I dderbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn 2017-2018
Cofnod:
Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2017/18
Er bod 2017/18 wedi bod yn flwyddyn heriol adroddwyd bod y Gronfa wedi
derbyn dychweliadau cadarnhaol ac wedi adeiladu ar y lefel ariannu. Bu cynnydd
o 10.8% mewn aelodau’n cyfrannu i’r cynllun a chynnydd o 4.3% yn y niferoedd
pensiynwyr sydd yn y cynllun. Diolchwyd i’r cyflogwyr oedd wedi cyflwyno data
yn gywir a chyflym ac eglurwyd bod hyn yn hanfodol er mwyn i’r Uned Bensiynau
ddiweddaru cofnodion cyflogwyr a chynhyrchu buddion blynyddol yn amserol ar
gyfer bodloni’r Rheoleiddiwr Pensiynau. Nodwyd y bydd
cyflwyno data cywir ac amserol yn hanfodol ar gyfer 2019 fel dyddiad prisiad teirblynyddol.
Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod wedi holi Actiwari’r
Gronfa ynglŷn â beth fyddai canlyniad prisiad teirblynyddol
2019 yng nghyd-destun penderfyniad Actiwari’r
Llywodraeth i godi cyfradd cyfrannu’r Cynllun Pensiwn Athrawon o 16% i 24% ym
mis Medi 2019. Eglurwyd bod y naid sylweddol yma yn digwydd oherwydd bod
lefelau cyfraddau’r athrawon yn ceisio dal i fyny o lefelau hanesyddol oedd yn
rhy isel ac addasiad i raddfa disgownt SCAPE oedd ond yn cael ei adolygu bob
pum mlynedd. Mynegwyd nad oedd y ffactorau hyn yn mynd i effeithio’r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cyfeiriwyd at ymrwymiadau’r cynllun Pensiwn, gan adrodd bod y Gronfa
wedi bod yn gweithredu’n ddarbodus, a’r ffactor fydd yn dylanwadu fwyaf ar y
prisiad fydd dychweliadau buddsoddi a gwerth yr asedau. Er i’r farchnad stoc fod yn heriol yn 2017/18
adroddwyd bod y Gronfa yn parhau i adeiladu ar berfformiad buddsoddi rhagorol
2016/17 ac yn 2017/18 cafwyd dychweliadau buddsoddi o £56m (3%) gan asedau’r
Gronfa. Roedd hyn yn adlewyrchu marchnadoedd gwannach o’i gymharu â 22% a
ddychwelwyd y flwyddyn flaenorol, ond roedd y cynnydd pellach a welwyd yn ystod
chwarter cyntaf 2018/19 yn ddigon i weld gwerth y Gronfa yn tyfu i fwy na dau
biliwn o bunnoedd.
Eglurwyd bod elfen o dwf sylweddol 2016/17 yn adlewyrchu effaith cwymp y
bunt ar werth buddsoddiadau byd eang. Dosbarthwyd graff a gafodd ei baratoi gan
Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa oedd yn gwahanu’r elfennau twf mewn gwerth
ecwiti rhwng gwerth arian lleol a gwerth mewn punnoedd. Ategwyd bod y twf mewn
gwerth asedau yn galonogol gyda Chronfa Gwynedd wedi ariannu 91% ym mhrisiad teriblynyddol 2016 (oedd o fewn y 10 uchaf yng Nghymru a
Lloegr) wrth ddefnyddio rhagdybiaethau actiwaraidd
darbodus. Ar gyfer prisiad 2019, dylai cryfder y Gronfa ganiatáu cymryd agwedd
hyblyg tuag at gyfraddau cyfrannu cyflogwyr effeithiol o 2020.
Nodwyd y byddai trefn buddsoddi i’r dyfodol yn newid a chyfeiriwyd at
egwyddorion buddsoddi cyfrifol a datblygu Partneriaeth Pensiwn Cymru. Gyda
strategaeth fuddsoddi’r Gronfa yn canolbwyntio ar asedau twf, disgwylir
dychweliadau mwy deniadol na’r dychweliadau gellid ennill o fuddsoddiadau risg
isel. Yn adeiladu ar hynny adroddwyd bod Pwyllgor Pensiynau Gwynedd a Bwrdd
Pensiwn y Gronfa, ar y cyd, wedi datblygu egwyddorion buddsoddi cyfrifol sydd
yn ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.
Ategodd Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn bod angen gwybodaeth dryloyw yng
nghyd-destun arian sydd yn cael ei fuddsoddi yn erbyn dychweliadau gorau i’r
Gronfa. Cyfeiriodd at yr egwyddorion roedd y Pwyllgor a’r Bwrdd wedi eu paratoi
a diolchwyd i’r swyddogion ac i Hymans am drefnu’r
gweithdy a chydlynu’r drafodaeth. Ategodd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur,
ond bod sylfaeni cryf wedi eu gosod.
Adroddwyd bod gan y Pwyllgor Pensiynau ddyletswydd ymddiriedol orfodol i
sicrhau bod ystyriaethau ariannol yn cario mwy o bwysau nac ystyriaethau
anariannol, ond yn cydnabod hefyd bod ganddynt ddyletswydd i fod yn fuddsoddwyr
cyfrifol i ymgysylltu gyda chwmnïau a newid ymddygiad corfforaethol i
ddylanwadu ar allbynnau. Ategwyd bod y Gronfa yn agored i risgiau megis newid
yn yr hinsawdd, a’r disgwyliad i drawsnewid i economi carbon isel. Y bwriad yw
gwella deilliannau ariannol wrth reoli pa mor agored i risgiau o’r fath y mae’r
Gronfa.
Adroddodd Cadeirydd y cyfarfod bod gwaith yn parhau i bŵlio buddsoddiadau gyda saith cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol arall yng Nghymru, gyda’r Bartneriaeth wedi ei sefydlu yn ffurfiol ym mis
Mawrth 2017. Ategwyd bod Link Asset Services wedi ei
benodi fel gweithredwr llwyfan buddsoddi mewn partneriaeth gyda Russell Investments fel rheolwr buddsoddi ac ymgynghorydd pŵl.
Er y pŵlio, bydd yr 8 gronfa yn cael parhau i
weithredu eu strategaethau buddsoddi unigol. Yn Awst 2018, awdurdodwyd ACS
Partneriaeth Cymru gan y Financial Conduct Authority i gynnig dwy is-gronfa ecwiti byd eang i ddisodli
mandadau ar wahân y cronfeydd unigol gyda rheolwyr buddsoddi. Adroddwyd y
byddai Gwynedd yn trosglwyddo asedau i’r is-gronfeydd.
Amlygodd Cadeirydd y cyfarfod bod y newidiadau i reoli cronfa bensiwn yn
newid sylweddol gyda sawl un yn pryderu o rôl y Pwyllgor o fewn y drefn newydd.
Yn dilyn cyflwyniadau gan y 10 Rheolwyr Asedau, amlygwyd bod mwy o gyfleoedd
ar gael drwy gydweithio. Cyfeiriwyd at y
Rheolwyr Asedau newydd gan amlygu ychydig ar eu harbenigedd amrywiol. Nodwyd y
byddai’r dewis eang mewn arbenigedd o fudd i Wynedd. Bwriedir trosglwyddo £600m
o asedau ecwiti byd eang yn hafal rhwng dwy is-gronfa y Bartneriaeth. Bydd
disgwyl gwireddu arbedion pellach o ffioedd drwy pŵlio,
ynghyd ag elwa ar fanteision nad oedd yn bosib fel cronfa unigol, gan ddal i
gadw perchnogaeth a chyfrifoldeb am fuddsoddiadau’r Gronfa.
Etholwyd y Cynghorydd Stephen
Churchman yn Gadeirydd cyntaf cydbwyllgor y
Bartneriaeth. Mynegodd fod y cyfnod wedi bod yn un cyffrous a bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud yng ngwaith y
Bartneriaeth. Diolchwyd i’r swyddogion am
eu gwaith ac i’w gyd-aelodau ar y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn am eu cefnogaeth.
Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth yn ystod
2017/18.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag eraill fydd yn defnyddio’r rheolwyr asedau a ddewiswyd gan Russell Investments, nodwyd bydd pob
cronfa (gan gynnwys Gwynedd) o’r
wyth gronfa yng Nghymru yn defnyddio
naill neu’r llall o’r ddwy is-gronfa.
Ategwyd mai Gwynedd a Chastell Nedd yn unig fydd yn buddsoddi yn y ddwy is-gronfa, gyda Russell Investments
yn gweithredu trosolwg rheolaethol dros
yr ail is-gronfa. Nodwyd bod y saith cwmni yn yr ail is-gronfa yn newydd i bob un o’r 8 cronfa Cymreig. Eglurwyd y bu cyfyngiadau yn y gorffennol o ran gallu cronfeydd C.P.Ll.L. i gaffael rheolwyr asedau tramor, ond cyfleoedd yn codi gyda hyn.
PENDERFYNWYD DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN AM 2017/18
Dogfennau ategol: