ynghylch y Côd Diogelwch Morol. Fodd bynnag, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, gohiriwyd yr ymweliad tan fis Mawrth 2019 i gyd-fynd â chyfarfod y Pwyllgor hwn.

·         Daeth cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd Harbwr Porthmadog (tymhorol) i ben 30 Medi 2018. I sicrhau cymorth gyda gwaith yr harbwr, ymestynnwyd y cyfnod cyflogaeth ar drefniant tri diwrnod yr wythnos, mis ar y tro.

·         Yn ddibynnol ar gyfyngiadau ariannol a chyllidebol, bod y gwasanaeth yn chwilio am bosibilrwydd cyflogi cymhorthydd harbwr llawn amser i weithio yn harbyrau Porthmadog, Aberdyfi ac Abermaw. Byddai swydd cymhorthydd harbwr ym Mhorthmadog fel arall yn dychwelyd i weithio'n llawn amser ar 1 Ebrill 2019.

·         Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r harbwr a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd y chwarter.

·         O safbwynt ffioedd a thaliadau arfaethedig Harbwr Porthmadog yn ogystal â ffioedd lansio Badau Dŵr Personol yn 2019/20, bwriad y gwasanaeth oedd addasu'r ffioedd yn unol â'r gyfradd chwyddiant. Disgwylir am gadarnhad o’r cyfraddau oedd i’w defnyddio.

 

Cyflwynodd Harbwr Feistr Porthmadog adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o'r materion mordwyo a gweithredol a gododd yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Medi 2018, gan gynnwys materion cynnal a chadw a digwyddiadau yn ystod y cyfnod. Diolchodd i Gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub a chriw Bad Achub Cricieth am eu cymorth wrth ymdrin â suddiad y cwch catamaran ‘Jessica’s Day’ yn yr Harbwr gyda’r nos ar 23 Gorffennaf.

 

Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod Bad Achub Cricieth wedi ymateb i 3 galwad yng nghyswllt unigolion mewn trafferth ar Fanc y Gogledd ar draeth Y Graig Ddu, gan achub bywyd 10 unigolyn. Pwysleisiodd pwysigrwydd bod yr arwyddion diogelwch newydd yn cael eu gosod mor fuan â phosib. Cyfeiriodd at y bwriad i dynnu rhai o’r arwyddion yn ystod misoedd y gaeaf er lleihau difrod gan y tywydd garw, gan nodi ei bryder. Nododd nad oedd y risg yn lleihau yn ystod y gaeaf gyda digwyddiadau yn bosib yn ystod y cyfnod.

 

Nododd aelod y dylid gweithredu yn unol â chyfarwyddyd Sefydliad y Bad Achub. Mewn ymateb, nododd Harbwr Feistr Porthmadog y byddai’r arwyddion diogelwch yn cael eu gosod yn unol â’r hyn a gytunwyd mewn ymgynghoriad â Sefydliad y Bad Achub.

 

Nododd aelod bod y gwaith a wnaed fel rhan o’r Cynllun Lliniaru Llifogydd ym Morth-y-gest wedi bod yn destun trafod. Ymhelaethodd bod y wal a godwyd yn angenrheidiol er mwyn gwarchod tai rhag llifogydd yn y dyfodol. Nododd bod pryder yn lleol o ran y meinciau coffa ac y byddai’r nifer yn cynyddu, ond ei fod wedi derbyn cadarnhad gan y gwasanaeth na fyddai rhagor o feinciau gyda’r rhai mewn cyflwr da yn cael eu hail-osod mewn lleoliadau addas. Diolchodd am waith y gwasanaeth a gwaith swyddogion Ymgynghoriaeth Gwynedd o ran y Cynllun Lliniaru Llifogydd a’u parodrwydd i drafod pryderon lleol.

 

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned y byddai’n trosglwyddo diolchiadau’r aelod i swyddogion Ymgynghoriaeth Gwynedd.

 

Cyfeiriwyd at gais gan Glwb Hwylio Porthmadog i gynrychiolydd o’r sefydliad gael ei gyfethol ar y Pwyllgor Ymgynghorol. Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden nad oedd cynrychiolwyr Clwb Hwylio Porthmadog wedi cysylltu gydag ef er mwyn iddo godi materion yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol nac ychwaith wedi holi am yr hyn a drafodir yn y cyfarfodydd. Ychwanegodd bod gan unrhyw un berffaith hawl i fynychu cyfarfod y Pwyllgor gan fod y cyfarfodydd yn gyhoeddus.

 

Nododd aelod bod cyfle i unigolion fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor i wrando ar y drafodaeth.

           

Cadarnhaodd Harbwr Feistr Porthmadog bod y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig wedi ymateb i lythyr gan Gyngor Tref Porthmadog yng nghyswllt meinciau heb gefn yn nodi y byddai’r polion yn mynd yn eu hôl. Nododd y derbyniwyd cais gan unigolyn i osod stondin symudol er mwyn gwerthu te a bwyd ar y glaswellt yn Mhencei. Holwyd am farn yr aelodau ar y cais.

 

Nododd aelod ei fod yn gefnogol i’r cais ar gyfer consesiwn o’r fath a hynny ar yr un telerau a’r consesiwn hufen oedd eisoes ar dir yr harbwr.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned er mwyn derbyn hawl ar gyfer consesiwn o’r fath, byddai’n rhaid mynd trwy broses cystadleuol. Nododd y gallai’r Pwyllgor, pe dymunent, nodi eu barn ar yr egwyddor a fyddai’n cael ei fwydo i mewn i’r broses.

 

Nodwyd cefnogaeth y Pwyllgor i’r cais mewn egwyddor a gofynnwyd i’r swyddogion edrych i mewn i’r mater.

 

Derbyniwyd diweddariad gan Gynrychiolydd Buddiannau Hamdden ar Gynllun Clwb Hwylio Madog i gynyddu nifer y pontŵns yn yr harbwr. Nododd yn dilyn cais y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn y cyfarfod diwethaf i dderbyn mwy o wybodaeth, darparwyd llythyr ganIntermarine’. Ymhelaethodd ar gynnwys y llythyr a dangosodd gynllun o’r bwriad. Holwyd am farn y Pwyllgor ar y bwriad.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau, nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden:

·         Byddai’r bwriad yn golygu 7 angorfa ychwanegol gydag angorfeydd rhydd yn cael eu hail-leoli;

·         Byddai’r Cyngor yn derbyn arian Tollau’r Harbwr a chanran o ffioedd ymwelwyr a gesglir gan Glwb Hwylio Madog;

·         Bod y sefyllfa yn yr harbwr yn wahanol i sefyllfa Harbwr Caergybi ac fe wneir gwaith cynnal a chadw;

·         Pe derbynnir caniatâd gan y Cyngor yn fuan, bwriedir bod y gwaith ynghlwm â’r cynllun wedi ei gwblhau erbyn dechrau’r tymor;

·         O ran pryderon pysgotwyr yng nghyswllt effaith y bwriad ar eu symudiad allan tuag at Gei’r Wyddfa, byddai’r pontŵns dipyn o bellter i ffwrdd o’r gwaddod a oedd wedi casglu;

·         Byddai’rlateralsyn cael eu claddu, gyda 2 un ochr a 4 ar yr ochr arall;

·         Ei fod yn deg i Glwb Hwylio Madog dalu’r costau pe byddai angen symud cadwyni a.y.b. yn yr harbwr er mwyn galluogi i’r cynllun gael ei wireddu;

·         Byddai un angorfa ar gael am ddim i gwch y Dwyfor;

·         Byddai digon o le i lansio’r bad achub bach ar y llithrfa.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod angen dadansoddi a gwirio’r data technegol a gyflwynwyd yn y llythyr ganIntermarine’ o ran cryfder ac addasrwydd y strwythur.

 

Nododd aelod nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r bwriad pe byddai nifer yr angorfeydd yn yr harbwr yn aros yr un fath.                                                                                                                                                                                                                       

Nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau bod angen ystyried effaith y newidiadau ar ddefnyddwyr eraill.

 

Nodwyd cefnogaeth y Pwyllgor i gynllun Clwb Hwylio Madog mewn egwyddor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt gwaith gwella'r rheiliau rhwng yr Amgueddfa Forwrol a chefn y Ganolfan a’r bwriad i osod giât, cadarnhaodd Harbwr Feistr Porthmadog bod trafodaethau wedi eu cynnal efo’r Ganolfan a bod materion wedi codi o’r trafodaethau.

 

Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden yr angen i sicrhau nad oedd cerbydau yn parcio o flaen y giât oherwydd yr angen am fynediad brys. Mewn ymateb, cadarnhaodd Harbwr Feistr Porthmadog ni chaniateir parcio o flaen y giât.

 

Cyfeiriodd aelod at lwyddiant digwyddiad Hwyl yr Harbwr a oedd yn ffrwyth gwaith sylweddol. Nododd ei diolchiadau i’r Harbwr Feistr a’r tîm gan nodi y gobeithir cynnal mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol.

                                                           

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: