Yn unol
â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan
Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
Yn
ôl y Cyfrifiad yn 2011, roedd 3,724 o breswylwyr Gwynedd (neu 3.1% o’r
boblogaeth) wedi cael eu geni tu allan i’r DU. Mewn rhai ardaloedd ym Mangor,
cododd hyn i 20.9% o’r boblogaeth.
Mae
ychydig o dan 30,000 o bobl yn cael eu cadw’n gaeth yn y DU bob blwyddyn dan
gyfreithiau mewnfudo; gydag oddeutu 3,000 wedi’u cadw’n gaeth ar unrhyw adeg.
Y
DU yw’r unig wlad yng Ngorllewin Ewrop sy’n cadw unigolion yn gaeth am gyfnod
amhenodol dan bwerau mewnfudo.
Ar
gyfartaledd, mae’n costio mwy na £31,000 i gadw person yn gaeth am flwyddyn.
Roedd cyfanswm y gost flynyddol yn £164.4 miliwn yn 2013/14. Rhwng 2011-2014,
gwariodd y llywodraeth £13.8 miliwn ar iawndal i bobl a gadwyd yn gaeth yn
anghyfreithlon.
Ar
hyn o bryd, ceir 10 canolfan gadw yn y DU, sy’n cynnwys cyfleusterau cadw pobl
yn gaeth am dymor byr.
Bydd
dros 50% o’r rheiny a gedwir yn gaeth mewn canolfan
gadw mewnfudo yn cael eu rhyddhau i’r gymuned yn y DU.
Mae
mewnfudwyr yn cael eu cadw’n gaeth er dibenion gweinyddol.
2016
Fel rhan o Adolygiad Shaw, cynhaliodd yr Athro Mary Bosworth
adolygiad systematig o astudiaethau oedd yn ymchwilio i’r effaith ar iechyd
meddwl y bobl a gadwyd yn gaeth. Dangosodd yr astudiaethau mai 30 diwrnod oedd
y trobwynt o ran effaith negyddol ar iechyd meddwl.
Gorffennaf
2018 Paratôdd Stephen Shaw ei Asesiad o gamau gweithredu’r llywodraeth yn dilyn
ei Adroddiad yn 2016. Ynddo, mae’n pwysleisio’r angen brys i ddiwygio’r modd y cedwir pobl yn gaeth.
Mae’r Cyngor hwn
yn nodi ymhellach:
Mawrth
2015 Argymhellodd ymchwiliad ar y cyd gan y GSTB ar Ffoaduriaid a’r GSTB ar
Fewnfudo i’r defnydd o Gadw Mewnfudwyr yn Gaeth yn y DU (yr ymchwiliad seneddol
cyntaf erioed i’r defnydd o gadw mewnfudwyr yn gaeth yn y DU) fod y llywodraeth
yn cyflwyno uchafswm terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer yr amser y gellir cadw
unrhyw fewnfudwr yn gaeth.
Mawrth
2016 Pleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno
terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer cadw mewnfudwyr yn gaeth ond nid oedd hyn yn
cynnwys pobl gyda dedfryd o garchar o 12 mis neu fwy.
2016-2017
Mae Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Carchardai EM 2017 yn datgan "bod
angen brys o hyd am uchafswm terfyn amser ar gyfer cadw mewnfudwyr yn
gaeth"
Mae’r Cyngor hwn
yn credu:
Y
dylai llywodraeth San Steffan ddod â’r arfer o gadw mewnfudwyr, ceiswyr lloches
a ffoaduriaid yn gaeth am gyfnod amhenodol i ben.
Y
dylid cyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer cadw pobl yn gaeth dan bwerau
mewnfudo.
Bod
yr angen am Ddeddf Mewnfudo newydd fel rhan o weithdrefnau Brexit
yn rhoi’r cyfle i gyflwyno terfyn amser.
Mae’r Cyngor hwn
yn penderfynu:
Ysgrifennu
at y Swyddfa Gartref yn nodi ein bod ni, fel Cyngor Gwynedd, yn dymuno gweld
diwedd ar fewnfudwyr yn cael eu cadw am gyfnodau amhenodol dan bwerau mewnfudo,
ac yn gofyn i derfyn amser o 28 diwrnod gael ei gyflwyno fel rhan o’r Ddeddf
Mewnfudo newydd.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o
dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
Yn
ôl y Cyfrifiad yn 2011, roedd 3,724 o breswylwyr Gwynedd (neu 3.1% o’r
boblogaeth) wedi cael eu geni tu allan i’r DU. Mewn rhai ardaloedd ym Mangor,
cododd hyn i 20.9% o’r boblogaeth.
Mae
ychydig o dan 30,000 o bobl yn cael eu cadw’n gaeth yn y DU bob blwyddyn dan
gyfreithiau mewnfudo; gydag oddeutu 3,000 wedi’u cadw’n gaeth ar unrhyw adeg.
Y DU
yw’r unig wlad yng Ngorllewin Ewrop sy’n cadw unigolion yn gaeth am gyfnod
amhenodol dan bwerau mewnfudo.
Ar
gyfartaledd, mae’n costio mwy na £31,000 i gadw person yn gaeth am flwyddyn.
Roedd cyfanswm y gost flynyddol yn £164.4 miliwn yn 2013/14. Rhwng 2011-2014,
gwariodd y llywodraeth £13.8 miliwn ar iawndal i bobl a gadwyd yn gaeth yn
anghyfreithlon.
Ar
hyn o bryd, ceir 10 canolfan gadw yn y DU, sy’n cynnwys cyfleusterau cadw pobl
yn gaeth am dymor byr.
Bydd
dros 50% o’r rheiny a gedwir yn gaeth mewn canolfan gadw mewnfudo yn cael eu
rhyddhau i’r gymuned yn y DU.
Mae mewnfudwyr yn cael eu cadw’n gaeth er dibenion
gweinyddol.
2016
Fel rhan o Adolygiad Shaw, cynhaliodd yr Athro Mary Bosworth adolygiad
systematig o astudiaethau oedd yn ymchwilio i’r effaith ar iechyd meddwl y bobl
a gadwyd yn gaeth. Dangosodd yr astudiaethau mai 30 diwrnod oedd y trobwynt o
ran effaith negyddol ar iechyd meddwl.
Gorffennaf 2018 - Paratôdd Stephen Shaw ei Asesiad
o gamau gweithredu’r llywodraeth yn dilyn ei Adroddiad yn 2016. Ynddo, mae’n
pwysleisio’r angen brys i ddiwygio’r modd y cedwir pobl yn gaeth.
Mae’r Cyngor hwn yn nodi
ymhellach:
Mawrth 2015 - Argymhellodd ymchwiliad ar y cyd gan
y GSTB ar Ffoaduriaid a’r GSTB ar Fewnfudo i’r defnydd o Gadw Mewnfudwyr yn
Gaeth yn y DU (yr ymchwiliad seneddol cyntaf erioed i’r defnydd o gadw
mewnfudwyr yn gaeth yn y DU) fod y llywodraeth yn cyflwyno uchafswm terfyn
amser o 28 diwrnod ar gyfer yr amser y gellir cadw unrhyw fewnfudwr yn gaeth.
Mawrth 2016
- Pleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod
ar gyfer cadw mewnfudwyr yn gaeth ond nid oedd hyn yn cynnwys pobl gyda dedfryd
o garchar o 12 mis neu fwy.
2016-2017 -
Mae Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Carchardai EM 2017 yn datgan
"bod angen brys o hyd am uchafswm terfyn amser ar gyfer cadw mewnfudwyr yn
gaeth"
Mae’r Cyngor hwn yn credu:
Y dylai llywodraeth San Steffan ddod â’r arfer o
gadw mewnfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gaeth am gyfnod amhenodol i
ben.
Y dylid cyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer
cadw pobl yn gaeth dan bwerau mewnfudo.
Bod yr angen am Ddeddf Mewnfudo newydd fel rhan o
weithdrefnau Brexit yn rhoi’r cyfle i gyflwyno terfyn amser.
Mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:
· Ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn nodi ein bod ni, fel
Cyngor Gwynedd, yn dymuno gweld diwedd ar fewnfudwyr yn cael eu cadw am
gyfnodau amhenodol dan bwerau mewnfudo, ac yn gofyn i derfyn amser o 28 diwrnod
gael ei gyflwyno fel rhan o’r Ddeddf Mewnfudo newydd”
Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig.