Cyflwynwyd gan:Cyng / Cllr. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Dilwyn Morgan
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod ymarfer
a pherfformiad cyffredinol yn y Maes Plant yn ei gyfanrwydd yn gadarn. Nodwyd
fod Adroddiad Arolygiad Llawn gan Arolygaeth Gofal Cymru yn cadarnhau
perfformiad yr adran. Ategwyd fod yr adroddiad yn nodi fod gan y gwasanaeth
gryfderau sylweddol a gweithlu ymrwymedig a chadarn. Ychwanegwyd fod yr
arolygiad wedi adnabod pedwar maes i’w ddatblygu ond fod rhain yn cyd-fynd â’r
blaenoriaethau sydd yng Nghynllun y Cyngor.
Tynnwyd sylw at adolygu’r cynllun ‘Dechrau
i’r Diwedd’, gan nodi fod nifer y lleoliadau preswyl wedi lleihau. Pwysleisiwyd
er bod niferoedd yn lleihau, nid oedd yr adolygiad wedi cymryd i ystyriaeth y
cynnydd mewn costau’r lleoliad. Ategwyd mai dyma yw’r prif reswm dros orwariant
yr adran ac ychwanegwyd fod adroddiad penodol ar hyn yn cael ei baratoi gan yr
adran, ar y cyd â’r Adran Gyllid, er mwyn egluro’r mater yn fanylach.
Pwysleisiwyd blaenoriaethau’r adran gan nodi
eu bod yn cyd-fynd â’r tri chynllun gwella sydd yng Nghynllun y Cyngor. Ategwyd
fod gwaith cychwynnol y Strategaeth Cefnogi Teuluoedd Gwynedd wedi dechrau a
bod yr adran wedi adnabod beth yw’r galw am gefnogaeth i deuluoedd yn ogystal â
mapio pa ddarpariaeth sydd ar gael. Mynegwyd y bydd trafodaeth gychwynnol gyda
phartneriaid allweddol wedi digwydd erbyn y Cylch adrodd nesaf am y
Strategaeth.
Tynnwyd sylw fod gwaith Cydymdrechu yn erbyn
Tlodi bellach wedi trosglwyddo i’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Ychwanegwyd
oherwydd bod amserlen gyflwyno Credyd Cynhwysol yn y sir wedi llithro y bydd y
prosiect yn cadw yn fyw hyd at ddiwedd Mawrth i gefnogi pobl i ymdopi â’r
newidiadau.
Nodwyd ei bod yn galonogol fod yr Arolygaeth
Gofal Cymru yn disgrifio Panel Rhiant Corfforaethol yn uchelgeisiol ar gyfer y
Plant Mewn Gofal. Ychwanegwyd fod gwaith pellach wedi digwydd i geisio adnabod
ble mae angen gwella ac adnabod ymarfer da drwy’r grwpiau tasg sydd wedi eu
sefydlu. Mynegwyd pryder mai ychydig dros hanner yr aelodau etholedig sydd wedi
mynychu’r hyfforddiant ‘Rhiantu Corfforaethol’, a nodwyd y bydd mwy o sesiynau
yn cael eu cynnal er mwyn i aelodau ddeall eu cyfrifoldebau yn y maes.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth
- Nodwyd fod yr adran bellach yn edrych ar eu
mesurau a’u pwrpas gan fod rhai mesurau bellach wedi eu dileu gan nad ydych yn
mesur data sydd yn bwysig i drigolion Gwynedd.
- Trafodwyd cost lleoliadau all sirol gan holi
os oes unrhyw beth y gall yr adran wneud i osgoi'r costau. Nodwyd fod niferoedd
wedi lleihau gan fod mwy o gefnogaeth ar gael yn y cartref. Ychwanegwyd fod
cynnydd yn y gost oherwydd bod y problemau sydd yn cael eu delio o fewn y
lleoliadau yn fwy dwys ac o ganlyniad mae darparwyr yn codi swm uwch.
Ychwanegwyd fod hon yn broblem genedlaethol a bod trafodaeth ranbarthol yn cael
ei gynnal yn edrych ar y mater.
-
Tynnwyd
sylw nad yw gorwariant o fewn yr adran yn broblem newydd a codwyd y cwestiwn os
yw’r rhag damcaniaethau cyllidol yn gywir ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Mynegwyd
nad oes modd rhagweld y nifer o bobl ifanc y bydd angen lleoliadau all sirol ar
eu cyfer, na’r cynnydd mewn costau, ac o ganlyniad fod gosod cyllideb gadarn
i’r adran yn anodd. Ychwanegwyd fod y Pennaeth Cyllid a’r Gwasanaeth
Dadansoddeg ac Ymchwil yn edrych i mewn i’r lefelau chwyddiant a ddefnyddir yn
y cyllidebau a gwybodaeth arall gymharol ar hyn o bryd
Awdur:Morwena Edwards
Dogfennau ategol: