Agenda item

(adroddiad ar lafar)

Cofnod:

Cyflwynwyd ystadegau i’r Cyd-bwyllgor yn ystod y cyfarfod a oedd yn amlinellu canlyniadau, prif  ddeilliannau a materion i’w hystyried. 

 

Tywysodd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y Cyd-bwyllgor drwy’r adroddiad gan nodi  fel a ganlyn:

 

(a)  Cyfnod Sylfaen

 

·         mai perfformiad GwE yw’r isaf o’r holl gonsortia rhanbarthol.  Fodd bynnag, roedd arweiniad cenedlaethol wedi tynnu sylw at yr angen am lwyfandir mewn perfformiad ar draws Cymru ynghyd a phroses safoni a gwirio cadarn.

·         Bod asesiadau athrawon yn parhau i fod yn bryder.

·         Bod cynnydd mewn perfformiad disgyblion PYD mewn 4 awdurdod o 2014 ac yn sylweddol felly yng Ngwynedd a Môn

·       Bod cynnydd mewn perfformiad  o 2014 ar draws yr holl

ddangosyddion ar lefel uwch. Fodd bynnag, mae cynnydd rhanbarthol yn y Gymraeg yn llai na chynnydd cenedlaethol.

·       Bod rhai ysgolion wedi perfformio islaw'r canolrif y meincnodau

PYD mewn dangosyddion allweddol dros gyfnod treigl o dair blynedd a bod  angen herio'r ysgolion hyn yn gadarn.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y materion uchod yn ddisgwyliedig.

 

(b)  Cyfnod Allweddol 2

 

·         Bod perfformiad GwE wedi cynyddu, fodd bynnag fel yn y Cyfnod Sylfaen, bod arweiniad cenedlaethol wedi tynnu sylw at yr angen am lwyfandir mewn perfformiad ar draws Cymru ynghyd a phroses safoni a gwirio cadarn.

·         Bod asesiadau athrawon yn parhau i fod yn bryder

·         bod cynnydd mewn perfformiad disgyblion PYD, fodd bynnag, roedd ychydig o ostyngiad mewn perfformiad ar gyfer Gwynedd a Môn

·         bod cynnydd mewn perfformiad o 2014 ar draws yr holl ddangosyddion ar lefel disgwyliedig a’r cynnydd yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer pob pwnc craidd

·         bod yr uchod yn unol â’r disgwyl ond eto mae rhai ysgolion yn perfformio o dan y perfformiad cenedlaethol ac angen sylw penodol fel rhan o’r broses herio

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

(i)            gofynnwyd pa mor gadarn yw Llywodraeth Cymru ynglŷn ag anghysondebau asesiadau athrawon ac a yw’r Undebau Athrawon yn herio’r Llywodraeth ynghylch hyn?

 

Mewn ymateb, esboniodd Mr Geraint Rees, Llywodraeth Cymru, y gosodwyd cytundeb gyda’r 4 rhanbarth i weithredu ar y cyd gyda’r broses yn ei le am y tro cyntaf eleni.  Nodwyd bod amrywiaeth rhwng y 4 rhanbarth yn sylweddol yng Nghyfnod Allweddol 2.  O safbwynt Cyfnod Allweddol 4, nodwyd bod y bwlch yn lleihau.  Nodwyd ymhellach bod y broses categoreiddio angen gweithrediad cadarn a’r cam nesaf fyddai tynhau cymedroli asesiadau athrawon.  Rhaid i’r broses ddigwydd ac o ganlyniad fe fydd rhaid cael gwared â’r diffyg hyder. 

 

(ii)           A yw’r Undebau yn gytûn ac a oes rhai Siroedd yn wynebu problemau, os oes, a fyddai’n syniad i gael trafodaeth gyda’r Gweinidog Addysg?

 

Mewn ymateb, nodwyd bod cyfarfod gyda’r Undebau Llafur yn fuan er mwyn derbyn mewnbwn o sut mae pethau’n mynd.  Hefyd, byddai cyfle i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor godi’r mater gyda’r Gweinidog Addysg mewn cyfarfod sydd wedi ei drefnu ar gyfer 16 Hydref.

 

(iii)          Bod y diffyg hyder yn creu ansicrwydd i ddysgwyr ac athrawon a rhaid cynnal trafodaeth ynglŷn â pham bod angen cael cysondeb yn y cymedroli.

 

Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y byddai’r adroddiad terfynol ar gael mis Tachwedd ar y broses wirio lle ceir ffigyrau cymharol gyda Siroedd eraill.  Er y byddai’r sampl yn fychan ac o ganlyniad ddim yn rhoi'r darlun cyflawn.  Byddai categoreiddio ysgolion cynradd yn broses cenedlaethol ond roedd yn her eleni gan fod Cam 1 o’r categoreiddio yn dangos gwahaniaethau. 

 

 

(iv)         Byddir wedi gwerthfawrogi mwy o amser i ddadansoddi’r ystadegau  oedd gerbron.  Tra’n derbyn bod pryder ynglŷn ag asesiadau athrawon roedd cwestiwn ynglŷn ag awdurdodau yn gosod targedau oherwydd gall targedau ysgolion fod yn wahanol mewn Siroedd eraill.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod y broses yn mynd i gael effaith ac fel rhanbarth bod sustem gosod targedau yn weithredol.

 

Nododd Mr Ian Budd (Cyfarwyddwr ArweiniolCadeirydd y Bwrdd Rheoli) bod dadansoddiad mynegol cynnar o berfformiad CA4 yn ddefnyddiol ond y byddai modd  dadansoddi yn ddyfnach erbyn cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd.

 

Ychwanegwyd bod rhaid anfon neges glir i Lywodraeth Cymru am yr angen i dderbyn hyfforddiant fel bo modd canolbwyntio ar gysondeb oherwydd ei fod yn amlwg bod llawer o le i ddysgu.

 

(v)          Cwestiynwyd a oes hyder yn y broses tracio gan fod hyn yn bwysig er mwyn adnabod cryfderau a gwendidau disgyblion.  Dylid gallu  annog  plant i gyrraedd eu potential yn ogystal â'r rhai nad ydynt yn cyflawni cystal.

 

(c)    Cyfnod Allweddol 3

 

·         Bod perfformiad GwE yr uchaf o’r oll gonsortia. 

·         Fodd bynnag, yng nghyd-destun perfformiad CA4, bod hyn yn codi pryder ynglyn a dibynadwyedd asesiadau athrawon

 

(ch)    Cyfnod Allweddol 4

 

·         Bod ychydig welliant o +0.2% yn y dangosydd allweddol o’i gymharu â 2014. Fodd bynnag, roedd gwelliant sylweddol llai na'r gwelliant cenedlaethol o rhwng +2>3% ac nad yw’r cynnydd yn dderbyniol.

·         ar gyfartaledd, bod gwelliant o +3.5% mewn ysgolion categori ambr / coch mewn cymhariaeth â 2014. Mae ysgolion unigol wedi gweld gwelliannau arwyddocaol. Mae hyn yn adlewyrchu effeithiolrwydd y rhaglenni ymyrraeth yn yr ysgolion hynny. Fodd bynnag, nid yw canran fach o'r ysgolion hyn yn gwneud y perfformiad a ddisgwylir.

·         perfformiad siomedig i ysgolion categori gwyrdd a melyn gyda thanberfformiad sylweddol mewn ysgolion unigol a oedd yn hanesyddol yn perfformio’n dda

·         mwyafrif o ysgolion Gogledd Cymru eleni wedi gweld osgiliad yn eu perfformiad gyda gwahaniaethau sylweddol mewn rhai ysgolion a bod gormod o ysgolion lle mae prosesau tracio mewnol ddim digon cadarn

·         perfformiad mewn Saesneg a Mathemateg yn parhau i achosi pryder sylweddol mewn ysgolion ar draws y rhanbarth

·         pryder ynglyn a pherfformiad TGAU Gwyddoniaeth i’r dyfodol oherwydd diflaniad y BTEC o ran mesur perfformiad yn 2017

 

Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE  nad oedd cynnydd o ganlyniadau 2014 ac nad oedd y rhanbarth yn dal i fyny gyda chyflymder y cynnydd yn genedlaethol.  Tra’n cydnabod bod y cohort yn amrywio mewn ysgolion unigol ac ni ellir disgwyl cynnydd bob blwyddyn rhaid ystyried camaugweithredol addas.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

(i)            diolchwyd am y data a chytunwyd bod anghysondebau asesiadau athrawon angen sylw ond nid oedd sicrwydd o’r hyn a fwriedir o safbwynt y broses cymedroli

(ii)           awgrymwyd a ddylid ail-addasu’r cynllun busnes ac a fyddai modd derbyn gwybodaeth pam bod cynnydd yn digwydd mewn rhai rhanbarthau a beth sydd yn digwydd mewn ysgolion lleol

(iii)          a yw’r model ac adnoddau presennol yn addas a phriodol

(iv)         rhaid sicrhau gweithrediad buan er mwyn mynd i’r afael a pherfformiad CA4 mewn Mathemateg a Saesneg

(v)          Mae angen am ddadansoddiad llawer mwy cadarn ar y ffactorau yn deillio o berfformiad CA4. O'r deialog gydag ysgolion, mae'n rhaid rhoi'r gorau i fwgwth ysgolion, a bod eglurder ar yr hyn sy'n digwydd yng Ngogledd Cymru.  Byddai cynnal deialog gyda Phenaethiaid yn ddefnyddiol fel y gallent ymhelaethu ar y rhwystrau.

(vi)         o ystyried y negeseuon ar dudalennau 16/17 o’r data, pryderwyd a oes digon o gapasiti i lenwi'r bylchau yn enwedig pan gollir athrawon da i swyddi canolog ac yn sgil hyn  diffyg recriwtio Penaethiaid / athrawon.

(vii)        nodwyd bod rhai ysgolion Her Cymru wedi gwneud cynnydd aruthrol a rhai wedi dirywio

(viii)       Nad oedd categoreiddio ysgolion mewn lliwiau o gymorth i ysgolion  

(ix)         bod rhaid i’r safon addysg fod y gorau posibl i’r disgyblion ac os yw ysgolion mewn trafferthion rhaid sicrhau cefnogaeth fuan iddynt. 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nodwyd bod y broses o ddadansoddiad yn mynd rhagddo yn ogystal â’r trosolwg rhanbarthol ond cydnabuwyd bod angen dadansoddi fesul awdurdod ac yn hyn o beth efallai y bydd y gefnogaeth yn amrywio o awdurdod i’r llall.  Fe fyddir yn cyflwyno adroddiad pellach i’r Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi'r ystadegau a gyflwynwyd ynghyd a’r sylwadau wnaed uchod.

 

                                    (b)       Cymeradwyo i dderbyn adroddiad pellach yng

nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd.