skip to main content

Agenda item

Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

 

 

Cofnod:

          Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig)

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 25 Mehefin i ohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am effaith gronnol unedau gwyliau'r ardal y cais. Ategwyd bod y cais yn ymwneud a  dymchwel sied bresennol ac adeiladu 2 uned gwyliau unllawr. Nodwyd bod adroddiad diwygiedig wedi ei ddosbarthu i’r aelodau.

 

O ran egwyddor y datblygiad nodwyd bod Polisi TWR 2 CDLL yn gefnogol i ddatblygu llety gwyliau parhaol newydd gyda gwasanaeth neu rai hunanwasanaeth, i drosi adeiladau presennol i lety o’r fath neu i ymestyn sefydliadau llety gwyliau sy’n bodoli.

 

Cyfeiriwyd at yr ychwanegiadau yn yr adroddiad diwygiedig gan dynnu sylw penodol at baragraffau 5.3 a 5.4 oedd yn ymwneud a gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr asiant ynghyd a gwybodaeth a gasglwyd gan y swyddogion cynllunio oedd yn ymateb i bryder y pwyllgor am effaith gronnol datblygiadau llety gwyliau. Amlygwyd bod y paragraffau hyn yn egluro nad yw tai haf a llety gwyliau yn cael eu ystyried i fod yr un peth yn nhermau cynllunio ac felly anodd iawn yw rhoi ystyriaeth i dai haf wrth asesu effaith gronnol llety gwyliau. Cyfeiriwyd at wybodaeth yn yr adroddiad oedd wedi ei ddarparu gan Uned Trethi’r Cyngor ynglŷn â nifer unedau gwyliau hunangynhaliol plwyf Nefyn (oedd yn cynnwys Nefyn, Morfa Nefyn ac Edern). Atgoffwyd yr Aelodau bod materion megis mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth eisoes wedi eu trafod ac felly  tynnu sylw penodol yn unig at y wybodaeth ychwanegol a wnaed. 3.8% yn unig yw’r effaith gronnol o unedau gwyliau yn yr ardal yma.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod Cynghorwyr wardiau ffiniol yn rhannu ei bryderon

·         Nad oedd gwahaniaeth amlwg rhwng ystyr tai haf ac uned gwyliau. Nid yw’r diffiniad yn bendant bellach yn dilyn codi treth (hyd at 50%)

·         Gwelir cynnydd sylweddol mewn tai haf yn cael eu trosi yn unedau gwyliau er mwyn osgoi talu’r dreth a manteisio ar TWR 2 i godi mwy o unedau gwyliau mewn gerddi

·         Tŷ Haf yw Tŷ Haf sef tŷ sydd ddim ar gael i bobl leol ond yn gysylltiedig â chodi pris y farchnad sydd yn atal pobl fyw yn eu cynefinoedd

·         Bod mwy o lawer o niferoedd na’r hyn sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad -Swyddogion heb gynnwys 318 o dai haf ychwanego sydd o fewn y plwyf ac ni oeddynt wedi ystyried perthynas pentref cyfagos Pistyll gyda Nefyn na datblygiad Natural Resources

·         Nid yw carfanau sefydlog wedi cael eu hystyried

·         Bod hyn yn creu effaith andwyol ar y defnydd o Gymraeg. Nifer siaradwyr Cymraeg wedi gostwng es y cyfrifiad diwethaf

·         A oes gwir angen unedau ychwanegol?

·         Beth yw gormodedd? Angen ffigwr pendant cyn gweithredu TWR 2

·         Nid yw ychwanegiad o ddau yn ymddangos yn llawer ond mae dau bob yn dipyn yn ychwanegu at y niferoedd

·         Nid oes dim yn rhwystro'r ymgeisydd rhag datgan nad yw’r unedau busnes yn hyfyw ac felly gellid tynnu amod a gwerthu’r tai ar y farchnad agored - rhy hawdd tynnu amodau yn ôl.

·         Rhaid edrych ar y darlun ehangach

 

(c)       Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail gormodedd

 

         Awgrymodd yr eilydd ddefnyddio TWR 2.5 fel rheswm gwrthod - gormodedd.  Gofynni’r cwestiwn os yw’r busnes yn hyfyw. Amlygwyd bod cynllun busnes Ty’n Pwll yn cyfeirio at  dai gwyliau eraill cyfagos sydd yn awgrymu y byddai’r busnes yn cymryd busnes gan eraill all dystiolaethu gormodedd. Wrth ystyried y canllawiau cynllunio sydd yn ymwneud a’r  maes nodwyd, yn dilyn cyfnod o ymgynghori  bod argymhelliad am well diffiniad o ormodedd.

 

 (ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Cwt sinc ydyw – faint sydd yn ein hardaloedd ni all gael eu haddasu o dan TWR 2

·         Gormodedd – Galw ac angen? Dim angen yma.

·         Chwarae ar eiriau drwy wahaniaethu rhwng tai haf a llety gwyliau

·         Diffyg diffiniad clir yn creu sefyllfa bryderus iawn.

 

·         Bod unedau gwyliau yn cael eu rheoli

·         Ymwelwyr yn dod a budd i’r economi leol

·         Os gwrthod am y rhesymau gormodedd, beth yw’r sefyllfa petai’r cais yn cael ei gyfeirio at apêl

 

(d)    Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio ei fod yn cydnabod dadleuon yr Aelod Lleol ynghyd a sylwadau’r cynigydd a’r eilydd o ran dwysedd ‘gwyliau’ - nododd bod angen bod yn eglur wrth ystyried y diffiniad. Pwysleisiodd mai cais ydoedd ar gyfer llety gwyliau ac nid cais ar gyfer tŷ parhaol. Petai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai amod arferol yn cael ei gynnwys i gyfyngu’r defnydd i ddefnydd gwyliau yn unig. Cyfeiriodd at yr ystadegau diweddaraf oedd wedi eu cyflwyno oedd yn cyd-fynd a diffiniad llety gwyliau o fewn y plwyf. O safbwynt y swyddogion cynllunio, nododd bod y diffiniad,  y niferoedd, a’r  argymhellid yn gywir a chadarn. Rhagrybuddiwyd yr aelodau y byddai gwrthod, yn golygu risg o apêl a chostau i’r Cyngor, ac os mai’r penderfyniad yw mynd yn groes i’r argymhelliad disgwylid i'r cynigydd a’r eilydd arwain amddiffyniad y Cyngor yn yr apêl gyda chefnogaeth swyddogion.

 

Mewn ymateb i sylw am ddiffiniad cadarn o dŷ haf / llety gwyliau, amlygodd mai'r gyfraith sydd yn diffinio beth yw tŷ a gyda hyn petai angen newid y diffiniad byddai angen lobio i geisio addasiad.

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd diffiniad cadarn o ormodedd ac felly mater i’r pwyllgor yw penderfynu os yw cais yn ormodedd ategodd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod rhaid i’r Pwyllgor ystyried yr ystadegau oedd wedi eu cyflwyno.

        

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar yr argymhelliad a phleidleisiodd mwy na chwarter yr aelodau oedd yn bresennol o blaid hynny.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar yr argymhelliad:-

 

O blaid (7)

 

Y Cynghorwyr Berwyn Parry Jones, Eric Merfyn Jones, Huw Wyn Jones, Dilwyn Lloyd, Catrin Wager, Eirwyn Williams ac Owain Williams

 

Yn erbyn (4)

 

Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Anne Lloyd-Jones, Edgar Owen a Cemlyn Williams

 

Atal (1)

 

Y Cynghorydd Louise Hughes

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rhesymau – gormodedd - defnyddio TWR 2.5 fel rheswm gwrthod

Dogfennau ategol: