skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Harbwr Pwllheli.

Cofnod:

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod wedi bod yn absennol o’r gwaith am gyfnod o 5 wythnos oherwydd anaf, a’i fod wedi dychwelyd i’r gwaith diwrnod cyn y cyfarfod. Eglurodd mai Rheolwr yr Hafan oedd wedi llunio’r adroddiad a’i fod yn ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd ymrwymiad personol. Nododd bod Dirprwy Reolwr Hafan Pwllheli yn bresennol i ymateb i ymholiadau.

 

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Yn dilyn adolygiad blwyddyn ddiwethaf gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, byddai’r arolygwyr yn ail-ymweld â'r Cyngor yng ngwanwyn 2019. Cynigir adolygiad dilynol ar ddyddiad pan gynhelir cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog lle byddai pob aelod o Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Gwynedd yn cael eu gwahodd i dderbyn cyflwyniad gan yr arolygwyr ar faterion yn ymwneud â'r Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd.

·         Bod yr archwilwyr wedi nodi sylw bod diffyg lled yn sianel fordwyo'r harbwr. Byddai gwelliannau yn cael eu gwneud o fewn yr adnoddau.

·         Yr angen i adolygu lleoliad y cymhorthion mordwyo oedd wrth y morglawdd er mwyn adnabod y lleoliad mwyaf addas.

·         O ran materion staffio, yn dilyn adolygiad o staff yn yr Hafan gwnaed newidiadau i oriau rhai swyddi i gyd-fynd â thelerau gwaith. O ganlyniad, nid oedd staff yn bresennol ar ddechrau’r diwrnod nac ychwaith diwedd y dydd. Ni dderbyniwyd cwynion hyd yn hyn.

·         Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r Harbwr a’r Hafan a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd yr ail chwarter. Roedd yr hyn a amcangyfrif fel sefyllfa derfynol cyllideb yr Hafan, o ystyried y targedau incwm, yn bositif ac roedd y swyddog yn ffyddiog y byddent yn unol â’r hyn a nodwyd.

·         O safbwynt ffioedd a thaliadau arfaethedig yr Harbwr a’r Hafan yn 2019/20, bwriad y gwasanaeth oedd addasu'r ffioedd yn unol â'r gyfradd chwyddiant. Disgwylir am gadarnhad o’r cyfraddau oedd i’w defnyddio. Nodwyd y cynhelir adolygiad manylach o’r ffioedd yn ystod 2019 gan ystyried cynnig cyfnodau llai na blwyddyn megis 3, 6 neu 9 mis. Bydd unrhyw newid yn y drefn gyfredol yn unol ac asesiad risg ariannol.

·         Ei fod yn siomedig bod niferoedd deiliaid angorfeydd yn lleihau yn yr Harbwr a’r Hafan ond ei fod yn unol â’r tuedd yn yr holl harbyrau. Nododd ei fod yn ffyddiog y byddai’r niferoedd yn cynyddu o ganlyniad i’r buddsoddiad a wneir yn y gwaith carthu.

·         Bod nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol wedi eu denu a’u cynnal ym Mhwllheli gan Plas Heli Cyf. Llongyfarchodd Plas Heli Cyf gan nodi bod staff y gwasanaeth yn cydweithio efo’r cwmni er budd y gymuned.

 

Tynnodd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch sylw nad oedd llawer o wahaniaeth yng nghyfanswm y tanwydd a werthwyd yn yr Hafan yn y flwyddyn ariannol gyfredol o ystyried y tywydd. Ymhelaethodd mai dim ond drwy gerdyn y gellir talu am danwydd yn yr Hafan a ddim efo arian parod, dylid edrych i mewn i’r posibilrwydd o gyflwyno peiriannau hunanwasanaeth.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod trefniadau ar y gweill i osod cyfleuster hunanwasanaeth ar gyfer pwmp tanwydd petrol i Gei Petrol yr Hafan. Byddai’r pwmp tanwydd Disel yn parhau fel gwasanaeth gan weinydd yn unig am y tro oherwydd y gofyniad deddfwriaethol ar gwsmeriaid i lenwi datganiad wrth brynu disel coch.

 

Rhannodd gynrychiolydd Plas Heli ddogfen a oedd yn dangos Grwyn y Crud yn ei ffurf wreiddiol. Nododd yr angen i’w ymestyn yn sylweddol er mwyn arall gyfeirio deunydd i draeth Abererch. Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod gwaith i atgyweirio Grwyn y Crud wedi ei gynnwys yn y Strategaeth Garthu. Eglurodd y byddai’n rhaid gwneud gwaith modelu amgylcheddol pe bwriedir ei ymestyn ac oherwydd yr amser a’r gost a fyddai’n ynghlwm a hyn, fe wneir y gwaith atgyweirio angenrheidiol.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol bod y sianel yn fas ac yn llawer mwy cul o gymharu â’i ffurf yn wreiddiol. Ychwanegodd ei fod yn anodd mynd a chychod i mewn ac allan ger ei fusnes yn enwedig pan fo’r llanw yn mynd ar draws.

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd golau ar bostyn tiwb sgaffald yng ngheg yr harbwr, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bwriedir gwneud cais i Dŷ’r Drindod i ddiddymu’r marc.

 

Holodd aelod pryd byddai’r Gwasanaeth yn cael cadw cyfran o’r gyllideb yn hytrach na’i drosglwyddo i gyllidebau canolog y Cyngor, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn y flwyddyn ariannol nesaf byddai lleihad yn nharged incwm yr Hafan ond mai dros dro yn unig oedd hyn.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch ei fod ar ddeall bod amod mewn lle mai ond pan roedd yr Hafan yn llawn neu pan gynhelir digwyddiadau ym Mhlas Heli y byddai’r pontwns ym Mhlas Heli yn cael eu defnyddio. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr angen yn ddelfrydol i gefnogi gweithgareddau yn yr harbwr yn ei gyfanrwydd.

 

Nododd y cynrychiolydd ei fod yn gefnogol i Plas Heli ond nid ar draul trethdalwyr lleol. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod gofyn i Plas Heli Cyf gyflwyno ffioedd arfaethedig i’r Cyngor. Nododd bod Plas Heli yn ymestyn yr ystod o gyfleusterau ar gael ym Mhwllheli, ni ellir cymharu pontwns Plas Heli a’r angorfeydd a chyfleusterau a oedd yn yr Hafan.

 

Mewn ymateb i sylw gan y cynrychiolydd o ran defnydd o dir y Cyngor ar gyfer carafanau a chodi tal am barcio yn y maes parcio pan fo digwyddiad ymlaen ym Mhlas Heli, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod digwyddiadau yn dod a budd economaidd i’r ardal a bod angen darpariaeth llety ar gyfer y digwyddiadau. Eglurodd bod trefniadau achlysurol rhwng y Cyngor a Phlas Heli Cyf o ran defnydd o’r tir dan sylw fel safle carafanau pan gynhelir digwyddiad. Nododd bod y maes parcio o dan reolaeth Plas Heli Cyf a’i fod yn briodol iddynt godi tâl am barcio.

 

Nododd cynrychiolydd Plas Heli ei fod wedi bod yn dymor eithaf da o ran Plas Heli gydag amryw o ddigwyddiadau. Eglurodd bod Plas Heli yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr a bod gan Plas Heli Cyf drosiant o oddeutu £0.5m y flwyddyn. Nododd bod Plas Heli yn bwysig i Bwllheli gan ei fod yn denu nifer fawr o ymwelwyr a chystadleuwyr gan ddod a budd i’r economi leol.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch ei fod yn croesawu bod ymwelwyr yn cael eu denu i’r ardal gan Plas Heli ond ei fod yn bwysig bod y cwmni yn sefyll ar ei draed ei hun. Cyfeiriodd at wybodaeth a dderbyniodd gan y Cyngor o dan gais rhyddid gwybodaeth o’r nifer o grantiau roedd Plas Heli Cyf wedi eu derbyn. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod y grantiau yn gyfraniadau ar gyfer cynnal digwyddiadau a bod un cynllun yng Nghynllun Strategol y Cyngor yn benodol ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr yn y Sir.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch bod cychod pysgota ar pontwns Plas Heli lle na ddylent fod a’r angen i edrych ar ostyngiad i ffioedd yr harbwr allanol ar gyfer pobl leol er mwyn sicrhau defnydd o’r angorfeydd. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n trafod y mater o ran y cychod pysgota efo Plas Heli Cyf ac fe ellir ystyried gostyngiad posib ar ffioedd yr harbwr allanol i bobl leol fel rhan o’r adolygiad ffioedd yn 2019/20.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: